
Mynediad De
prynodd – boughtgerddi – gardens
pensaer – architect
Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
– The National Trust
gweision – servants
adeiladau – buildings
celfi – furniture
gwartheg – cattle
defaid – sheep
moch – pigs
priodi – to marry
Heddiw dyn ni wedi dod i Lanerchaeron, Ceredigion. Mae Llanerchaeron ger tref Aberaeron, Ceredigion.
Yn 1634 prynodd Llewelyn Parry y tŷ a’r gerddi am £140. Yn 1793 daeth y pensaer, John Nash i weithio ar y tŷ. (John Nash oedd pensaer y Brighton Pavilion a Buckingham Palace.)
Heddiw, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy’n rhedeg Llanerchaeron. Dych chi’n gallu mynd o gwmpas i weld y tŷ, y gerddi, y parc a’r fferm.
Yn y tŷ dych chi’n gallu gweld yr ystafelloedd ble roedd y teulu yn byw ac yn cysgu a’r ystafelloedd ble roedd y gweision yn byw ac yn gweithio. O gwmpas y tŷ mae llawer o hen gelfi a lluniau.
Dych chi’n gallu cerdded o gwmpas y fferm a’r hen adeiladau. Mae gwartheg, defaid a moch yma a dych chi’n gallu prynu cig ffres yn siop y fferm. Maen nhw’n tyfu llawer o ffrwythau a llysiau organig yn y gerddi ac maen nhw hefyd yn y siop.
Mae parc, llyn a gerddi yn Llanerchaeron; mae e’n lle braf iawn i fynd am dro. Mae pethau yn digwydd yn Llanerchaeron drwy’r flwyddyn. Dych chi’n gallu aros yn Llanerchaeron a dych chi hefyd yn gallu priodi yma.
Diolch i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol am eu help ac am y lluniau.
Ar agor:
Chwefror – Hydref
Mercher – Sul
11:00 – 17:00
Mynediad Gogledd
mi brynodd – boughtgerddi – gardens
pensaer – architect
Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
– The National Trust
gweision – servants
adeiladau – buildings
dodrefn – furniture
gwartheg – cattle
defaid – sheep
moch – pigs
priodi – to marry
Heddiw dan ni wedi dŵad i Lanerchaeron, Ceredigion. Mae Llanerchaeron ger tref Aberaeron, Ceredigion.
Yn 1634 mi brynodd Llewelyn Parry y tŷ a’r gerddi am £140. Yn 1793 mi ddaeth y pensaer, John Nash i weithio ar y tŷ. (John Nash oedd pensaer y Brighton Pavilion a Buckingham Palace.)
Heddiw, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy’n rhedeg Llanerchaeron. Dach chi’n medru mynd o gwmpas i weld y tŷ, y gerddi, y parc a’r fferm.
Yn y tŷ dach chi’n medru gweld yr ystafelloedd lle roedd y teulu yn byw ac yn cysgu a’r ystafelloedd lle roedd y gweision yn byw ac yn gweithio. O gwmpas y tŷ mae ’na llawer o hen ddodrefn a lluniau.
Dach chi’n medru cerdded o gwmpas y fferm a’r hen adeiladau. Mae ’na wartheg, defaid a moch yma a dach chi’n medru prynu cig ffres yn siop y fferm. Maen nhw’n tyfu llawer o ffrwythau a llysiau organig yn y gerddi ac maen nhw hefyd yn y siop.
Mae ’na barc a llyn yn Llanerchaeron hefyd; mae e’n lle braf iawn i fynd am dro. Dach chi’n medru aros yn Llanerchaeron a dach chi hefyd yn medru priodi yma.
Diolch i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol am eu help ac am y lluniau.
Ar agor:
Chwefror – Hydref
Mercher – Sul
11:00 – 17:00
Sylfaen De
ystâd – estatepensaer – architect
Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
– The National Trust
celfi – furniture
hen bethau – antiques
gwartheg – cattle
defaid – sheep
perlysiau – herbs
ar werth – for sale
diwrnodau crefft – craft days
arddangosfeydd – exhibitions
ffair Nadolig – Christmas fair
priodas – wedding
Heddiw dyn ni wedi dod i Lanerchaeron, Ceredigion. Mae’r ystâd yma ar lan Afon Aeron, tua dwy filltir o dref Aberaeron.
