Cyfweliadau
Huw Jones
Prif Weithredwr S4C
English Translation
Ble cawsoch chi eich geni a'ch magu?
Ces i fy ngeni ym Manceinion (Manchester), ond symudodd y teulu i Gaerdydd pan oeddwn i'n 2 oed. Es i Ysgol Gymraeg Bryntaf ac Ysgol Uwchradd y Bechgyn, Caerdydd cyn mynd i Goleg Iesu, Rhydychen (Oxford).
Oes teulu gyda chi?
Oes - Siān y wraig a'r plant, Owain (28) a Siwan (25).
Beth dych chi'n wneud yn eich amser hamdden?
Beicio, darllen, mynd i'r sinema a sgļo. O, a gwylio S4C, wrth gwrs!
Roeddech chi'n ganwr pop enwog pan oeddech chi'n ifancach. Dych chi'n dal i ganu?
Na, dw i byth yn canu nawr. Ond hoffwn i fod wedi canu gyda band trydanol achos dim ond gitār acwstig oedd gyda fi.
Fwynheuoch chi eich amser gyda Chwmni Sain?
Do, yn fawr. Roedd sefydlu (establish) Sain, gweithio gyda grwpiau a chanwyr newydd a recordio record gyntaf Sain - Dwr - i gyd yn gyffrous iawn.
A symud wedyn i gwmni Tir Glas i greu rhaglenni teledu.
Ie. Roedden ni'n gwneud rhaglenni adloniant ysgafn (light entertainment) poblogaidd iawn ac mae un - Noson Lawen - yno o hyd.
Dych chi wedi bod yn Brif Weithredwr S4C ers 1994. Dych chi wedi mwynhau'r gwaith?
Ydw, yn fawr iawn. Mae rhedeg gwasanaeth teledu Cymraeg yn her (challenge) fawr. Rhaid i ni ddarparu rhaglenni ar gyfer gwylwyr o bob oed, chwaeth (taste) a chefndir (background).
Mae S4C yn 20 oed eleni. Sut mae pethau wedi newid?
Y newid mawr ydy teledu digidol a'r ffaith bod yn rhaid i S4C gystadlu (compete) am wylwyr yn erbyn nifer fawr iawn o sianelau Saesneg sy'n dangos pob math o raglenni - yn arbennig yn ystod yr oriau brig (peak viewing time).
Beth am ddyfodol S4C?
Rhaid i ni wneud yn siwr bod rhaglenni teledu Cymraeg yn cynnig rhywbeth arbennig i wylwyr ac mae rhaid i ni feithrin (nurture) talentau newydd.
Ydy Dysgwyr yn bwysig i S4C?
Wrth gwrs. Mae gyda ni raglenni arbennig i ddysgwyr, fel Welsh in a Week, ac mae ein gwasanaethau is-deitlo yn helpu dysgwyr i ddeall rhaglenni. Mae gwylio rhaglenni yn ffordd dda o ddysgu'r iaith. Ac, os ydyn nhw'n rhaglenni diddordol, bydd dysgwyr eisiau dysgu'r Gymraeg er mwyn mwynhau'r sianel.
Cyfweliadau
Huw Jones
Chief Executive S4C
cyfieithiad / translation
Where were you born and brought up?
I was born in Manchester, but the family moved to Cardiff when I was 2 years old. I went to Bryntaf Welsh Primary School, then the English medium Cardiff High School before going to Jesus College Oxford.
Have you got a family?
Yes - my wife Siān and the children, Owain (28) and Siwan (25).
What do you do in your leisure time?
Biking, reading, going to the cinema and skiing. Oh, and watching S4C, of course!
You were famous as a Welsh pop singer when you were younger. Do you still sing?
No, I never sing now. But I would like to have sung with an electric band because I only had an acoustic guitar.
Did you enjoy your time at Sain (the company he co-founded with Dafydd Iwan)
Yes, very much. Founding Sain, working with new singers and groups and recording Sain's first ever record - Dwr - were all very exciting.
And then you moved to Tir Glas film company to create television programmes.
Yes. We made very popular light entertainment programmes, and one of them - Noson Lawen - is still being made.
You've been chief executive of S4C since 1994. Have you enjoyed the work?
Yes, very much so. Running a Welsh language television serive is a big challenge. We have to provide programmes for viewers of all ages, taste and background.
S4C is 20 years old this year. How have things changed?
The great change has been digital television and the fact that S4C has to compete for viewers against a huge number of English language channels, which show all kinds of programmes - especially at peak viewing times.
What is the future for S4C?
We have to ensure that Welsh language television programmes offer viewers a special experience - something they can't get elsewhere - and we have to nurture new talent.
Are Welsh learners important to S4C?
Of course they are. We've got special programmes for learners, such as Welsh in a Week, and our subtitling services help learners understand our programmes. Watching Welsh language programmes is a good way of learning the language. And, if they are interesting programmes, learners will want to become more fluent in order to enjoy what the channel has to offer.