
Clwb i bobl ifanc ydy Urdd Gobaith Cymru – yr Urdd. Mae’r Urdd wedi bod yn rhedeg er 1922. Heddiw mae dros 50,000 o blant a phobl ifanc yn aelodau o’r Urdd bob blwyddyn. Mae dros 3,000 o’r aelodau rhwng 16 a 25 oed ac mae dros 30% o’r aelodau yn bobl ifanc sy’n dysgu Cymraeg. Gwersyll yr Urdd Mae tri gwersyll – Llangrannog (Bae Ceredigion), Glan-llyn (ger y Bala) a Chaerdydd (Canolfan y Mileniwm). Mae pobl ifanc yn mynd i’r gwersylloedd ar gyrsiau, i ddysgu Cymraeg ac i fwynhau gwneud pob math o bethau. Yn Llangrannog maen nhw’n sgïo, gwib-gartio, reidio ceffylau a nofio. Yng Nglan-llyn maen nhw’n canŵio, hwylio, rafftio, mynydda a bowlio deg. Yng Nghaerdydd maen nhw’n mwynhau pob math o bethau yn y brifddinas. Eisteddfod Bob blwyddyn mae 15,000 o bobl ifanc yn cystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. A bob blwyddyn mae’r eisteddfod fawr yma yn teithio o gwmpas Cymru. Bob blwyddyn mae dros 100,000 o bobl yn mynd i’r eisteddfod ac mae llawer iawn yn gwylio’r eisteddfod ar S4C neu’n gwrando ar BBC Radio Cymru. Yn 2011 roedd yr Eisteddfod yn Abertawe o ddydd Llun 30 Mai tan ddydd Sadwrn 4 Mehefin. Chwaraeon Rygbi, pêl-droed, pêl-rwyd, hoci, rhedeg, criced, nofio, aquathlon – bob blwyddyn mae’r Urdd yn trefnu cystadlaethau i blant a phobl ifanc o bob oed. Mae’r Urdd hefyd yn trefnu clybiau chwaraeon yn Eryri, Ceredigion, Pen-y-bont, Caerdydd a Rhondda Cynon Taf. Cylchgronau Mae’r Urdd yn cyhoeddi cylchgronau Cymraeg i blant – ‘Cip’ i blant 7-11 oed, ‘Bore Da’ i blant 7-11 oed sy’n dysgu Cymraeg a ‘Iaw’ i blant 11-16 oed sy’n dysgu Cymraeg. Helpu Plant Er 1922 mae pobl ifanc yr Urdd wedi bod yn anfon Neges Heddwch ac Ewyllys Da bob Mai 18 at blant y byd. Mae’r Urdd hefyd yn gweithio gyda grwpiau fel Childline, yr NSPCC a Shelter Cymru. Mae llawer o aelodau dros 18 oed yr Urdd hefyd yn gwneud gwaith gwirfoddol mewn llefydd fel India, Affrica a Romania. Diolch i’r Urdd am eu help ac am y lluniau. Clwb i bobl ifanc ydy Urdd Gobaith Cymru – yr Urdd. Mae’r Urdd wedi bod yn rhedeg er 1922. Heddiw mae ’na dros 50,000 o blant a phobl ifanc yn aelodau o’r Urdd bob blwyddyn. Mae dros 3,000 o’r aelodau rhwng 16 a 25 oed ac mae dros 30% o’r aelodau yn bobl ifanc sy’n dysgu Cymraeg. Gwersyll yr Urdd Mae ’na dri gwersyll – Llangrannog (Bae Ceredigion), Glan-llyn (ger y Bala) a Chaerdydd (Canolfan y Mileniwm). Mae pobl ifanc yn mynd i’r gwersylloedd ar gyrsiau, i ddysgu Cymraeg ac i fwynhau gwneud pob math o bethau. Yn Llangrannog maen nhw’n sgïo, gwib-gartio, reidio ceffylau a nofio. Yng Nglan-llyn maen nhw’n canŵio, hwylio, rafftio, mynydda a bowlio deg. Yng Nghaerdydd maen nhw’n mwynhau pob math o bethau yn y brifddinas. Eisteddfod Bob blwyddyn mae ’na 15,000 o bobl ifanc yn cystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. A bob blwyddyn mae’r eisteddfod fawr yma yn teithio o gwmpas Cymru. Bob blwyddyn mae ’na dros 100,000 o bobl yn mynd i’r eisteddfod ac mae ’na lawer iawn yn gwylio’r eisteddfod ar S4C neu’n gwrando ar BBC Radio Cymru. Yn 2011 roedd yr Eisteddfod yn Abertawe o ddydd Llun 30 Mai tan ddydd