Dŵr - mae digon o ddŵr yng Nghymru a'r Alban a dim digon mewn rhannau o Loegr. A nawr mae pobl yn siarad am greu grid dŵr i symud dŵr o gwmpas Prydain. Mae pobl eraill yn dechrau siarad eto am godi cronfeydd dŵr (reservoirs) newydd ar gyfer ardaloedd sych Lloegr.
Mae pobl wedi bod yn boddi (to flood/drown) ardaloedd yng Nghymru i greu cronfeydd dŵr i gario dŵr i Loegr ers dros 100 mlynedd. Yn 1892 adeiladodd dinas Lerpwl gronfa ddŵr Llyn Efyrnwy a rhwng 1893 a 1904 adeiladodd dinas Birmingham sawl cronfa ddŵr yng Nghwm Elan.
Yn y 1950au a'r '60au roedd llawer o brotestio yng Nghymru pan oedd Lerpwl a Birmingham eisiau boddi mwy o ardaloedd yng Nghymru i gario dŵr o Gymru i Loegr. Doedd y Llywodraeth yn Lludain ddim yn barod i wrando ar lais pobl Cymry a chafodd dinas Lerpwl ganiatad i foddi pentref Capel Celyn ac Afon Tryweryn ger y Bala i greu cronfa ddŵr Llyn Celyn. Yn 1965 ar Afon Clywedog yn y mynddyddoedd ger Llanidloes dechreuon nhw adeiladu cronfa fawr newydd i storio dŵr ar gyfer ardal Birmingham; agorodd Llyn Clywedog yn 1967.
Does neb wedi boddi ardal yng Nghymru i storio dŵr ar gyfer Lloegr ers y 1960au, ond tybed fydd pethau'n newid yn y dyfodol? A tybed fasai pobl Cymru yn fodlon boddi ardal neu ddwy er mwyn gwerthu dŵr i Loegr?




