Croeso i fersiwn ar-lein o gylchgrawn Acen.
ein cylchgrawn i ddysgwyr ar y Rhyngrwyd.
Welcome to the on-line version of the Acen magazine.
our magazine for learners on the Internet.
Dewiswch un o'r adrannau canlynol: Erthyglau, Newyddion, Cyfweliadau, Ffeithlen. Cliciwch ar HELP i gael help gyda'r eirfa neu ar CYFIEITHIAD i gael cyfieithiad Saesneg llawn.
Ewch i adran Dwedwch Chi i ddarllen beth sy gan ddysgwyr eraill i'w ddweud. Cofiwch, mae croeso i chi sgrifennu aton ni yn Gymraeg hefyd.
Select one of these sections: Erthyglau-Articles, Newyddion-News, Cyfweliadau-Interviews, Ffeithlen-Factfile. Click where you see the words HELP or CYFIEITHIAD-TRANSLATION to get help with vocabulary or a full English translation of the text.
If you go to the Dwedwch Chi section, you can read what other learners have to say. You too are welcome to contribute to this section in Welsh.
Erthyglau
Cyfieithiad/TranslationCylchdaith ydy'r daith dyn ni'n mynd arni y tro yma. Taith sy'n dechrau ac yn gorffen yng Nghaernarfon ac yn mynd â ni o gwmpas prif fynydd Cymru - Yr Wyddfa.
Caernarfon - y gaer yn Arfon. Mae llawer yn meddwl am gastell mawr Edward I (1283) wrth glywed enw'r dref. Ond roedd y Rhufeiniaid wedi codi caer, o'r enw Segontium, yma yn ardal Llanbeblig tua 80 O.C. Mae'n bosib hefyd bod caer cyn-hanes yma cyn hynny.
Heddiw, Caernarfon ydy prif dref Gwynedd. Ydy, mae'r hen dref wedi newid, ond mae bywyd ddoe i'w weld yng nghanol yr heddiw modern - ar y Maes, yn y strydoedd cul ac yn yr hen ddociau. Mae hon yn dal i fod yn dref Gymraeg ac mae ei phobl - y Cofis - yn dal i fod yn bobl arbennig iawn!
Gadael Caernarfon a theithio ar yr A4086 drwy bentref Llanrug ac ymlaen tua Llanberis. Cyn hir dyn ni yng nghanol y mynyddoedd uchel. Ar y chwith mae Elidir Fawr yn codi uwchben Llyn Padarn. Stopiwch y car ar lan y llyn i edrych ar yr olygfa fendigedig i fyny tua Nant Peris. Ar ddiwrnod clir gallwch chi weld copa'r Wyddfa yn y pellter. Heddiw, mae Llyn Padarn yn lle i ymlacio, pysgota a mwynhau pob math o chwaraeon dwr neu daith mewn cwch.
Mae hon yn ardal ddiddorol iawn. Ar un amser, roedd 3000 o ddynion yn gweithio yn Chwarel Dinorwig ar lan Llyn Padarn. Caeodd y chwarel yn 1969, ond gallwch chi weld yr hen waith a dysgu am ei hanes yn yr Amgueddfa Lechi sy yno nawr. Roedd y llechi yn mynd ar drenau bach i'r porthladd yn y Felinheli; heddiw gallwch chi deithio ar drên bach ar hyd lan Llyn Padarn. Llanberis oedd cartref y sgrifennwr T Rowland Hughes (1903-1949); sgrifennodd e am fywyd caled y chwarelwyr.
Heddiw yng nghanol mynydd Elidir Fawr mae cynllun trydan-dwr mawr iawn a gallwch chi fynd ar daith i weld yr orsaf. Mae Llyn Peris yn rhan o'r cynllun yma. Yn y bore mae'r llyn yn isel, ond erbyn diwedd y dydd bydd lefel y dwr wedi codi ar ôl iddyn nhw gynhyrchu trydan drwy'r dydd. Rhwng Llyn Padarn a Llyn Peris mae hen castell Cymreig, Dolbadarn.
