Dyddiadur Nia

Argraffu
PDF

nia-banner-02

Medi '11

dan ni = dyn ni (we...)
ym mhob tywydd – in all weathers
profiadau – experiences
hoffus – likeable
trefnu – to arrange
sglefrfa – ice rink
stondinau – stalls
ceirw – deer
disgwyl – to expect
efeilliaid – twins
Pen Llŷn – Llŷn Peninsula

Roedd haf 2011 yn un hapus a hyfryd! Barbeciws (yn y glaw), teithiau i lan y môr fel teulu (yn y gwynt), chwarae yn y parc gyda Hedd (ym mhob tywydd) ac yfed coffi mewn llawer o gaffis.

Dw i wedi bod yn y stiwdio yn ffilmio ‘Doctor Doctor’ ac wedi cwrdd â llawer iawn o bobl ddiddorol oedd yn barod i siarad am eu profiadau.

Dw i hefyd wedi bod yn gweithio ar gyfres newydd fydd ar S4C ym mis Rhagfyr hefyd – ‘Mel a Nia’. Mae Mel yn ddyn hoffus iawn sy’n byw ym Mhenygroes ger Caernarfon. Dan ni’n trefnu Ffair Nadolig gyda sglefrfa a cheirw a groto Siôn Corn a stondinau a chanu carolau. Dw i wrth fy modd gyda’r Nadolig! Diolch byth, mae llawer o bobl yn ardal Penygroes yn ein helpu ni achos mae llawer o bethau i’w gwneud.

Dan ni wedi cael newyddion hapus dros yr haf hefyd – mae un ffrind wedi cael babi (Teleri Mair) ac mae tri ffrind arall wedi cael y newyddion eu bod nhw’n disgwyl babis a bydd un set o efeilliaid!

Ar ddiwedd yr haf cawson ni wythnos o wyliau fel teulu ym Mhen Llŷn.  Aethon ni i lan y môr yn Aberdaron, Porthdinllaen, Porthoer, Porth Neigwl ac Abersoch. Dw i wrth fy modd ar lan y môr. Y flwyddyn nesa dw i eisiau dysgu syrffio!

Gorffennaf '11

hoffus – likeable
arweinydd – leader
direidus – mischievous
cystadleuaeth – competition
cyflwynydd – presenter
bywiog – lively
ail – second
enillydd – winner
bythgofiadwy – unforgettable
dringo – to climb
cyflwyno – to present

Dw i newydd ddod yn ôl o ‘fforest’ – gwersyll hyfryd yn ardal Cilgerran ger Aberteifi.  Ro’n i yno am wythnos yn ffilmio’r gyfres cariad@iaith ac mi ges i amser gwych!

Cyfres deledu ydy cariad@iaith lle dan ni’n ffilmio criw o selebs yn dysgu Cymraeg ac yn defnyddio eu Cymraeg i wneud pob math o bethau. Roedd 8 seleb ac ro’n nhw’n bobl hoffus ac annwyl iawn. Roedd pob un eisiau dysgu Cymraeg ac yn gweithio’n galed iawn. Ioan Talfryn a fi oedd eu tiwtoriaid.

Y selebs oedd:

Helen Lederer sy’n gweithio yn y byd comedi. Doedd hi erioed wedi clywed Cymraeg cyn dod i ‘fforest’!  Mae ei theulu yn dod o Lanymddyfri.

Mae Lembit Opik yn byw yn y Drenewydd ac mae o wedi bod ar nifer o gyfresi teledu, fel ‘I’m a Celebrity...’, ‘Come Dine with Me’ a ‘The Apprentice’.  Syrthiodd Lembit i’r afon nifer o weithiau ond roedd o’n barod i gael hwyl a chwerthin drwy’r amser!

Roedd Rhys o’r band ‘Goldie Lookin Chain’ (GLC) yn ddyn doniol ac annwyl iawn. Roedd o’n recordio fy llais ar ei ffôn bob dydd er mwyn cofio sut i ddweud y geiriau.

Roedd Sophie Evans, sy’n chwarae rhan Dorothy yn ‘The Wizard of Oz’ yn y West End, yn canu drwy'r amser. Roedd hyn yn grêt achos dw i’n hoffi canu mewn dosbarth – mae’n helpu pobl i gofio pethau! Mae hi’n canu fel angel!

Roedd Matt Johnson yn berson hoffus. Mae Matt yn dod o Gaerffili yn wreiddiol ac mae o’n gweithio ar ‘OKTV’ ar Sianel 5 a hefyd ar ‘This Morning’ ar ITV.

Cyrhaeddodd y chwaraewr rygbi, Colin Charvis yn hwyr ar ôl bod yn gweithio yn Mallorca. Roedd pawb yn troi at Colin fel capten ac arweinydd naturiol. Mae o’n ddireidus iawn!

