Cyfweliadau
Haf 2000Catherine Williams
Beth ydy'ch enw chi?Catherine Williams.
Pwy ydy eich teulu chi?
Mae gen i wr, Gwynfor sy'n athro mathemateg. Mae gen i fab hefyd, Gethin, sy'n ddwy oed.
Ble cawsoch chi eich geni a'ch magu?
Mi ges i fy ngeni yn swydd Efrog, ond pan oeddwn i'n bedair oed mi wnaethon ni symud i Macclesfield yn Sir Caer.
Ble aethoch chi i'r ysgol/coleg?
Mi es i i'r ysgol yn Macclesfield - Macclesfield High School. Yna, es i i Brifysgol Hull.
Beth ydy'ch gwaith chi?
Dw i'n gweithio adra ar hyn o bryd, ond roeddwn i'n athrawes Ffrangeg a Saesneg.
Beth ydy'ch diddordebau chi?
Dw i'n mwynhau cerdded yn y mynyddoedd ac ar lan y môr efo Gwynfor a Gethin. Fy hoff fwyd ydy bwyd Sbaen, ac yn enwedig bwyd Catalonia. Fy hoff le ydy Obergesteln yn y Swistir.
Pryd dechreuoch chi ddysgu Cymraeg?
Mi wnes i ddechrau dysgu Cymraeg yn 1995 ar ôl i mi briodi Cymro Cymraeg. Mi wnes i gwrs Wlpan yn y brifysgol ym Mangor.
Pam roeddech chi eisiau siarad Cymraeg?
Mae'r gwr yn siarad Cymraeg yn famiaith ac felly roeddwn i eisiau gallu siarad Cymareg efo fo a hefyd efo'n plant ni.
Sut dych chi'n defnyddio'r Gymraeg erbyn hyn?
Dyn ni'n siarad Cymraeg bron iawn drwy'r amser yn y ty. Dw i'n mynd â Gethin i gylch Ti a Fi lle dyn ni'n siarad Cymraeg. Dw i'n aelod o Ferched y Wawr ym Mhenrhosgarnedd ac mae gen i lawer o ffrindiau Cymraeg sy'n siarad yr iaith efo fi.