Ymlaen â ni, heibio gorsaf Trên Bach yr Wyddfa a dechrau'r llwybr hir i gopa'r Wyddfa. Dechrau dringo wedyn i fyny drwy Nant Peris nes cyrraedd Pen y Pass. O'r maes parcio yn y fan yma, mae miloedd o bobl yn cerdded heibio'r tri llyn - Teyrn, Llydaw a Glaslyn - i gopa'r Wyddfa. Os ydych chi eisiau gwneud y daith, cofiwch wisgo'n addas!
Mae'r ffordd yn mynd i lawr nawr at westy Pen-y-Gwryd ac yn ymuno â'r A498 rhwng Capel Curig a Beddgelert. Dyn ni'n troi i'r dde ac yn teithio i lawr Nant Gwynant. Stopio yn y maes parcio i edrych ar draws y dyffryn i mewn i Bedol yr Wyddfa ac i lawr ar Lyn Gwynant. Yna i lawr y ffordd sy'n troi a throi, heibio Llyn Gwynant a dilyn Afon Glaslyn heibio Llyn Dinas tua mynydd Moel Hebog a Beddgelert.
Dych chi wedi clywed y stori am Gelert y ci, y blaidd a babi Llywelyn? Stori ffantasi ydy hi; stori neis i blesio twristiaid! Ond mae'n werth aros yn yr ardal hyfryd yma i fwynhau'r golygfeydd a cherdded ar hyd yr afon i Aberglaslyn. Roedd trenau'r Welsh Highland Railway yn teithio 25 milltir o Gaernarfon drwy Feddgelert i Borthmadog dros 60 mlynedd yn ôl. Cyn hir bydd trenau bach Rheilffordd Eryri yn cario pobl unwaith eto yr holl ffordd o lan y Fenai i Fae Tremadog.
Nôl â ni i'r car a theithio i fyny i'r gogledd eto ar yr A4085 o Feddgelert i Gaernarfon. Heibio Coedwig Beddgelert a Llyn y Gadair ar y chwith nes cyrraedd pentref bach Rhyd Ddu. O'r maes parcio ar y dde gallwch chi gerdded i gopa'r Wyddfa. Ym mis Awst 2003 agorodd gorsaf Rheilffordd Eryri yn Rhyd Ddu ac nawr mae'n bosib teithio ar y trên bach rhwng Caernarfon a Rhyd Ddu. Mae'r pentref yn enwog hefyd am un o feirdd gorau Cymru, T H Parry-Williams (1887-1975). Roedd ei dad yn brifathro ar ysgol y pentref. Roedd ei gefnder, y bardd R Williams Parry (1884-1956), yn byw ym mhentref Tal-y-sarn dros y mynydd yn Nyffryn Nantlle.
Ymlaen â ni unwaith eto, gan ddilyn Afon Gwyrfai heibio Llyn Cwellyn, drwy Fetws Garmon ac ymlaen i Waunfawr. Mae'r pentref yn enwog am Antur Waufawr - antur gymunedol sy'n gweithio gyda phobl ag anawsterau dysgu.
Mae'r daith bron ar ben wrth i ni groesi Afon Seiont a dod yn ôl i Gaernarfon, heibio amgueddfa Segontium, nôl drwy ganol y dref a pharcio wrth y cei ac edrych draw tua Môn a'r haul yn machlud dros Ynys Llanddwyn - diwedd hyfryd i daith hyfryd.
HELP
cylchdaith – tour
Yr Wyddfa - Snowdon
caer - fort
Rhufeiniaid - Romans
cul - narrow
uchel - high
uwchben - above
golygfa - view
copa - summit
pellter - distance
ymlacio - to relax
chwarel - quarry
llechi - slate(s)
amgueddfa - museum
cynllun - scheme
trydan-dwr - hydro-electric
gorsaf - station
isel - low
cynhyrchu - to produce
rhwng - between
heibio - past
yn addas - suitably
dyffryn – valley
Pedol yr Wyddfa – Snowdon Horseshoe
bardd/beirdd - poet(s)
antur gymunedol - community enterprise
anawsterau dysgu – learning difficulties
machlud - to set (sun)
Articles
Cyfieithiad/Translation
This time our journey is a circular one. It’s a journey that begins and ends at Caernarfon and takes us around Wales’ highest mountain – Yr Wyddfa (Snowdon).
