Telerau ac Amodau Gwerthu
Diffiniadau
Mae "ni neu ein" yn cyfeirio at Cwmni Acen Cyfyngedig, sef elusen gofrestredig rhif 1105084 sy'n gwmni cyfyngedig drwy warant wedi'i gofrestru yng Nghymru a Lloegr gyda'r swyddfa gofrestredig yng nghyfeiriad Tŷ Ifor, Stryd y Bont, Caerdydd CF10 2EE, rhif cofrestredig y cwmni 5143243.
Ystyr "chi neu eich" yw'r person, y sefydliad neu'r cwmni sy'n prynu'r Nwyddau. Os ydych yn prynu'r Nwyddau at eich defnydd personol eich hun ac nid fel rhan o fusnes, rydych yn ddefnyddiwr.
Ar gyfer defnyddwyr, mae'r telerau ac amodau penodol a nodir o dan "Dychwelyd Nwyddau" isod yn gymwys.
Ystyr y "nwyddau" yw'r nwyddau neu'r gwasanaethau neu'r eitemau eraill sy'n destun contract rhyngoch chi a ni.
Ystyr y "pris" yw'r pris sydd ar eich anfoneb neu mewn perthynas ag archebion dros y rhyngrwyd, y swm a ddangosir ar yr e-bost cydnabod a anfonwyd atoch. Cyflawnir pob trafodyn mewn Sterling. Mae'r prisiau ar y wefan ar gyfer dosbarthu ar dir mawr y Deyrnas Unedig yn unig. Caiff lleoliadau eraill eu prisio ar adeg derbyn yr archeb
Ystyr "archeb" yw'r ffurflen archebu mewn perthynas â'r nwyddau sydd i'w prynu gennych chi sydd naill ai wedi'u nodi ar eich archeb brynu neu a grëir drwy ein gwefan, neu drwy e-bost, ffacs neu dros y ffôn. Dehonglir pob archeb fel cynnig gennych i brynu'r nwyddau hynny.
Ystyr "dyfynbris" yw'r dyfynbris gennym mewn perthynas â nwyddau penodol. Prisiau mynegol yn unig a geir mewn dyfynbrisiau, ar ein rhestrau prisiau, mewn negeseuon e-bost, ffacsys, galwadau ffôn, a nodir ar lafar neu ar ein gwefan, a gallwn eu newid ar unrhyw adeg.
Derbyn Archebion a Chreu Contract
Pan fyddwch yn gwneud archeb i brynu nwyddau gennym, byddwn yn anfon e-bost neu archeb werthu drwy'r post atoch yn cadarnhau ein bod wedi derbyn eich archeb ac yn dangos manylion yr archeb. Mae'r archeb gennych yn cynrychioli cynnig i ni i brynu nwyddau a dderbynnir gennym naill ai pan gaiff y nwyddau eu dosbarthu, pan ddarperir y gwasanaeth neu pan dderbynnir y taliad, pa un bynnag sy'n digwydd gyntaf. Nid oes unrhyw nwyddau sy'n rhan o'r un archeb nad ydynt wedi'u dosbarthu nac wedi'u darparu neu nad oes taliad wedi'i wneud amdanynt yn rhan o'r contract hwnnw.
Gostyngiadau
Mae gostyngiadau ar gael ar y rhan fwyaf o nwyddau os gwneir archeb fawr. Ffoniwch 029 20 300 800 neu e-bostiwch
Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld.
i gael dyfynbris
TAW
Mae pob pris yn cynnwys TAW ar y gyfradd briodol. Bydd prisiau'n newid os bydd unrhyw newidiadau i gyfradd safonol y DU ar gyfer Treth Ar Werth neu'r amodau sy'n rheoli TAW yn y DU.