Cystadleuaeth oedd y gyfres ac mi ddaeth y cyflwynydd teledu Josie D’arby yn ail – mae hi’n berson hapus a bywiog iawn ac mi weithiodd hi’n galed iawn. Roedd hi’n teimlo’n falch iawn o fod yn Gymraes.

Yr enillydd oedd Melanie Walters, yr actores sy’n chwarae Gwen ar ‘Gavin and Stacey’. Mi aeth hi ar hi gwrs ‘Wlpan’ flynyddoedd yn ôl ac roedd hi’n meddwl ei bod wedi anghofio popeth; ond mi ddaeth llawer o’i Chymraeg yn ôl.

Roedd hi’n wythnos fythgofiadwy ac mi ges i amser hapus iawn. Roedd y tywydd yn braf ac mi ges i’r cyfle i ddringo coed, canŵio a phrynu dafad! Ro’n i wrth fy modd yn gweithio fel tiwtor Cymraeg eto a chyflwyno rhaglen fyw hefyd – cyffrous iawn!

Dach chi’n medru gwylio’r rhaglenni ar s4c.co.uk/clic yn ystod mis Awst a dach chi’n medru gwylio’r gwersi ar y wefan s4c.co.uk/cariadatiaith

Mehefin '11

ymlacio  –  to relax
gwasanaeth  -  service
priodi  –  to get married
priodas  -  to get married
 lansio  –  to launch
blasus  –  tasty

Mis Mai a dw i'n eistedd wrth y bwrdd yn yr haul o flaen y môr yn Nerja, Sbaen yn ysgrifennu'r dyddiadur yma! Dw i a'r teulu yn aros mewn villa am wythnos i gael gwyliau ac ymlacio. Dan ni'n cael gwyliau braf iawn a heddiw ro'n i'n nofio yn y môr.

Roedd ein ffrindiau yn priodi yn Malaga ddoe. Mae Dafydd yn dod o ffostrasol, Ceredigion ac mae Conchita yn Sbaenes. Roedd hi'n briodas ardderchog; roedd y gwasanaeth mewn eglwys hyfryd ac wedyn roedd llawer o fwyd a diod a dawnsio.

Roedd mis Ebrill yn wych achos roedd y tywydd yn braf iawn ac roedd parti pen-blwydd Hedd yn 1 oed. Cafodd Hedd dri pharti pen-blwydd! Un efo ffrindiau, un efo'r teulu ac un mawr i ddathlu ei ben-blwydd a lansio fy llyfr. Dw i ddim yn dda iawn am wneud cacennau ond mi wnes i gacen siâp car efo llawer o eisin 'buttercream' glas - blasus iawn!

Dydd Sul cyn y Pasg ro'n i a'r teulu a ffrindiau yn Nant Gwrtheyrn yn lansio llyfr dw i wedi ei ysgrifennu gyda Maren Glyn - 'Gwenwch!' Dw i ddim yn siwr pwy fydd yn darllen y llyfr, ond mi ges i lawer o hwyl yn ysgrifennu fy hanes. Roedd o'n ddiwrnod hyfryd ac roedd Nant Gwrtheyrn yn edrych yn ffantastig yn yr haul.

Ebrill '11

cyfnither – female cousin
bwthyn - cottage
Yr Wyddfa – Snowdon
Parti Lansio – Launch Party
 beirniadu – to adjudicate

Roedd Chwefror 24ain yn noson arbennig iawn – y noson gyntaf mewn deg mis i Hedd gysgu drwy’r nos – o 7 tan 5. Yn anffodus, dydy o ddim wedi cysgu drwy’r nos wedyn!

Mae mis Chwefror a Mawrth wedi bod yn amser hyfryd a dw i wedi gweld llawer o ffrindiau a’r teulu. Aethon ni i Kent ar wyliau i aros efo fy nghyfnither a’i gŵr a’u plant. Mae hi’n siarad Cymraeg efo’r plant ac maen nhw’n gwylio Cyw ar S4C.

Fis Mawrth aethon ni i Cumbria i Ardal y Llynnoedd i aros mewn bwthyn efo fy ffrindiau coleg a’u teuluoedd. Mae fy ffrindiau coleg yn byw yn Glasgow, Southampton a Reading felly dan ni’n trio cyfarfod bob tri neu bedwar mis.

Dw i ddim wedi gweithio llawer iawn eleni, felly dw i wedi bod yn gwneud llawer o bethau efo Hedd. Aethon ni i am dro wrth droed Yr Wyddfa un diwrnod cyn mynd i’r clwb mamau a babis yn y caffi newydd hyfryd sy yno. Dan ni hefyd wedi bod i nofio, i siopa ac i weld mamau a babis eraill.