Caernarfon – the fort in Arfon. Many think about the large castle of Edward I (1283) when they hear the name of the town. But the Romans had built a fort, called Segontium, here in the Llanbeblig area about 80 AD. It’s possible too that there was a pre-historic fort here prior to that one.
Today, Caernarfon is Gwynedd’s main town. Yes, the old town has changed; but the life of times gone by can still be seen in the middle of modern Caernarfon – on the Maes (the Square), in the narrow streets and in the old docks. This is still a Welsh speaking town and its people – the Cofis – are still a very special people!
We leave Caernarfon and travel on the A4086 through the village of Llanrug and on towards Llanberis. Before long we are in the middle of the high mountains. On the left Elidir Fawr (mountain) rises above Llyn Padarn (lake). Stop the car at the lakeside to look at the fantastic view up towards Nant Peris (Llanberis Pass). On a clear day you can see the summit of Snowdon in the distance. Today, Llyn Padarn is a place to relax, fish and enjoy all kinds of water sports or a boat trip.
This is a very interesting area. At one time, 3000 men worked in the Dinorwig Quarry on the shores of Llyn Padarn. The quarry closed in 1969, but you can see the old works and learn its history in the Slate Museum now on the site. The slate was taken by narrow gauge railway to the port at Felinheli; today you can travel on the little train along the shore of Llyn Padarn. Llanberis was the home of the writer T Rowland Hughes (1903-1949) who wrote about the hard lives of the quarrymen.
Today, in the heart of Elidir Fawr, there is a huge hydro-electric scheme and you can travel into the mountain to see the power station. Llyn Peris is part of this scheme. In the morning the level of the water is low, but by the end of the day the level of the water has risen after a day of producing electricity.
We travel on, past the Snowdon Mountain Railway terminus and the beginning of the long path up to the summit of Snowdon. We then begin to climb up Nant Peris until we reach Pen-y-Pass. From the car park nearby, thousands of people walk past the three lakes – Teyrn, Llydaw and Glaslyn – to the summit of Snowdon. If you want to make the journey, remember to dress suitably!
The road descends now to the Pen-y-Gwryd hotel and joins the A498 between Capel Curig and Beddgelert. We turn right and travel down Nant Gwynant. Stop at the car park to look across the valley into the Snowdon Horseshoe and down on Llyn Gwynant. Then on down the road which twists and turns, past Llyn Gwynant and follow the Glaslyn river past Llyn Dinas towards Moel Hebog (mountain) and the village of Beddgelert.
Have you heard the story about Gelert the dog, the wolf and Prince Llywelyn’s baby? It’s a fantasy story; a nice tale to draw in the tourists! But it’s worth stopping in this lovely area to enjoy the views and walk along the river Glaslyn to the Aberglaslyn pass. The trains of the Welsh Highland Railway used to travel 25 miles from Caernarfon through Beddgelert and on to Porthmadog 60 years ago. Soon the new Welsh Highland Railway company’s little trains will once more carry people all the way from the Menai Strait to Tremadog Bay.
Return to the car and travel northwards again on the A4085 from beddgelert to Caernarfon. Past the Beddgelert Forest and Llyn y Gadair on the left until you reach the little village of Rhyd Ddu. From the car park on the right you can walk to the summit of Snowdon. In August 2003 the Welsh Highland Railway opened a new station here and it’s now possible to travel by little train between Caernarfon and Rhyd Ddu. The village is also famous for one of Wales’ best poets, T.H.Parry-Williams (1887-1975). His father was headmaster of the village school. His cousin, the poet R Williams Parry (1884-1956) lived in the village of Tal-y-sarn over the mountain in the Nantlle Valley.