Sadwrn 4 Mehefin. Chwaraeon Rygbi, pêl-droed, pêl-rwyd, hoci, rhedeg, criced, nofio, aquathlon – bob blwyddyn mae’r Urdd yn trefnu cystadlaethau i blant a phobl ifanc o bob oed. Mae’r Urdd hefyd yn trefnu clybiau chwaraeon yn Eryri, Ceredigion, Pen-y-bont, Caerdydd a Rhondda Cynon Taf. Cylchgronau Mae’r Urdd yn cyhoeddi cylchgronau Cymraeg i blant – ‘Cip’ i blant 7-11 oed, ‘Bore Da’ i blant 7-11 oed sy’n dysgu Cymraeg a ‘Iaw’ i blant 11-16 oed sy’n dysgu Cymraeg. Helpu plant Er 1922 mae pobl ifanc yr Urdd wedi bod yn anfon Neges Heddwch ac Ewyllys Da bob Mai 18 at blant y byd. Mae’r Urdd hefyd yn gweithio efo grwpiau fel Childline, yr NSPCC a Shelter Cymru. Mae llawer o aelodau dros 18 oed yr Urdd hefyd yn gwneud gwaith gwirfoddol mewn llefydd fel India, Affrica a Romania. Diolch i’r Urdd am eu help ac am y lluniau. Mudiad i bobl ifanc ydy’r Urdd. Dechreuodd yr Urdd ym 1922 a heddiw mae dros 50,000 o blant a phobl ifanc yn aelodau o’r mudiad. Mae dros 3,000 o’r aelodau rhwng 16 a 25 oed ac mae dros 30% o’r aelodau yn bobl ifanc sy’n dysgu Cymraeg. Gwersyll yr Urdd Mae tri gwersyll gyda’r Urdd – Llangrannog (Bae Ceredigion), Glan-llyn (ger y Bala) a Chaerdydd (Canolfan y Mileniwm). Mae pobl ifanc yn mynd i’r gwersylloedd ar gyrsiau, i ddysgu Cymraeg ac i fwynhau pob math o weithgareddau. Yn Llangrannog maen nhw’n gallu sgïo, gwib-gartio, reidio ceffylau a nofio. Yng Nglan-llyn maen nhw’n gallu canŵio, hwylio, rafftio, mynydda a bowlio deg. Yng Nghaerdydd maen nhw’n mwynhau pob math o weithgareddau yn y brifddinas. Eisteddfod Bob blwyddyn mae 15,000 o bobl ifanc yn cystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. A bob blwyddyn mae’r eisteddfod fawr yma yn teithio o gwmpas Cymru. Mae dros 100,000 o bobl yn mynd i’r eisteddfod ac mae llawer iawn mwy yn gwylio’r eisteddfod ar S4C neu’n gwrando ar BBC Radio Cymru. Yn 2011 roedd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Abertawe o ddydd Llun Mai 30 tan ddydd Sadwrn Mehefin 4. Chwaraeon Rygbi, pêl-droed, pêl-rwyd, hoci, rhedeg, criced, nofio, aquathlon – bob blwyddyn mae’r Urdd yn trefnu cystadlaethau i blant a phobl ifanc o bob oed. Mae’r Urdd hefyd yn trefnu clybiau chwaraeon yn Eryri, Ceredigion, Pen-y-bont, Caerdydd a Rhondda Cynon Taf. Cylchgronau Mae’r Urdd yn cyhoeddi tri chylchgrawn Cymraeg llawn lliw – ‘Cip’ i blant 7-11 oed, ‘Bore Da’ i blant 7-11 oed sy’n dysgu Cymraeg a ‘Iaw’ i blant 11-16 oed sy’n dysgu Cymraeg. Helpu Erailll Er 1922 mae pobl ifanc yr Urdd wedi bod yn anfon Neges Heddwch ac Ewyllys Da bob Mai 18 at blant y byd. Mae’r Urdd hefyd yn gweithio gyda mudiadau fel Childline, yr NSPCC a Shelter Cymru. Mae llawer o aelodau dros 18 oed yr Urdd hefyd yn gwneud gwaith gwirfoddol mewn llefydd fel India, Affrica a Romania. Diolch i’r Urdd am eu help ac am y lluniau. Mudiad i bobl ifanc ydy’r Urdd. Mi ddechreuodd yr Urdd ym 1922 a heddiw mae ’na dros 50,000 o blant a phobl ifanc yn aelodau o’r mudiad. Mae ’na dros 3,000 o’r aelodau rhwng 16 a 25 oed ac mae ’na dros 30% o’r aelodau yn bobl ifanc sy’n dysgu Cymraeg. Gwersyll yr Urdd Mae gan