w w w . a c e n . c o . u k cylchgrawn


Cyfweliadau

David Williams
David Williams

Cafodd David ei eni yn Trelew, Chubut yn 1966. Aeth i'r ysgol yn Trelew tan oedd e'n 17 oed ac yna aeth i'r brifysgol yn Buenos Aires i ddysgu bod yn ddoctor. Bu'n gweithio fel meddyg yn Buenos Aires o 1991 tan 2000.

Yn 1992 teithiodd o gwmpas Ewrop ac aeth i Gymru am 10 diwrnod i ymchwilio i hanes ei deulu. Ar 4 Awst 2000 priododd Carina Alejandra Medina yn Buenos Aires cyn dod adref i Trelew i weithio fel meddyg teulu mewn ardal dlawd o'r ddinas. Cafodd ei fab, Eric Thomas, ei eni yn 2001.

Ar ochr ei dad, mae David yn perthyn i Gymry ddaeth i Ariannin ar y "Mimosa" yn 1865 - o ardal Cefn Cribwr, Troed y Rhiw a Dolwyddelan. Sgrifennodd ei daid, Egrun Williams, lyfr yn Gymraeg a Sbaeneg am Patagonia. Yn 1980, pan fu farw Egrun Williams, dechreuodd David gymryd diddordeb yn ei dras Gymreig.

Yn 2001 dechreuodd e ddysgu Cymraeg mewn dosbarth nos yng Nghanolfan Dewi Sant, Trelew ac ym mis Rhagfyr 2001 cymerodd yr her i ddysgu'r iaith ar y rhaglen deledu Welsh in a Week. Mae David yn gobeithio y bydd dysgu Cymraeg yn help iddo ddysgu mwy am hanes ei deulu a'r Cymry ddaeth i Patagonia.

cyfieithiad / translation

A5 A5    [ 1 | 2 ]
Bro Dewi Bro Dewi
A470 A470    [ 1 | 2 | 3 ]
  Archif / Archive
   WIAW2 ym Mhatagonia
   Llythyrau
   Hanes Patagonia
   Llangollen
   Dyffryn Clwyd
   Santes Dwynwen
   Sant Ffolant
   Sir Gaerfyrddin
- Eich cyfle chi i ddweud eich dweud.

Your chance to have your say in Welsh.