Calon

Argraffu
PDF

calon_banner

Mynediad De

calon/-nau  –  heart/-s
Y Fenni  –  Abergavenny
gwnïo  –  sewing
anrheg/-ion  –  present/-s
penderfynodd  –  decided
dechrau  –  to start
tyfu  –  to grow
ysgafn  –  light
yn gyflym  –  quickly
clustog/-au  –  cushions / -s
lafant  –  lavender
addurniadau  –  decorations

Mae Catrin Palfrey yn dod o'r Fenni yn wreiddiol ond daeth hi i Gaerdydd pan oedd hi'n dair oed. Heddiw mae hi'n byw yng Nghaerdydd ac mae hi'n gweithio i Brifysgol Caerdydd.

Mae Catrin yn mwynhau gwnïo a gwneud crefftau. Yn 2006 roedd hi allan o waith a doedd dim llawer o arian gyda hi. Pan oedd ei ffrindiau yn cael pen-blwydd doedd Catrin ddim yn gallu prynu anrheg, felly roedd hi’n gwneud anrhegion ar gyfer ei ffrindiau.

Roedd ffrindiau Catrin yn hapus iawn gyda’r anrhegion. Felly, penderfynodd Catrin a’i mam Liz ddechrau busnes newydd o'r enw Calon.

Nawr mae’r busnes yn tyfu yn gyflym iawn. Maen nhw'n gwerthu clustogau, calonnau lafant, rhubanau, addurniadau Nadolig, blancedi Cymreig a llawer iawn mwy!

Mae Catrin yn gwerthu popeth ar y we ac mae hi’n hefyd yn mynd o gwmpas sioeau. 

Mynediad Gogledd

calon/-nau  –  heart/-s
Y Fenni  –  Abergavenny
gwnïo  –  sewing
anrheg/-ion  –  present/-s
penderfynodd  –  decided
dechrau  –  to start
tyfu  –  to grow
ysgafn  –  light
yn gyflym  –  quickly
clustog/-au  –  cushions / -s
lafant  –  lavender
addurniadau  –  decorations

Mae Catrin Palfrey yn dŵad o'r Fenni yn wreiddiol ond mi ddaeth hi i Gaerdydd pan oedd hi'n dair oed. Heddiw mae hi'n byw yng Nghaerdydd ac mae hi'n gweithio i Brifysgol Caerdydd.

Mae Catrin yn mwynhau gwnïo a gwneud crefftau. Yn 2006 roedd hi allan o waith a doedd ganddi hi ddim llawer o bres. Pan oedd ffrindiau yn cael pen-blwydd doedd Catrin ddim yn medru prynu anrhegion, felly roedd hi’n gwneud anrhegion.

Roedd ffrindiau Catrin yn hapus iawn efo’r anrhegion. Felly, mi benderfynodd Catrin a’i mam Liz ddechrau busnes newydd o'r enw Calon.

Rŵan mae’r busnes yn tyfu yn gyflym iawn. Maen nhw'n gwerthu clustogau, calonnau lafant, rhubanau, addurniadau Nadolig, blancedi Cymreig a llawer iawn mwy!

Mae Catrin yn gwerthu popeth ar y we ac mae hi hefyd yn mynd o gwmpas sioeau. 

Sylfaen De

calon/-nau  –  heart/-s
Y Fenni  –  Abergavenny
creadigol  –  creative
gwnïo  –  sewing
fforddio  –  to afford
tyfu  –  to grow
clustog/-au  –  cushions / -s
lafant  –  lavender
addurniadau  –  decorations
ffeiriau  –  fairs

Mae Catrin Palfrey yn dod o'r Fenni yn wreiddiol ond symudodd hi i Gaerdydd pan oedd hi'n dair oed. Heddiw mae hi'n byw yng Nghaerdydd ac mae hi'n gweithio i Brifysgol Caerdydd.

Mae Catrin yn berson creadigol iawn. Pan oedd hi’n ifanc roedd hi wrth ei bodd yn gwnïo a gwneud crefftau. Yn 2006 roedd hi allan o waith a doedd hi ddim yn gallu fforddio prynu anrhegion pen-blwydd i'w ffrindiau; felly penderfynodd Catrin wneud anrhegion i’w ffrindiau.

Roedd ei ffrindiau wrth eu bodd gydag anrhegion Catrin, felly penderfynodd Catrin a’i mam Liz ddechrau busnes newydd o'r enw Calon.

Tyfodd y busnes yn gyflym iawn a heddiw maen nhw'n gwerthu clustogau, calonnau lafant, rhubanau, addurniadau Nadolig, blancedi Cymreig a llawer iawn mwy!

Mae Catrin yn gwerthu popeth ar y we ac mae hi hefyd yn mynd o gwmpas sioeau a ffeiriau.

Sylfaen Gogledd

calon/-nau  –  heart/-s
Y Fenni  –  Abergavenny
creadigol  –  creative
gwnïo  –  sewing
fforddio  –  to afford
tyfu  –  to grow
clustog/-au  –  cushions / -s
lafant  –  lavender
addurniadau  –  decorations
ffeiriau  –  fairs

Mae Catrin Palfrey yn dŵad o'r Fenni yn wreiddiol ond mi symudodd hi i Gaerdydd pan oedd hi'n dair oed. Heddiw mae hi'n byw yng Nghaerdydd ac mae hi'n gweithio i Brifysgol Caerdydd.

Mae Catrin yn berson creadigol iawn. Pan oedd hi’n ifanc roedd hi wrth ei bodd yn gwnïo a gwneud crefftau. Yn 2006 roedd hi allan o waith a doedd hi ddim yn medru fforddio prynu anrhegion pen-blwydd i'w ffrindiau; felly mi benderfynodd Catrin wneud anrhegion i’w ffrindiau.

Roedd ei ffrindiau wrth eu bodd efo anrhegion Catrin, felly mi benderfynodd Catrin a’i mam Liz ddechrau busnes newydd o'r enw Calon.

Mi dyfodd y busnes yn gyflym iawn a heddiw maen nhw'n gwerthu clustogau, calonnau lafant, rhubanau, addurniadau Nadolig, blancedi Cymreig a llawer iawn mwy!

Mae Catrin yn gwerthu popeth ar y we ac mae hi hefyd yn mynd o gwmpas sioeau a ffeiriau.