On we go once more, following the river Gwyrfai past Llyn Cwellyn, through Betws Garmon and on to Waunfawr. The village is famous worldwide for Antur Waunfawr – a community enterprise which works with people with learning difficulties.
Our journey is almost at an end as we cross the river seiont and return
to Caerrnarfon; on past the Segontium museum, back through the middle
of the town, park at the quayside and look over towards Ynys Môn
(Anglesey) and the sun setting over Llanddwyn – a lovely ending
to a lovely journey.
Newyddion
DYSGWR Y FLWYDDYN 2003
Eleni eto daeth pedwar drwodd i rownd olaf cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn. Cafodd y pedwar eu cyflwyno ym Mhabell y Dysgwyr yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Meifod. Yna, mewn noson wobrwyo, cafodd enw'r enillydd ei gyhoeddi. Roedd camerâu HTV yno i ddilyn y pedwar ar gyfer rhaglen Gymraeg ar S4C ac un Saesneg ar ITV1 Wales.Y pedwar oedd Teresa Marie Cody o Aberystwyth, Glyn Davies o Aberriw, Mike Hughes o Garno ac Aran Jones o Gaernarfon. Roedd y safon yn uchel iawn a'r enillydd oedd Mike Hughes. Derbyniodd Mike £300 a thlws Dysgwr y Flwyddyn. Derbyniodd y tri arall £100 a thlysau. Llongyfarchiadau i'r pedwar.
PAUL/PICTURE: Teresa Marie Cody
Cafodd Teresa ei magu fel Gwyddeles yn Birmingham. Daeth hi i Aberystwyth
yn 2001 i astudio Bioleg yn y Brifysgol ond newidiodd ei meddwl a gwneud
Astudiaethau Celtaidd drwy gyfrwng y Saesneg. Dechreuodd ddysgu Cymraeg
fel rhan o'r cwrs ac erbyn hyn mae hi'n gwneud y cwrs cyfan drwy gyfrwng
y Gymraeg. Mae Teresa'n hoff iawn o gymdeithasu a nawr mae'r rhan fwya
o'i ffrindiau yn y Brifysgol yn siaradwyr Cymraeg, sydd yn help iddi hi
wella'i Chymraeg. Mae hi hefyd yn gweithio dros CYD ac roedd yn aelod
o gôr canu gwerin CYD yn yr Eisteddfod ym Meifod.
PAUL/PICTURE: Glyn Davies
Ffermwr o Aberriw, Powys ydy Glyn Davies, ond ers 1999 mae e wedi bod
yn Aelod Cynulliad. Ei ddidordebau ydy chwaraeon a garddio. Roedd ei deulu
i gyd yn siarad Cymraeg, ond penderfynodd ei rieni siarad Saesneg gyda
fe a'i chwaer. Ar ôl dod yn Aelod Cynulliad, penderfynodd Glyn fynd
ati i ddysgu'r Gymraeg ac ers 2000 mae e wedi bod yn cael gwersi un-i-un
gyda Siân Jones, Swyddog y Gymraeg gydag Acen. Erbyn hyn mae Glyn
yn hapus i siarad Cymraeg gyda phawb, i siarad Cymraeg ar lawr y Cynulliad
ac i wneud cyfweliadau Cymraeg. Mae dysgu'r iaith wedi agor llygaid Glyn
i hanes yr iaith a'i diwylliant ac mae'n siwr yn ei feddwl mai Tori oedd
Owain Glyndwr!
PAUL/PICTURE: Mike Hughes
Cafodd Mike ei eni a'i fagu yn Surrey, ond mae ei dad yn Gymro di-Gymraeg
o'r De. Dechreuodd Mike ddysgu Cymraeg drwy lyfr 8 mlynedd yn ôl.
