Cyfweliadau
Haf 2002Ann-Marie Brierley

Ann-Marie Brierley, Tiwtor Cymraeg, Patagonia.
O ble dych chi'n dod?
O bentref Ffwrnes, ger Llanelli.
Oes teulu gyda chi?
Oes, mae Mam a Dad wedi ymddeol ac yn byw yn Ffwrnes. Mae fy chwaer, Helen, wedi priodi ac yn byw gyda'i theulu yng Nghaerdydd.
Ble aethoch chi i'r ysgol?
Es i Ysgol Bro Myrddin ac yna i Brifysgol Cymru Caerdydd rhwng 1991 a 1994 i astudio'r Gymraeg. Wedyn gwnes i fy MA mewn Astudiaethau Gwerin yn Sain Ffagan.
Ble dych chi wedi gweithio?
O 1995 tan 1997 bues i'n gweithio yn Sir Gaerfyrddin fel tiwtor Cymraeg i Oedolion a hefyd yn gyfieithydd i'r cyngor sir.
Dych chi wedi dysgu mewn ysgol hefyd?
Ydw. Roeddwn i'n athrawes yn adran y Gymraeg, Ysgol Bro Myrddin o Fedi 1998 tan fis Gorffennaf 2001.
A dyna pryd daethoch chi i Patagonia?
Ie. Roeddwn i'n un o dair ddaeth yma llynedd. Dw i'n dysgu dosbarthiadau o blant ac oedolion yma yng Nghanolfan Dewi Sant, Trelew a hefyd yn Puerto Madryn a Rawson.
Dych chi'n mwynhau'r gwaith?
Ydw, yn fawr iawn. Mae'r dysgwyr yn frwd iawn a dyn ni'n cael llawer o hwyl hefyd yn gwneud pethau cymdeithasol.
Beth dych chi'n feddwl o'r wlad a'r bobol?
Mae'n lle ffantasig, yn arbennig yn yr haf! Mae pawb mor gyfeillgar a dw i wedi gwneud ffrindiau da yma. Dyn ni'n cael llawer o hwyl yn cymdeithasu. Dw i'n arbennig o hoff o'r asado - fel barbeciw.
Beth am y dyfodol?
Wel, mae'r cytundeb yn dod i ben ym mis Gorffennaf. Hoffwn i aros yma am ychydig eto, ond cawn ni weld!