Cystadlaethau dysgwyr Eisteddfod Genedlaethol 2011

Argraffu
PDF
Cyhoeddwyd gan Rhys

 

SO1708 : Pafiliwn yr Eisteddfod o'r A4046 / The Eisteddfod pavilion from the A4046 by Ceri Thomas

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei chynnal yn Wrecsam eleni.

Bob blwyddyn, mae cystadlaethau arbennig ar gyfer dysgwyr o bob lefel. Mae’r manylion ar y ddogfen Rhestr Testunau. Mae cystadlaethau llwyfan (canu, adrodd ac actio) a chyfansoddi (ffuglen, barddoniaeth, deunydd dysgu). Does dim rhaid i chi gystadlu ar eich pen eich hun, achos bod rhai cystadlaethau fel côr, drama neu waith grŵp – beth am gystadlu gyda pobl yn eich dosbarth?

PWYSIG:
Y dyddiad cau ar gyfer gwaith cyfansoddi ydy 1 Ebrill 2011, a’r dyddiad cau ar gyfer cystadlaethau llwyfan ydy 1 Mai 2011. Mae’r ffurflen gais ar gyfer cyfansoddi yma, a’r llwyfan yma.

Dyma restr o ddigwyddiadau pwysig eraill.

Ar faes yr eisteddfod pob blwyddyn, mae pabell o’r enw Maes D sy’n arbennig ar gyfer dysgwyr. Fel arfer, maen nhw’n chwilio am wirfoddolwyr i weithio yno am ychydig oriau. Beth amdani? Enfys Thomas yw Swyddog y Dysgwyr ar gyfer Eisteddfod 2011.

This post is also available in: English

Add new comment