Siarad â Dudley Newbery (Mehefin 2010)

Argraffu
PDF

dudley

Mynediad De

yn wreiddiol  –  originally
diddordebau  –  interests
Tsieina  –  China
gafr  –  goat
cwrdd â  –  to meet

Acen:      Beth ydy’ch enw llawn chi?
Dudley:  Dudley Newbery.

Acen:     O ble dych chi’n dod yn wreiddiol?
Dudley:  Dw i’n dod o Ynysybwl, ger Pontypridd.

Acen:      Ble dych chi’n byw nawr?
Dudley:   Dw i’n byw yng Nghaerdydd nawr.

Acen:      Oes teulu gyda chi?
Dudley:   Oes, dw i’n byw gyda’r wraig a’r plant.

Acen:      Beth ydy eich diddordebau chi?
Dudley:   Bwyd – hobi a gwaith! Dw i’n hoffi mynd allan i fwyta.

Acen:      Beth ydy eich hoff fwyd?
Dudley:   Dw i’n mwynhau bwyd o India a Tsieina.

Acen:      Beth dych chi ddim yn hoffi bwyta?
Dudley:   Dw i ddim yn hoffi caws gafr ac offal.

Acen:      Dych chi’n mwynhau chwaraeon?
Dudley:   Ydw. Dw i’n hoffi gwylio rygbi a chwarae golff.

Acen:     Beth am wyliau?
Dudley:  Dyn ni’n hoffi gwyliau dramor a dw i’n hoffi gwyliau sgïo yn fawr.

Acen:     Dych chi’n mwynhau’r gwaith teledu?
Dudley:  Ydw, yn fawr iawn. Dw i’n hoffi’r coginio a hefyd cwrdd â llawer o bobl ffantastig.

Mynediad Gogledd

yn wreiddiol  –  originally
diddordebau  –  interests
Tsieina  –  China
gafr  –  goat
cwrdd â  –  to meet

Acen:     Be’ ydy’ch enw llawn chi?
Dudley:  Dudley Newbery.

Acen:      O le dach chi’n dŵad yn wreiddiol?
Dudley:   Dw i’n dŵad o Ynysybwl, ger Pontypridd.

Acen:     Lle dach chi’n byw rŵan?
Dudley:  Dw i’n byw yng Nghaerdydd rwan.

Acen:     Oes gynnoch chi deulu?
Dudley:  Oes, dw i’n byw efo’r wraig a’r plant.

Acen:     Be’ ydy eich diddordebau chi?
Dudley:  Bwyd – hobi a gwaith! Dw i’n hoffi mynd allan i fwyta.

Acen:     Be’ ydy eich hoff fwyd?
Dudley:  Dw i’n mwynhau bwyd o India a Tsieina.

Acen:     Be’ dach chi ddim yn hoffi bwyta?
Dudley:  Dw i ddim yn hoffi caws gafr ac offal.

Acen:     Dach chi’n mwynhau chwaraeon?
Dudley:  Ydw. Dw i’n hoffi gwylio rygbi a chwarae golff.

Acen:      Be’ am wyliau?
Dudley:  Dan ni’n hoffi gwyliau dramor a dw i’n hoffi gwyliau sgïo yn fawr.

Acen:      Dach chi’n mwynhau’r gwaith teledu?
Dudley:   Ydw, yn fawr iawn. Dw i’n hoffi’r coginio a hefyd cyfarfod â llawer o bobl ffantastig.

Sylfaen De

gafr  –  goat
dramor  –  abroad
cogydd  –  chef

Acen:     Beth ydy’ch enw llawn chi?
Dudley:  Dudley Newbery.

Acen:     O ble dych chi’n dod yn wreiddiol?
Dudley:  Dw i’n dod o Ynysybwl, ger Pontypridd.

Acen:     Ble dych chi’n byw erbyn hyn?
Dudley:  Dw i’n byw yng Nghaerdydd nawr.