yr Urdd dri gwersyll – Llangrannog (Bae Ceredigion), Glan-llyn (ger y Bala) a Chaerdydd (Canolfan y Mileniwm). Mae pobl ifanc yn mynd i’r gwersylloedd ar gyrsiau, i ddysgu Cymraeg ac i fwynhau pob math o weithgareddau. Yn Llangrannog maen nhw’n medru sgïo, gwib-gartio, reidio ceffylau a nofio. Yng Nglan-llyn maen nhw’n medru canŵio, hwylio, rafftio, mynydda a bowlio deg. Yng Nghaerdydd maen nhw’n mwynhau pob math o weithgareddau yn y brifddinas. Eisteddfod Bob blwyddyn mae ’na 15,000 o bobl ifanc yn cystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. A bob blwyddyn mae’r eisteddfod fawr yma yn teithio o gwmpas Cymru. Mae ’na dros 100,000 o bobl yn mynd i’r eisteddfod ac mae ’na lawer iawn mwy yn gwylio’r eisteddfod ar S4C neu’n gwrando ar BBC Radio Cymru. Yn 2011 roedd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Abertawe o ddydd Llun Mai 30 tan ddydd Sadwrn Mehefin 4. Chwaraeon Rygbi, pêl-droed, pêl-rwyd, hoci, rhedeg, criced, nofio, aquathlon – bob blwyddyn mae’r Urdd yn trefnu cystadlaethau i blant a phobl ifanc o bob oed. Mae’r Urdd hefyd yn trefnu clybiau chwaraeon yn Eryri, Ceredigion, Pen-y-bont, Caerdydd a Rhondda Cynon Taf. Cylchgronau Mae’r Urdd yn cyhoeddi tri chylchgrawn llawn lliw – ‘Bore Da’ i blant 7-11 oed sy’n dysgu Cymraeg, ‘Cip’ i blant 7-11 oed a ‘Iaw’ i blant 11-16 oed sy’n dysgu Cymraeg. Helpu Eraill Er 1922 mae pobl ifanc yr Urdd wedi bod yn anfon Neges Heddwch ac Ewyllys Da bob Mai 18 at blant y byd. Mae’r Urdd hefyd yn gweithio gyda mudiadau fel Childline, yr NSPCC a Shelter Cymru. Mae ’na lawer o aelodau dros 18 oed yr Urdd hefyd yn gwneud gwaith gwirfoddol mewn llefydd fel India, Affrica a Romania. Diolch i’r Urdd am eu help ac am y lluniau.Mynediad De
aelodau – members
gwersyll/-oedd – camp/-s
gweithgareddau – activities
gwib-gartio – go-karting
hwylio – sailing
mynydda – mountaineering
y brifddinas – the capital (city)
cystadlu – to compete
trefnu – to organize
cystadlaethau – competitions
cylchgronau – magazines
cyhoeddi – to publish
neges heddwch – message of peace
ewyllys da – goodwill
plant y byd – the children of the world
gwirfoddol – voluntary
Mynediad Gogledd
aelodau – members
gwersyll/-oedd – camp/-s
gweithgareddau – activities
gwib-gartio – go-karting
hwylio – sailing
mynydda – mountaineering
y brifddinas – the capital (city)
cystadlu – to compete
trefnu – to organize
cystadlaethau – competitions
cylchgronau – magazines
cyhoeddi – to publish
neges heddwch – message of peace
ewyllys da – goodwill
plant y byd – the children of the world
gwirfoddol – voluntary
Sylfaen De
mudiad – movement
aelodau – members
gweithgareddau – activities
gwib-gartio – go-karting
cystadlu – to compete
trefnu – to organize
cystadlaethau – competitions
cyhoeddi – to publish
heddwch – peace
ewyllys da – goodwill
gwirfoddol – voluntary
Sylfaen Gogledd
mudiad – movement
aelodau – members
gweithgareddau – activities
gwib-gartio – go-karting
cystadlu – to compete
trefnu – to organize
cystadlaethau – competitions
cyhoeddi – to publish
heddwch – peace
ewyllys da – goodwill
gwirfoddol – voluntary




