w w w . a c e n . c o . u k cylchgrawn


Cyfweliadau

Gwanwyn 2002

Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas

cyfieithiad / translation

-
Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas
Ble caswoch chi eich geni a'ch magu?

Ces i fy ngeni ynYsbyty'r Priordy, Caerfyrddin. Ces i fy magu yn ardal Llandysul yn y Gorllewin ac yna yn Llanrwst yn Nyffryn Conwy.

Oes teulu gyda chi?

Oes. Mae fy wraig - Mair Parry Jones - yn Bennaeth yr Adran Gyfieithu (Head of Translation Department) yn y Cynulliad Cenedlaethol. Hefyd mae Mam, sy'n 85 oed, yn byw yn y Bala.

Oes plant?

Oes, tri mab - Cai sy'n ddawnsiwr proffesiynol, Meilir sy'n gweithio i gwmni teledu Barcud/Derwen a Guto sy'n gweithio i Ffilmiau'r Nant.

Ble dych chi'n byw?

Yn Llandaf pan dw i'n gweithio yn y Cynulliad; ond mae ty hefyd ym Metws y Coed a dw i'n hoffi mynd yno ar y penwythnos.

Beth ydy'ch diddordebau chi?

Cerdded. Dw i wrth fy modd yn cerdded ym mynyddoedd Eryri. Dw i hefyd yn mynd am dro a rhedeg yn y parc yn Llandaf.

Oes hobïau eraill?

Oes - ffilmiau, cerddoriaeth a darluniau. Dw i hefyd yn mwynhau coginio ac wrth fy modd yn paratoi swper i ffrindiau.

Dych chi'n hoffi gweithio yn y Cynulliad?

Ydw, yn fawr iawn. Dw i'n hoffi cwmni gwleidyddion (politicians) a newyddiadurwyr (journalists).

Beth am le'r Gymraeg yn y Cynulliad?

Mae'n bwysig bod y Cynulliad yn gweithio yn y Gymraeg a'r Saesneg. Dw i'n falch bod llawer o bobol yn dewis defnyddio'r Gymraeg yn y Siambr ac mewn pwyllgorau (committees) ac mae nifer ohonyn nhw yn ddysgwyr.

Oes neges gyda chi i ddysgwyr?

Oes - daliwch ati a mwynhewch! Mae'n bwysig bod pobol yn siarad Cymraeg yn gymdeithasol (socially) ac yn y gwaith.

cyfieithiad / translation

A5 A5    [ 1 | 2 ]
Bro Dewi Bro Dewi
A470 A470    [ 1 | 2 | 3 ]
  Archif / Archive
   WIAW2 ym Mhatagonia
   Llythyrau
   Hanes Patagonia
   Llangollen
   Dyffryn Clwyd
   Santes Dwynwen
   Sant Ffolant
   Sir Gaerfyrddin
- Eich cyfle chi i ddweud eich dweud.

Your chance to have your say in Welsh.