Alergedd Paill

Argraffu
PDF

pollen web banner

Mynediad De

alergedd  –  allergy
paill  –  pollen
gwair  –  grass
symptomau  –  symptoms
achosi  –  to cause
chwyn  –  weeds
ysgafn  –  light
cystadlu  –  to compete
alergedd  –  allergy
mwy na  –  more than
menig  –  gloves
mwgwd  –  mask

Mae 12 miliwn o bobl ym Mhrydain yn cael problemau gyda paill gwair. Mae alergedd i baill gwair yn ddrwg iawn rhwng dechrau Mehefin a diwedd Gorffennaf.

Mae mwy a mwy o bobl a phlant yn cael problemau gyda paill coed. Mae alergedd i baill coed yn ddrwg iawn rhwng mis Mawrth a mis Mai. Yn aml mae pobl yn cael symptomau fel y ffliw.

Ar ddiwedd yr haf ac ar ddechrau’r hydref mae paill chwyn yn gallu bod yn broblem. Mae paill chwyn yn fach ac yn ysgafn; y gwynt sy’n cario’r paill.

Mae alergedd i baill yn ddrwg iawn yn gynnar yn y bore rhwng 6 a 9 ac wedyn rhwng 6 a 9 yn ynos. Mae pobl sy’n byw mewn tref neu ddinas yn dioddef mwy na phobl sy’n byw yn y wlad.

Os dych chi’n cael problemau gyda paill ac yn mwynhau garddio, mae’n helpu
os dych chi’n gwisgo menig, mwgwd a sbectol.

 

Diolch i dîm Wedi 3 am eu help.

 

Mynediad Gogledd

alergedd  –  allergy
paill  –  pollen
gwair  –  grass
symptomau  –  symptoms
achosi  –  to cause
chwyn  –  weeds
ysgafn  –  light
cystadlu  –  to compete
alergedd  –  allergy
mwy na  –  more than
menig  –  gloves
mwgwd  –  mask

Mae 12 miliwn o bobl ym Mhrydain yn cael problemau efo paill gwair. Mae alergedd i baill gwair yn ddrwg iawn rhwng dechrau Mehefin a diwedd Gorffennaf.

Mae mwy a mwy o bobl a phlant yn cael problemau efo paill coed. Mae alergedd i baill coed yn ddrwg iawn rhwng mis Mawrth a mis Mai. Yn aml mae pobl yn cael symptomau fel y ffliw.

Ar ddiwedd yr haf ac ar ddechrau’r hydref mae paill chwyn yn medru bod yn broblem. Mae paill chwyn yn fach ac yn ysgafn; y gwynt sy’n cario’r paill.

Mae alergedd i baill yn ddrwg iawn yn gynnar yn y bore rhwng 6 a 9 ac wedyn rhwng 6 a 9 yn ynos. Mae pobl sy’n byw mewn tref neu ddinas yn dioddef mwy na phobl sy’n byw yn y wlad.

Os dach chi’n cael problemau efo paill ac yn mwynhau garddio, mae’n helpu
os dach chi’n gwisgo menig, mwgwd a sbectol.

 

Diolch i dîm Wedi 3 am eu help.

Sylfaen De

alergedd  –  allergy
paill  –  pollen
dioddef  –  to suffer
gwair  –  grass
achosi  –  to cause
symptomau  –  symptoms
chwyn  –  weeds
ysgafn – light
mwy na – more than
menig – gloves
mwgwd – mask

Mae 12 miliwn o bobl ym Mhrydain yn dioddef o alergedd i baill gwair. Mae alergedd i baill gwair yn ddrwg iawn rhwng dechrau Mehefin a diwedd Gorffennaf.

Mae mwy a mwy o bobl a phlant yn dioddef o alergedd i baill coed. Mae alergedd i baill coed yn ddrwg iawn rhwng mis Mawrth a mis Mai. Yn aml mae’n achosi symptomau fel y ffliw.

Ar ddiwedd yr haf ac ar ddechrau’r hydref mae paill chwyn yn gallu achosi alergedd. Mae’r paill yn fach ac yn ysgafn; y gwynt sy’n cario’r paill.

Mae alergedd i baill yn ddrwg iawn yn gynnar yn y bore rhwng 6 a 9 ac wedyn rhwng 6 a 9 yn ynos. Mae pobl sy’n byw mewn tref neu ddinas yn dioddef mwy na phobl sy’n byw yn y wlad.

Os dych chi’n dioddef o alergedd ac yn mwynhau garddio, mae’n helpu 
os dych chi’n gwisgo menig, mwgwd a sbectol.

 

Diolch i dîm Wedi 3 am eu help.

Sylfaen Gogledd

alergedd  –  allergy
paill  –  pollen
dioddef  –  to suffer
gwair  –  grass
achosi  –  to cause
symptomau  –  symptoms
chwyn  –  weeds
ysgafn  –  light
mwy na  –  more than
menig – gloves
mwgwd – mask

Mae 12 miliwn o bobl ym Mhrydain yn dioddef o alergedd i baill gwair. Mae alergedd i baill gwair yn ddrwg iawn rhwng dechrau Mehefin a diwedd Gorffennaf.

Mae mwy a mwy o bobl a phlant yn dioddef o alergedd i baill coed. Mae alergedd i baill coed yn ddrwg iawn rhwng mis Mawrth a mis Mai. Yn aml mae’n achosi symptomau fel y ffliw.

Ar ddiwedd yr haf ac ar ddechrau’r hydref mae paill chwyn yn medru achosi alergedd. Mae’r paill yn fach ac yn ysgafn; y gwynt sy’n cario’r paill.

Mae alergedd i baill yn ddrwg iawn yn gynnar yn y bore rhwng 6 a 9 ac wedyn rhwng 6 a 9 yn ynos. Mae pobl sy’n byw mewn tref neu ddinas yn dioddef mwy na phobl sy’n byw yn y wlad.

Os dach chi’n dioddef o alergedd ac yn mwynhau garddio, mae’n helpu
os dach chi’n gwisgo menig, mwgwd a sbectol.

 

Diolch i dîm Wedi 3 am eu help.