Cawson ni noson cawl a chwis yn Rhostryfan ar gyfer Gŵyl Dewi eleni; roedd hi’n noson hyfryd iawn. Codon ni £170 ar gyfer Eisteddfod yr Urdd 2012.

Fis Ebrill bydd Hedd yn un oed a dw i’n edrych ymlaen at y parti! Dw i hefyd wedi ysgrifennu llyfr amdana i fy hun. Byddwn ni’n cael parti lansio a bydd y llyfr yn y siopau ym mis Ebrill.

Dw i hefyd yn edrych ymlaen at Eisteddfod yr Urdd ym mis Mai achos bydda i’n beirniadu Medal y Dysgwyr!


Ionawr '11

lapio  –  to wrap
anrheg/-ion  -  gift/-s
anobeithiol  –  hopeless
naid uchel  –  high jump
drosodd  –  over
rywbryd  -  sometime

Dw i wrth fy modd efo’r Nadolig – siopa, ysgrifennu cardiau, ymweld â ffrindiau, lapio anrhegion.

Roedd Nadolig 2010 y Nadolig mwyaf hapus dyn ni wedi ei gael erioed achos ro’n ni wedi deffro ar fore Nadolig gyda’n mab bach, Hedd Efan.

Roedd wyth ohonon ni’n cael cinio Nadolig yn nhŷ Mam a Dad. Cawson ni anrhegion gwych a’r anrheg gorau oedd bod Hedd wedi cysgu trwy’r nos – y tro cyntaf mewn wyth mis! Yn y pnawn aethon ni am dro yn yr eira.

Roedd eira ar lan y môr – od iawn! Gyda’r nos ro’n ni’n chwarae gemau, pethau fel Sgrabl Cymraeg, Dingbats a Trivial Pursuits.

Gwnes i ychydig o waith ffilmio dros y Nadolig efo tîm athletau Ynys Môn. Dw i’n hoffi chwaraeon yn fawr iawn ond ro’n i’n anobeithiol yn gwneud athletau pan o’n i yn yr ysgol – ro’n i’n ofnadwy am redeg 100 metr a gwneud y naid uchel.

Wel, mae’r Nadolig drosodd rwan ac mae pawb yn ôl yn y gwaith, ond ddim fi!

Ar hyn o bryd does gen i ddim gwaith. Dw i’n siŵr bydd gwaith yn dod rywbryd eleni ond ar hyn o bryd dw i’n mwynhau bod gartref efo Hedd. Dydy gwaith tŷ ddim yn hawdd, ond mae’n hyfryd bod gartref efo Hedd. Dw i’n edrych ymlaen at 2011!

Hydref '10

cyfle  –  chance
calon  -  heart/-s
milltir  –  mile
arfordir  –  coast
olaf  –  final
tymor  -  season

Roedd mis Medi yn brysur iawn achos ro’n i’n ffilmio cyfres newydd o’r enw ‘Doctor Doctor’ gyda Dr Gwyn Jones a Jamie Roberts, y chwaraewr rygbi.

Gwnes i fwynhau yn fawr achos roedd o’n gyfle i ddysgu am bethau fel y ffliw, problemau’r galon, cancr ac MS. Mae gen i ddiddordeb hefyd mewn pethau fel acupuncture a reflexology.

Ar Fedi 18 cerddais i 24 milltir i godi arian i’r NSPCC. Gwnes i godi bron i £900, felly diolch i bawb am roi arian. Roedd y daith yn dechrau o bentref Aberdaron am 6.30 y bore.

Roedd yr 17 milltir cyntaf yn fendigedig achos ro’n ni’n cerdded ar hyd yr arfordir. Ond roedd y 7 milltir olaf yn fwy anodd achos ro’n ni’n cerdded drwy gaeau ac roedd hi’n bwrw glaw! Roedd 230 o bobl wedi dod i gerdded ac roedd o’n ddiwrnod gwych. Y flwyddyn nesa, dewch efo ni!

On’d ydy’r hydref yn dymor hyfryd? Dw i wrth fy modd yn gweld y dail ar y coed yn troi’n goch ac oren a melyn.

Dan ni wedi bod am dro bob dydd a cherdded milltiroedd efo’r pram, felly mae o wedi bod yn gyfle gwych i wylio’r coed yn newid lliw.

Pan o’n i’n byw yng Nghaerdydd ac yn gweithio bob dydd, dw i ddim yn meddwl fy mod i wedi stopio i edrych ar y dail. Ond dydy Mam ddim yn hoffi’r hydref o gwbl achos mae llawer o waith brwsio dail!

Rwan dw i’n edrych ymlaen at fy hoff dymor – Y Nadolig.

Bydd y Nadolig yma yn gyffrous iawn achos dyma Nadolig cyntaf Hedd Efan. Dw i fel plentyn ar ddydd Nadolig; dw i’n mynd yn gyffrous iawn.

Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i bawb!