Mynediad De
Ynys Môn – Anglesey
o gwmpas - around
octopysau – octopuses
llyswennod – eels
cimychiaid – lobsters
crancod – crabs
morfeirch – seahorses
bywydau – lives
bridio – to breed
lleol – local
anrhegion – gifts
oedolion – adults
Heddiw dyn ni wedi dod i Sw Môr Môn ger Brynsiencyn, Ynys Môn. Yma yn y sw dych chi’n gallu gweld y pethau sy’n byw yn y môr o gwmpas Ynys Môn a gogledd Cymru – pysgod, siarcod, octopysau, cimychiaid, crancod a morfeirch.
Mae rhywbeth yma i bawb. Mae e’n lle da i grwpiau achos mae’r staff yn gallu siarad am yr anifeiliaid a’u bywydau. Dych chi hefyd yn gallu gwylio’r staff yn rhoi bwyd i’r anifeiliaid bob dydd.
Mae’r sw hefyd yn dysgu pobl am y môr o gwmpas Ynys Môn. Maen nhw’n bridio cimychiad yma ac maen nhw hefyd yn helpu anifeiliaid y môr sy’n sâl neu mewn trwbwl.
Yn y sw mae caffi ble maen nhw’n paratoi bwyd lleol. Mae siop yma hefyd ble dych chi’n gallu prynu anrhegion. Y tu allan i’r sw mae lle i’r plant chwarae a lle i oedolion eistedd ac edrych ar y môr.
Sw Môr Môn
ar agor 10:00 – 18:00
Brynsiencyn, Ynys Môn
LL61 6TQ
01248 430411
Diolch i Sw Môr Môn am eu help ac am y lluniau.
Mynediad Gogledd
Ynys Môn – Anglesey
o gwmpas – around
octopysau – octopuses
llyswennod – eels
cimychiaid – lobsters
crancod – crabs
morfeirch – seahorses
bywydau – lives
bridio – to breed
lleol – local
anrhegion – gifts
oedolion – adults
Heddiw dan ni wedi dŵad i Sw Môr Môn ger Brynsiencyn, Ynys Môn. Yma yn y sw dach chi’n medru gweld y pethau sy’n byw yn y môr o gwmpas Ynys Môn a gogledd Cymru – pysgod, siarcod, octopysau, cimychiaid, crancod a morfeirch.
Mae ’na rywbeth yma i bawb. Mae o’n lle da i grwpiau achos mae’r staff yn medru siarad am yr anifeiliaid a’u bywydau. Dach chi hefyd yn medru gwylio’r staff yn rhoi bwyd i’r anifeiliaid bob dydd.
Mae’r sw hefyd yn dysgu pobl am y môr o gwmpas Ynys Môn. Maen nhw’n bridio cimychiad yma ac maen nhw hefyd yn helpu anifeiliaid y môr sy’n sâl neu mewn trwbwl.
Yn y sw mae ’na gaffi lle maen nhw’n paratoi bwyd lleol. Mae ’na siop yma hefyd lle dach chi’n medru prynu anrhegion. Y tu allan i’r sw mae ’na le i’r plant chwarae a lle i oedolion eistedd ac edrych ar y môr.
Sw Môr Môn
ar agor 10:00 – 18:00
Brynsiencyn, Ynys Môn
LL61 6TQ
01248 430411
Sylfaen De
mwyaf – biggest
pob math – all kinds
llyswennod – eels
cimychiaid – lobsters
crancod – crabs
morfeirch – seahorses
bywydau – lives
bridio – to breed
bwyty – restaurant
anrhegion – gifts
Afon Menai – Menai Strait
mynyddoedd – mountains
Eryri – Snowdonia
Heddiw dyn ni wedi dod i Sw Môr Môn ger Brynsiencyn, Ynys Môn. Acwariwm ydy Sw Môr Môn – acwariwm mwyaf Cymru.
Yma dych chi’n gallu dod i weld y pethau sy’n byw yn y môr o gwmpas Ynys Môn a gogledd Cymru. Yn y sw mae pob math o bysgod, siarcod, llyswennod, octopysau, cimychiaid, crancod a morfeirch.
Mae rhywbeth yma i bobl o bob oed. Mae e’n lle da i grwpiau achos mae’r staff yn gallu mynd â chi o gwmpas y sw a siarad am yr anifeiliaid a’u bywydau. Dych chi hefyd yn gallu gwylio’r staff yn rhoi
bwyd i’r anifeiliaid bob dydd.
Mae’r sw hefyd yn dysgu pobl am y môr o gwmpas Ynys Môn. Maen nhw’n bridio cimychiad ac mae canolfan yma sy’n helpu anifeiliaid y môr sy’n sâl neu mewn trwbwl.
Yn y sw mae bwyty ble maen nhw’n paratoi pob math o fwyd lleol. Mae siop yma hefyd ble dych chi’n gallu prynu pob math o anrhegion. Y tu allan i’r sw mae lle i’r plant chwarae a lle i oedolion eistedd ac edrych dros Afon Menai ar fynyddoedd Eryri.
Sw Môr Môn
ar agor 10:00 – 18:00
Brynsiencyn, Ynys Môn
LL61 6TQ
01248 430411
Diolch i Sw Môr Môn am eu help ac am y lluniau.
Sylfaen Gogledd
mwyaf – biggest
pob math – all kinds
llyswennod – eels
cimychiaid – lobsters
crancod – crabs
morfeirch – seahorses
bywydau – lives
bridio – to breed
bwyty – restaurant
anrhegion – gifts
Afon Menai – Menai Strait
mynyddoedd – mountains
Eryri – Snowdonia
Heddiw dan ni wedi dŵad i Sw Môr Môn ger Brynsiencyn, Ynys Môn. Acwariwm ydy Sw Môr Môn – acwariwm mwyaf Cymru.
Yma dach chi’n medru dod i weld y pethau sy’n byw yn y môr o gwmpas Ynys Môn a gogledd Cymru. Yn y sw mae ’na bob math o bysgod, siarcod, llyswennod, octopysau, cimychiaid, crancod a morfeirch.
Mae ’na rywbeth yma i bobl o bob oed. Mae o’n lle da i grwpiau achos mae’r staff yn medru mynd â chi o gwmpas y sw a siarad am yr anifeiliaid a’u bywydau. Dach chi hefyd yn medru gwylio’r staff yn rhoi bwyd i’r anifeiliaid bob dydd.
Mae’r sw hefyd yn dysgu pobl am y môr o gwmpas Ynys Môn. Maen nhw’n bridio cimychiad ac mae ’na ganolfan yma sy’n helpu anifeiliaid y môr sy’n sâl neu mewn trwbwl.
Yn y sw mae ’na fwyty lle maen nhw’n paratoi pob math o fwyd lleol. Mae ’na siop yma hefyd lle dach chi’n medru prynu pob math o anrhegion. Y tu allan i’r sw mae ’na lle i’r plant chwarae a lle i oedolion eistedd ac edrych dros Afon Menai ar fynyddoedd Eryri.
Sw Môr Môn
ar agor 10:00 – 18:00
Brynsiencyn, Ynys Môn
LL61 6TQ
01248 430411
Diolch i Sw Môr Môn am eu help ac am y lluniau.





