S4C: Calon Cenedl

Argraffu
PDF

s4c banner

S4C (Sianel Pedwar Cymru) ydy'r sianel deledu ar gyfer rhaglenni Cymraeg. Mae'r sianel, sy'n rhedeg er 1982, yn darparu gwasanaeth o dros 17 awr o raglenni Cymraeg bob dydd o'r wythnos. Mae'r gwasanaeth teledu yn cynnwys rhaglenni ar gyfer plant (Cyw a Stwnsh) a rhaglenni amrywiol ar gyfer oedolion, gan gynnwys adloniant, cerddoriaeth, chwaraeon, drama, rhaglenni ffeithiol, y newyddion a materion cyfoes.

Dych chi'n gallu gwylio S4C yng Nghymru ar Freeview 4, Freesat 104, Sky 104 a Virgin Media 167; yn Lloegr, yr Algan a Gogledd Iwerddon mae S4C ar gael ar Freesat 120 a Sky 134. Dych chi hefyd yn gallu gwylio'n fyw ar-lein a gwylio rhaglenni am hyd at 35 diwrnod ar-lein drwy Clic (s4c.co.uk/clic).  

Mae S4C hefyd yn rhedeg gwefan ddwyieithog - sy'n cynnwys safle ar gyfer dysgwyr (sy'n cael ei ddarparu gan Acen) - gwasanaeth isdeitlo Saesneg, gwasanaeth isdeitlau Cymraeg (sy'n cael ei ddarparu gan Acen) a gwasanaethau sain ddisgrifio ac arwyddo. Mae dewis o isdeitlau hefyd ar gael ar-lein ar Clic.