Cardiau Credyd a Debyd
Rydym yn croesawu cardiau credyd a debyd gan gwsmeriaid yn fyd-eang. Nid yw rhifau cardiau anghywir neu hen rifau a manylion dod i ben cardiau yn cyfrif fel taliad dilys ac ni fydd arnom rwymedigaeth gytundebol i'r cwsmer. Os caiff unrhyw daliad dilys ei wrthod yn ddiweddarach gan eich banc a bod y nwyddau eisoes wedi'u hanfon atoch, bydd gennym yr hawl i gasglu'r nwyddau gennych ar eich traul chi oni wneir taliad dilys arall.
Archebu Dros y Ffôn
Gellir gwneud archebion dros y ffôn rhwng 9.30 a 4.30 ar ddiwrnodau gwaith. Ffoniwch 029 20 300 800. Dylech sicrhau eich bod yn darparu pob cod eitem neu ddisgrifiad, eich cyfeiriad yn cynnwys y cod post, manylion eich cerdyn credyd neu ddebyd a rhif ffôn neu gyfeiriad e-bost cyswllt.
Archebu drwy E-bost, Post neu Ffacs
Dosbarthwyr
Caiff archebion am nwyddau, unwaith y cânt eu prosesu, eu dosbarthu naill ai gan y Post Brenhinol, Parcel Force neu gwmni dosbarthu wedi'i gontractio gennym. Rydych yn cytuno i ganiatáu i ni roi manylion dosbarthu'r cwsmer a manylion yr archeb i gyflenwyr trydydd parti.
Dosbarthu Safonol
Fel arfer caiff nwyddau eu hanfon o fewn y DU o fewn tri diwrnod gwaith i ddyddiad derbyn yr archeb. Fel arfer caiff nwyddau eu hanfon y tu allan i'r DU o fewn pum diwrnod gwaith. Os bydd oedi cyn anfon nwyddau, byddwn yn ceisio cysylltu â chi.
Dosbarthu Diwrnod Wedyn
Mae dosbarthu diwrnod wedyn ar gael am gost ychwanegol yn y DU ar yr amod y ceir yr archeb cyn 11.00 a.m. amser y DU.
Diwrnodau Gwaith
Nid yw'r term 'diwrnodau gwaith' yn cynnwys penwythnosau, gwyliau'r banc yn y DU na gwyliau cyhoeddus yng Nghymru. Noder bod Dydd Gŵyl Dewi (1 Mawrth) yn cael ei ystyried yn ŵyl gyhoeddus yn y telerau ac amodau hyn.
Force Majeure
Os na allwn gyflawni unrhyw un o'n rhwymedigaethau o dan yr amodau gwerthu hyn oherwydd digwyddiad neu amgylchiad y tu hwnt i'n rheolaeth, nid ystyrir methiant o'r fath yn dor-rhwymedigaeth ar ein rhan a bydd gennym hawl i atal y broses o gyflawni'r rhwymedigaethau hyn hyd nes y gallwn gyflawni ein rhwymedigaethau, os o gwbl. Mae Force Majeure yn yr achos hwn yn cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i dywydd drwg, tân, llifogydd, fandaliaeth, lladrad, gweithredu diwydiannol, methiant yn y galedwedd ac oedi oherwydd namau mewn meddalwedd neu gan feirysau meddalwedd.
Dychwelyd Nwyddau
O dan Reoliadau Gwerthu o Bell y Deyrnas Unedig, mae gan ddefnyddwyr yr hawl i ganslo'r contract ar gyfer prynu unrhyw un o'r eitemau mewn archeb o fewn 7 diwrnod gwaith, yn dechrau gyda'r diwrnod ar ôl y diwrnod y dosbarthwyd yr eitem. Mae hyn yn gymwys i'n holl nwyddau ffisegol heblaw am achosion o ganslo contractau prynu DVD, VHS, sain a meddalwedd lle nad oes sêl ar yr eitem. Ar wahân i'r eithriad hwn, byddwn yn derbyn nwyddau wedi'u dychwelyd sydd heb eu defnyddio ac sydd mewn cyflwr "fel newydd".