Acen:     Oes teulu gyda chi?
Dudley:  Oes, dw i’n byw gyda’r wraig a’r plant.

Acen:     Beth ydy eich diddordebau chi?
Dudley:  Bwyd – hobi a gwaith! Dw i’n hoffi mynd allan i fwyta.

Acen:     Beth ydy eich hoff fwyd?
Dudley:  Dw i’n mwynhau bwyd o India a Tsieina.

Acen:     Beth dych chi ddim yn hoffi bwyta?
Dudley:  Dw i ddim yn hoffi caws gafr ac offal.

Acen:     Dych chi’n mwynhau chwaraeon?
Dudley:  Ydw. Dw i’n hoff o wylio rygbi a chwarae golff.

Acen:     Beth am wyliau?
Dudley:  Fel teulu dyn ni’n hoffi gwyliau dramor a dw i’n hoffi gwyliau sgïo yn fawr.

Acen:     O’ch chi’n hoffi coginio pan o’ch chi’n ifanc?
Dudley:  O’n. Ro’n i’n helpu Mam a Dad a Mam-gu hefyd.

Acen:    Sut dechreuoch chi fel cogydd?
Dudley:  Es i i Goleg Caerdydd ac wedyn es i i weithio mewn tai bwyta.

Acen:     A’r gwaith teledu?
Dudley:  Dechreuais i ar ‘Bilidowcar’ – rhaglen i blant. Wedyn ces i fy rhaglen fy hun – ‘Dudley’.

Acen:     Dych chi’n mwynhau’r gwaith teledu?
Dudley:  Ydw, yn fawr iawn. Dw i’n hoffi’r coginio a hefyd dw i’n mwynhau cwrdd â llawer o bobl ffantastig.

Sylfaen Gogledd

gafr  –  goat
dramor  –  abroad
cogydd  –  chef

Acen:     Be’ ydy’ch enw llawn chi?
Dudley:  Dudley Newbery.

Acen:     O le dach chi’n dŵad yn wreiddiol?
Dudley:  Dw i’n dŵad o Ynysybwl, ger Pontypridd.

Acen:     Lle dach chi’n byw erbyn hyn?
Dudley:  Dw i’n byw yng Nghaerdydd rŵan.

Acen:     Oes gynnoch chi deulu?
Dudley:  Oes, dw i’n byw efo’r wraig a’r plant.

Acen:     Be’ ydy eich diddordebau chi?
Dudley:  Bwyd – hobi a gwaith! Dw i’n hoffi mynd allan i fwyta.

Acen:     Be’ ydy eich hoff fwyd?
Dudley:  Dw i’n mwynhau bwyd o India a Tsieina.

Acen:     Be’ dach chi ddim yn hoffi bwyta?
Dudley:  Dw i ddim yn hoffi caws gafr ac offal.

Acen:     Dach chi’n mwynhau chwaraeon?
Dudley:  Ydw. Dw i’n hoff o wylio rygbi a chwarae golff.

Acen:     Be’ am wyliau?
Dudley:  Fel teulu dan ni’n hoffi gwyliau dramor a dw i’n hoffi gwyliau sgïo yn fawr.

Acen:     O’ch chi’n hoffi coginio pan o’ch chi’n ifanc?
Dudley:  O’n. Ro’n i’n helpu Mam a Dad a Nain hefyd.

Acen:     Sut dechreuoch chi fel cogydd?
Dudley:  Mi es i i Goleg Caerdydd ac wedyn mi es i i weithio mewn tai bwyta.

Acen:     A’r gwaith teledu?
Dudley:  Mi ddechreuais i ar ‘Bilidowcar’ – rhaglen i blant. Wedyn mi ges i fy rhaglen fy hun 'Dudley’.

Acen:      Dach chi’n mwynhau’r gwaith teledu?
Dudley:  Ydw, yn fawr iawn. Dw i’n hoffi’r coginio a hefyd dw i’n mwynhau cyfarfod â llawer o 
               bobl ffantastig
.