Cyfweliadau
Gwenllian Grigg
Cyflwynydd Yr Wythnos - (S4C 12.30 Sul)
Ble cawsoch chi eich geni a'ch magu?
Ces i fy ngeni yn Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth a fy magu ym mhentre Talgarreg, Ceredigion. Es i i ysgol fach y pentre cyn mynd i Ysgol Gyfun Aberaeron ac yna Ysgol Dyffryn Teifi yn Llandysul. Yna ymlaen i Goleg Celf Caerfyrddin am flwyddyn, cyn mynd i astudio’r Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth.
Ble dych chi'n byw nawr ac oes teulu gyda chi?
Dw i’n byw yng Nghaerdydd gyda'r gwr, Richard, Dyn ni’n disgwyl ein plentyn cynta ym Mis Tachwedd.
Beth dych chi'n wneud yn eich amser hamdden?
Dw i'n hoffi ymlacio drwy ddarllen a gwrando ar gerddoriaeth, ond dw i’n mwynhau cymdeithasu hefyd. Fy un diddordeb mawr ydy celfyddyd (art) - dw i’n hoffi arlunio
Beth wnaethoch chi cyn ymuno â'r BBC?
Ar ôl gadael y coleg, es i i weithio yn Slofenia am flwyddyn gyda ffoaduriaid (refugees) o Bosnia. Treuliais i'r flwyddyn yn dysgu Saesneg i blant ac oedolion. Ar ôl dod yn ôl i Gymru, des i i Gaerdydd i weithio i Acen, lle roeddwn i’n gweithio ar wasanaeth is-deitlo 889.
Ers faint dych chi'n gweithio i BBC Cymru?
Dechreuais i tua saith mlynedd yn ôl yn rhan amser, ond dw i’n gweithio yno yn llawn amser ers bron i bedair blynedd.
Beth dych chi wedi bod yn wneud yn y BBC?
Gweithio i adran gyflwyno (presentation) Radio Cymru i ddechrau, cyn symud i adran newyddion Radio Cymru. Roeddwn i’n darllen bwletinau a gwneud eitemau ar gyfer y Post Cynta a’r Post Prynhawn. Tua wyth mis yn ôl, es i weithio i’r rhaglen Newyddion ar y teledu, ac yno ces i’r cyfle i ohebu (report).
Dych chi nawr yn gweithio ar Yr Wythnos. Beth ydy'ch rôl chi?
Cyflwyno’r rhaglen a gweithio gyda’r cynhyrchydd (producer) i roi’r rhaglen at ei gilydd a sgriptio’r eitemau mewn iaith addas (suitable) i ddysgwyr.
Beth am y dyfodol?
Ar hyn o bryd, dw i’n mwynhau cyflwyno’r Wythnos ac yn gobeithio gallu cario ymlaen i wneud hynny.