Mae pob gwerthiant o gynnwys y gellir ei lawrlwytho yn derfynol. Ni chewch ddychwelyd cynnwys y gellir ei lawrlwytho. Unwaith y byddwch wedi prynu cynnwys y gellir ei lawrlwytho, rydym yn eich annog i'w lawrlwytho cyn gynted â phosibl a gwneud copïau wrth gefn ohono. Gallwch lawrlwytho'r cynnwys tair gwaith o fewn y pum diwrnod yn dechrau ar ddiwrnod y lawrlwythiad cyntaf. Os na allwch gwblhau lawrlwythiad ar ôl darllen ein hadnoddau help ar-lein, cysylltwch â gwasanaeth cwsmeriaid Acen. Chi sy'n gyfrifol am unrhyw golled ar ôl ei brynu ac am unrhyw gynnwys y gellir ei lawrlwytho a gaiff ei golli ar ôl i chi ei lawrlwytho, gan gynnwys unrhyw golled o ganlyniad i gyfrifiadur neu yriant caled yn chwalu. Gallwn, o bryd i'w gilydd, dynnu cynnwys y gellir ei lawrlwytho o'r wefan heb rybudd.
Cyn gynted ag y cawn y nwyddau yr ydych yn eu dychwelyd, byddwn yn ad-dalu'r pris prynu ar gyfer yr eitem honno a chyfran o'r taliadau dosbarthu sy'n berthnasol iddo.
Ar ôl y cyfnod o 7 diwrnod, rhoddir nwyddau newydd yn lle rhai nad oes nam arnynt neu rhoddir ad-daliad yn ôl ein disgresiwn. Fodd bynnag, bydd yn ofynnol i chi dalu'r costau cludo sy'n gysylltiedig â dychwelyd y nwyddau ac unrhyw nwyddau newydd yn eu lle. Os rhoddir ad-daliad, byddwn yn didynnu'r costau cludo gwreiddiol.
Gofal Cwsmeriaid
Rydym yn gwneud ein gorau i wneud popeth o fewn ein gallu i'ch helpu bob amser. Os oes gennych gŵyn am urhyw reswm, dylech gysylltu â'r cwmni yn ysgrifenedig drwy e-bost, post neu ffacs.
Cysylltu â'r Cwsmer
Efallai y byddwn yn cysylltu â chi gyda gwybodaeth am gyfleoedd a chynhyrchion. Os nad ydych am dderbyn gwybodaeth o'r fath gennym, dylech ein hysbysu gyda'ch archeb neu dicio'r blwch priodol ar y wefan. Mae gennych yr hawl ar unrhyw adeg i gysylltu â ni'n ysgrifenedig i ofyn i ni beidio ag anfon rhagor o wybodaeth atoch.
Teitl
Dim ond ar ôl i ni dderbyn y pris contract, y costau cludo a'r dreth yn llawn yr anfonir atoch y teitl cyfreithiol ac ecwitiol mewn perthynas â'r nwyddau y mae a wnelo'r Amodau Gwerthu hyn â hwy.
Cynnwys y gellir ei lawrlwytho
Unwaith y byddwn yn cael eich tâl am gynnwys y gellir ei lawrlwytho, rydym yn rhoi hawl anghyfyngedig i chi, na ellir ei throsglwyddo, i ddefnyddio'r cynnwys y gellir ei lawrlwytho at eich defnydd personol, anfasnachol, addysgol neu adloniant. Dim ond at eich defnydd personol, anfasnachol, addysgol neu adloniant, yn amodol ac yn unol â'r telerau ac amodau hyn, y gallwch gopïo, cadw, trosglwyddo a llosgi'r cynnwys y gellir ei lawrlwytho.