Erbyn hyn mae e wedi gwneud TGAU a Lefel A Cymraeg. Symudodd e i ardal
Carno, Powys bedair blynedd yn ôl lle mae'n byw gyda'i ddyweddi
Andrea, sy'n mynd i ddechrau dysgu Cymraeg. Gweithiwr Allanol Gweldig
gyda phrosiect iechyd meddwl ydy Mike. Mae hefyd yn aelod o Gylch Llenyddol
Maldwyn, yn ysgrifennu colofn y dysgwyr i bapur bro Seren Hafren ac yn
diwtor Cymraeg i Oedolion. Ei hobi ydy garddio ac mae e'n gwneud gradd
allanol. Dyn prysur iawn, mae'n amlwg!
PAUL/PICTURE: Aran Jones
Mae Aran Jones yn byw ac yn gweithio yng Nghaernarfon. Yn ei amser hamdden
mae e'n mwynhau chwarae'r gitâr a'r sacsoffon ac mae'n brysur gyda'r
grwp Cymuned. Cymry Cymraeg oedd nain a taid Aran ond symudon nhw i Loegr
pan oedd ei fam yn chwech oed. Ers Chwefror 2003 mae wedi bod yn swyddog
gyda Chyngor Gwynedd; cyngor sy'n gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg. Aeth
e ar gwrs Cymraeg Wlpan yn Awst 2000 ac eto yn Awst 2001. Ers hynny mae
Aran wedi bod yn defnyddio'r iaith yn naturiol yn ei fywyd pob dydd ac
yn teimlo bellach ei fod yn Gymro llawn.
HELP
cyflwyno - to introduce/present
noson wobrwyo - awards evening
cyhoeddi - to announce
dilyn - to follow
safon - standard
enillydd - winner
derbyn - to receive
tlws/tlysau - trophy/trophies
magu - to raise
Gwyddeles - Irishwoman
meddwl - mind
drwy gyfrwng - through the medium of
cymdeithasu - to socialise
gwella - to improve
aelod - member
canu gwerin - folk singing
Aelod Cynulliad - Assembly Member
penderfynu -to decide
cyfweliadau - interviews
diwylliant - culture
geni - to be born
dyweddi - fiancée
gweithiwr allanol gwledig - rural outreach worker
iechyd meddwl - mental health
Cylch Llenyddol - Literary Circle
gradd allanol - external degree
swyddog - officer
defnyddio - to use
yn naturiol - naturally
bellach - (by) now
llawn - full/complete
News
Once again this year, four people came through to the final of the Welsh Learner of the Year competition. The four were introduced in the Learners' Tent at the National Eisteddfod at Meifod. Then, at an evening awards ceremony, the name of the winner was announced. HTV cameras were there to follow the four for a Welsh language programme on S4C and an English language programme on ITV1 Wales.The four finalists were Teresa Marie Cody from Aberystwyth, Glyn Davies from Aberriw, Mike Hughes from Carno and Aran Jones from Caernarfon. The standard was very high and the winner was Mike Hughes. Mike received £300 and the Welsh Learner of the Year trophy. The other three each received £100 and trophies. Congratulations to all four.
PAUL/PICTURE: Teresa Marie Cody
Teresa was raised as an Irishwoman in Birmingham. She came to Aberystwyth
in 2001 to study Biology at the University but changed her mind and did
Celtic Studies through the medium of English. She started learning Welsh
as part of the course and by now follows the whole course through the medium
of Welsh. Teresa enjoys socialising and now most of her friends at University
are Welsh speakers, a fact that helps her improve her Welsh. She also works
for the Welsh language organisation CYD and was a member of the CYD folk
singing choir at the Eisteddfod in Meifod.
PAUL/PICTURE: Glyn Davies
Glyn Davies is a farmer from Aberriw, Powys, but since 1999 he has been
an Assembly Member. His interests are sports and gardening. His family all
spoke Welsh, but his parents decided to speak English with him and his sister.
After becoming an Assembly
Member, Glyn decided to learn Welsh and since 2000 has been having one-to-one
lessons with Siân Jones, a Welsh Language Officer with Acen. By now
Glyn is happy to speak Welsh with everyone, to use the language on the floor
of the Assembly and to take part in Welsh language interviews. Learning
the language has opened Glyn's eyes to the history of the language and its
culture and he is sure in his own mind that Owain Glyndwr was a Tory!
