Rhoi Organau

Argraffu
PDF

Dych chi'n berson sy'n cario 'Cerdyn Rhoddwr' (Donor Card)? Dych chi'n berson sy eisiau i'ch organau chi fynd i rywun arall ar ôl i chi farw? Dych ch'n credu bod cael y dewis i roi eich organau neu ddim yn ddewis pwysig? Neu dych chi, fel Llywodraeth Cymru, yn credu mewn system optio allan o roi organau?

Mae'r Llywodraeth wedi cyhoeddi Papur Gwyn ymgynghorol (White Paper consultation) ar y mater ac mae'r amser i ymgynghori yn dod i ben ar 31 Ionawr 2012. Bydd y Llywodraeth wedyn yn cyflwyno Mesur (Bill) ar y mater yn y Senedd; os bydd y Senedd yn pasio'r Mesur, mae'n bosibl y bydd Cymru yn symud i system optio allan erbyn 2015.

Mae nifer o bobl enwog wedi dod allan o blaid ac yn erbyn system optio allan. Un o'r bobl sy yn erbyn y cynllun ydy Archesgob Cymru, Dr Barry Morgan. Mae Dr Morgan o blaid rhoi organau a chario 'Cerdyn Rhoddwr'; ond mae e yn gryf yn erbyn gorfodi pobl i roi eu horganau os dyn nhw ddim wedi optio allan. Yn ôl Dr Morgan, dewis i'r unigolyn ydy rhoi organau a dim rhywbeth i'r Llywodraeth ei benderfynu.

Beth ydy'ch barn chi ar y mater? Cofiwch, os dych chi eisiau dweud eich dweud, mae'n rhaid ymateb erbyn 31 Ionawr 2012.    

Add new comment


Security code
Refresh