Yn 1634 prynodd Llewelyn Parry y tŷ a’r gerddi am £140. Yn 1793 daeth y pensaer, John Nash i weithio ar y tŷ – dyma’r tŷ dyn ni’n weld heddiw. (John Nash oedd pensaer y Brighton Pavilion a Buckingham Palace.) Heddiw, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy’n rhedeg Llanerchaeron a dych chi’n gallu mynd i weld y tŷ, y gerddi, y parc a’r fferm.
Yn y tŷ dych chi’n gallu gweld yr ystafelloedd ble roedd y teulu yn byw ac yn cysgu a’r ystafelloedd ble roedd y gweision yn byw ac yn gweithio. O gwmpas y tŷ mae llawer o hen gelfi a lluniau. Mae llawer o bethau yma hefyd o siop hen bethau Pamela Ward yn Knightsbridge, Llundain.
Dych chi’n gallu cerdded o gwmpas y fferm a’r hen adeiladau. Mae gwartheg Duon Cymreig, defaid Llanwenog a moch Cymreig yma a dych chi’n gallu prynu cig ffres yn siop y fferm. Maen nhw’n tyfu llawer o ffrwythau, llysiau a pherlysiau organig yn y gerddi ac maen nhw hefyd ar werth yn y siop.
Mae parc a llyn yn Llanerchaeron hefyd ac mae’n lle braf iawn i fynd am dro. Yn ystod y flwyddyn maen nhw’n rhedeg teithiau cerdded, diwrnodau crefft, arddangosfeydd coginio a ffair Nadolig. Mae lle i aros ar ystâd Llanerchaeron a dych chi hefyd yn gallu priodi yma.
Diolch i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol am eu help ac am y lluniau.
Ar agor:
Chwefror – Hydref
Mercher – Sul
11:00 – 17:00
Sylfaen Gogledd
ystâd – estatepensaer – architect
Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
– The National Trust
celfi – furniture
hen bethau – antiques
gwartheg – cattle
defaid – sheep
perlysiau – herbs
ar werth – for sale
diwrnodau crefft – craft days
arddangosfeydd – exhibitions
ffair Nadolig – Christmas fair
priodas – wedding
Heddiw dan ni wedi dŵad i Lanerchaeron, Ceredigion. Mae’r ystâd yma ar lan Afon Aeron, tua dwy filltir o dref Aberaeron.
Yn 1634 mi brynodd Llewelyn Parry y tŷ a’r gerddi am £140. Yn 1793 mi ddaeth y pensaer, John Nash i weithio ar y tŷ – dyma’r tŷ dan ni’n weld heddiw. (John Nash oedd pensaer y Brighton Pavilion a Buckingham Palace.) Heddiw, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy’n rhedeg Llanerchaeron a dach chi’n medru mynd i weld y tŷ, y gerddi, y parc a’r fferm.
Yn y tŷ dach chi’n medru gweld yr ystafelloedd lle roedd y teulu yn byw ac yn cysgu a’r ystafelloedd lle roedd y gweision yn byw ac yn gweithio. O gwmpas y tŷ mae ’na lawer o hen ddodrefn a lluniau. Mae ’na lawer o bethau yma hefyd o siop hen bethau Pamela Ward yn Knightsbridge, Llundain.
Dach chi’n medru cerdded o gwmpas y fferm a’r hen adeiladau. Mae ’na wartheg Duon Cymreig, defaid Llanwenog a moch Cymreig yma a dach chi’n medru prynu cig ffres yn siop y fferm. Maen nhw’n tyfu llawer o ffrwythau, llysiau a pherlysiau organig yn y gerddi ac maen nhw hefyd ar werth yn y siop.
Mae ’na barc a llyn yn Llanerchaeron hefyd ac mae o’n lle braf iawn i fynd am dro. Yn ystod y flwyddyn maen nhw’n rhedeg teithiau cerdded, diwrnodau crefft, arddangosfeydd coginio a ffair Nadolig. Mae ’na le i aros ar ystâd Llanerchaeron a dach chi hefyd yn medru priodi yma.
Diolch i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol am eu help ac am y lluniau.
Ar agor:
Chwefror – Hydref
Mercher – Sul
11:00 – 17:00