PAUL/PICTURE: Mike Hughes
Mike was born and raised in Surrey, but his father is a non-Welsh speaker
from South Wales. Mike began learning Welsh from books eight years ago.
By now he has done GCSE and A Level Welsh. He moved to the Carno area in
Powys four years ago and lives there with his fiancée Andrea, who
intends to start learning Welsh. Mile is a Rural Outreach Worker with a
mental health project. He is also a member of the Maldwyn Literary Circle,
he writes a Welsh Learners column for the local newspaper Seren Hafren,
and is a Welsh for Adults tutor. His hobby is gardening and he is also doing
an external degree. He's obviously a very busy man!
PAUL/PICTURE: Aran Jones
Aran Jones lives and works in Caernarfon. In his leisure time he enjoys
playing the guitar and the saxophone and is busy with the Welsh language
activist group Cymuned. His grandparents were Welsh speakers but they moved
to England when his mother was six years old. Since February 2003 he has
been an officer with Gwynedd Council, a council that uses the Welsh language
in the workplace. He went on a Welsh Wlpan course in August 2000 and again
in August 2001. Since then Aran has been using the language naturally in
his everyday life and now feels that he is completely Welsh.
Ffeithlen
Y gêm genedlaethol? Ie, os ydych chi'n credu beth mae rhai o fois y cyfryngau yng Nghymru yn ei ddweud. Ydyn, maen nhw wedi codi stadiwm mawr gwych yng nghanol Caerdydd, ond tîm pêl-droed Cymru sy'n ennill yno fel arfer!Os ydych chi'n ffan, mae cyfle i chi wylio gemau rygbi yn fyw ar S4C bob pnawn
Sadwrn. Eleni hefyd bydd cystadleuaeth Cwpan Rygbi'r Byd yn Awstralia yn ystod
mis Hydref a Thachwedd 2003, a bydd cyfle i weld gemau Cymru i gyd a rhai o'r
gweddill gyda sylwebaeth Gymraeg ar S4C.
Er mwyn dilyn a deall y sylwebaeth yn Gymraeg, rhaid i chi wybod y termau.
PAUL: CAN YOU ARRANGE THESE IN THREE BOXES - SEE THE PRINT MAG FOR IDEAS
prop
bachwr (hooker)
ail reng (2nd row)
blaen asgellwr (centre forward)
wythwr / clo (lock)
mewnwr (inside half)
maswr (outside half)
asgellwr (wing)
canolwr (centre)
cefnwr (back)
eilydd (reserve/substitute)
dyfarnwr (referee)
llumanwr (linesman)
cicio - to kick
cosbi - to penalise
dan - under
dros - over
ochrgamu - to side-step
pasio - to pass
rhwng - between
sgorio - to score
taclo - to tackle
taflu - to throw
taro ymlaen - to knock on
chwiban - whistle
cic - kick
cic adlam - drop-kick
cic gosb - penalty kick
gôl - goal
gôl adlam - drop-goal
llinell - line
llinnell gwsg - dead-ball line
pêl ; y bêl - the ball
postyn/pyst - post/-s
sgôr - score
sgrym - scrum
PAUL: CAN YOU GET THESE IN A BOX - SEE PRINT MAG
CWPAN RYGBI'R BYD
Grwp A: Awtralia, Ariannin, Iwerddon, Namibia, Romania
Grwp B: Ffrainc, Yr Alban, Fiji, Japan, UDA
Grwp C: De Affrica, Lloegr, Samoa, Georgia, Uruguay
Grwp D: Seland Newydd, Cymru, Yr Eidal, Canada, Tonga
If you are a fan, there's an opportunity to watch a live match every Saturday afternoon on S4C. This year (2003) the Rugby World Cup competition is being held in Australia during October and November, and there will be an opportunity to watch all the Wales matches and some of the others with a Welsh language commentary on S4C.
In order to understand and follow the Welsh language commentary, you have to know the terms.