Brrr!

Argraffu
PDF

Wyt, Ionawr, yn oer, a'th farrug yn wyn
A pha beth a wnaethost i ddŵr y llyn?

(January, you are cold and your frost is white
And what have you done to the water of the lake?)

Dyna eiriau'r hen gerdd. Eleni doedd Ionawr ddim mor oer; ar adegau roedd hi'n fwyn iawn ond roedd hi'n wlyb iawn hefyd. Ond mae'n siŵr bod rhywun wedi cofio geiriau'r hen gerdd ac wedi dweud wrth Morus y Gwynt!

Ac, yn wir, erbyn diwedd Ionawr roedd Morus wedi dechrau chwythu aer oer iawn o Siberia dros Ewrop i'n cyrraedd ni yma yng Nghymru fach! Ac mae'r wythnos yma wedi bod yn oer iawn a rhewllyd - wythnos oeraf y gaeaf yma. (Ond diolch byth, ddim mor oer a'r gaeaf diwethaf!)

A dyma ni wedi cyrraedd Chwefror - neu'r Mis Bach, fel mae'n cael ei alw yn Gymraeg. I'r hen Geltiaid, dyma ddechrau'r gwanwyn pan oedd golau'r haul yn dechrau dod yn gryf eto a dyddiau tywyll hir y gaeaf yn dechrau diflannu. 

Roedd y dduwies Brigid yn bwysig i'r Celtiaid; ro'n nhw'n dathlu ei diwrnod hi - Imbolc - yr amser yma o'r flwyddyn. Daeth Brigid hefyd yn un o seintiau'r Eglwys Gristnogol ac mae'r Eglwys yn dathlu diwrnod Santes Brigid ar Chwefror 1af. Mae hi'n berson pwysig yn hanes Geltaidd a Christnogol Iwerddon.

Ond dyn ni hefyd yn cofio Santes Brigid yma yng Nghymru, lle dyn ni'n ei galw hi yn Brid neu Ffraid. Mae llefydd o'r enw Saint-y-brid ym Morgannwg (St Bride's Major) a Gwent (St Bride's netherwent) ac mae 13 o lefydd ar draws Cymru o'r enw Llansantffraid.

Felly, croeso cynnes i fis Chwefror a Brid/ffraid; gobeithio bydd tymor mwyn y gwanwyn gyda ni cyn hir! 

Add new comment