Rydych yn cynrychioli, yn gwarantu ac yn cytuno mai dim ond at eich defnydd personol, anfasnachol, addysgol neu adloniant y byddwch yn defnyddio'r cynnwys y gellir ei lawrlwytho ac nid er mwyn ei ailddosbarthu nac unrhyw ddefnydd arall sy'n gyfyngedig yn y telerau ac amodau hyn. Rydych yn cytuno i beidio â thorri hawliau perchenogion hawlfraint y cynnwys y gellir ei lawrlwytho a chydymffurfio â'r holl ddeddfau perthnasol wrth i chi ddefnyddio'r cynnwys y gellir ei lawrlwytho. Ar wahân i'r hawliau a roddir yn y telerau ac amodau hyn, rydych yn cytuno na fyddwch yn ailddosbarthu, trosglwyddo, neilltuo, gwerthu, darlledu, rhentu, rhannu, benthyg, addasu, golygu, nac is-drwyddedu'r cynnwys y gellir ei lawrlwytho nac yn ei drosglwyddo neu'n ei ddefnyddio mewn ffordd arall. Ni roddir unrhyw hawliau i chi gydamseru na rhwydweithio'r cynnwys y gellir ei lawrlwytho, na'i ddefnyddio at ddibenion hyrwyddo, ei werthu'n fasnachol, ei ailwerthu, ei ailgynhyrchu neu ei ddosbarthu. Rydych yn cydnabod bod y cynnwys y gellir ei lawrlwytho yn eiddo deallusol trydydd parti a'i fod wedi'i ddiogelu o dan y gyfraith.
Ymwadiad
Nid yw'r ymwadiad hwn yn effeithio ar eich hawliau statudol. Darperir gwybodaeth, cynhyrchion a gwasanaethau (neu wybodaeth, cynnyrch a gwasanaethau trydydd parti), 'fel y mae', heb sylwadau na chymeradwyaeth na gwarant o unrhyw fath, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, gan gynnwys, ond nid yn gyfyngedig i warantau ansawdd boddhaol, cymhwyster at ddiben penodol, peidio â thorri rheolau, cydweddoldeb, diogelwch a chywirdeb. Ni warantwn y bydd y swyddogaethau a gynhwysir yn y deunydd sy'n ymddangos ar y wefan hon yn parhau'n ddidor nac y byddant yn ddi-wall, nac y caiff diffygion eu hunioni, na bod y wefan neu'r gweinydd sy'n eu darparu yn rhydd o feirysau neu'n cynrychioli ymarferoldeb llawn, cywirdeb, dibynadwyaeth y deunyddiau. Ni fyddwn, sut bynnag, yn agored i unrhyw golled na difrod gan gynnwys, heb gyfyngiad, golled neu ddifrod anuniongyrchol neu ôl-ddilynol, nac unrhyw golled neu ddifrod o gwbl sy'n deillio o ddefnydd neu golli defnydd o ddata, neu elw sy'n deillio o ddefnyddio'r wefan hon na'r nwyddau a'r gwasanaethau arni.
Y Gyfraith sy'n rheoli a'r awdurdodaeth
Caiff y Telerau ac Amodau hyn eu rheoli a'u dehongli yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr. Bydd unrhyw anghytundeb sy'n codi o dan y Telerau ac Amodau hyn yn destun awdurdodaeth llysoedd Cymru a Lloegr yn unig
Derbyn y Telerau ac Amodau
Drwy wneud archeb drwy e-bost, ffôn, post, ffacs neu drwy'r wefan, neu mewn unrhyw ffordd arall, tybir y gallwch gael gafael ar y Telerau ac Amodau a'ch bod wedi'u derbyn
Cwmni Acen Cyf/ Ltd
Tŷ Ifor / Ivor House
Stryd y Bont / Bridge Street
Caerdydd / Cardiff
CF10 2EE
02920 300800
Mae'r cyfeiriad ebost yn cael ei warchod rhag spam bots, rhaid i chi alluogi Javascript i'w weld.