w w w . a c e n . c o . u k cylchgrawn


Cyfweliadau

Haf 2000

Inge Pierce Jones


Dysgwr y Flwyddyn Pwy dych chi?

Inge Pierce Jones ydy f'enw i.

Pwy ydy eich teulu chi?

Fy ngwr, John Pierce Jones sy'n actor, ysgrifennwr a chynhyrchydd.


Ble cawsoch chi eich geni a'ch magu?

Americanes ydw i, ond ces i fy ngeni yn Siapan yn nghanolfan y Llynges Amercanaidd lle roedd fy rhieni yn byw. Roedd fy nhad yn y llynges, felly ces i fy magu o gwmpas y byd. Symudon nhw bron bob yn ail flwyddyn i wahanol leoedd yn yr Unol Daleithiau a hefyd dramor, fel Brasil a Taiwan. Ond dw i'n gobeithio aros yng Nghymru rwan!


Ble aethoch chi i'r coleg?

Es i Brifysgol Yale yn new Haven, Connecticut. Pan ddes i i Gymru, dysgais i fod Yale (Iâl yn Gymraeg) wedi cael ei henwi ar ôl y Cymro, Elihu Yale wnaeth roi arian i'r brifysgol.

Beth ydy'ch gwaith chi?

Dw i'n gweithio fel ymchwilydd i gwmni teledu Al Fresco sy'n gwneud rhaglenni adloniant ysgafn fel Yr Asembli, Brodyr Bach a Cerdyn Post i S4C a rhaglenni dogfen, fel The Welsh in Hollywood yn Saesneg i HTV. Dw i'n dod o hyd i'r wybodaeth bydd y cyflwynydd yn ddefnyddio yn y rhaglen a dw i'n trefnu'r lleoliadau. Mae'r gwaith yn ddiddorol am fod pob rhaglen yn wahanol. Dw i'n gweithio yng Nghaerdydd fel arfer, ond weithiau dw i'n teithio i'r Unol Daleithiau i wneud ymchwil.

Beth ydy'ch diddordebau chi?

Dw i'n hoffi marchogaeth a hwylio yn fy amser sbâr a dw i'n nofio i gadw'n ffit. I ymlacio, dw i'n hoffi gwylio rhaglenni dogfen ar y teledu, yn arbennig rhai ar bynciau hanesyddol neu gymdeithasol. Hefyd dw i'n hoffi darllen llyfrau a chylchgronau.

Pryd dechreuoch chi ddysgu Cymraeg?

Dechreuais i ddysgu Cymraeg bron i ddwy flynedd yn ôl pan symudais i Gymru. Gwnes i gwrs Wlpan yn y Brifysgol yng Nghaerdydd.

Pam roeddech chi eisiau siarad Cymraeg?

Dw i'n dysgu Cymraeg am fy mod i'n byw yng Nghymru. Dw i'n meddwl ei bod hi'n bwysig iawn i ddysgu iaith y wlad lle dych chi'n byw. Heb ddeall yr iaith, mae'n anodd deall hanes neu ddiwylliant lleol y lle. Roedd fy rhieni yn awyddus iawn i ni'r plant ddysgu am iaith a diwylliant y lleoedd roedden ni'n mynd i fyw ynddyn nhw. Pan ôn i'n byw ym Mrasil, dechreuais i deimlo yn rhan o'r gymuned leol pan ôn i'n gallu siarad Portiwgaleg. Mae'n bwysig i mi ddysgu'r Gymraeg achos mae John y gwr yn siarad Cymraeg yn famiaith; allwn i ddim bod yn rhan o'i fywyd Cymreig e heb ddeall ei iaith yn gyntaf. Hefyd, mae ei deulu a'i ffrindiau i gyd yn siarad yr iaith a dw i'n gweithio mewn swyddfa lle mae pawb yn siarad Cymraeg.

Sut dych chi'n defnyddio'r Gymraeg erbyn hyn?

Dw i'n ceisio defnyddio'r Gymraeg ym mhob rhan o 'mywyd i. Dw i'n siarad Cymraeg bob dydd gyda John; dyn ni'n ceisio siarad yn Gymraeg bob amser. Ac wrth gwrs, dw i'n siarad Cymraeg yn y gwaith. Dw i'n ceisio gwrando ar Radio Cymru a gwylio S4C yn aml. A Chymraeg bydda i'n siarad rhan amla pan fydda i'n mynd i gymdeithasu gyda'r gwr a ffrindiau.
A5 A5    [ 1 | 2 ]
Bro Dewi Bro Dewi
A470 A470    [ 1 | 2 | 3 ]
  Archif / Archive
   WIAW2 ym Mhatagonia
   Llythyrau
   Hanes Patagonia
   Llangollen
   Dyffryn Clwyd
   Santes Dwynwen
   Sant Ffolant
   Sir Gaerfyrddin
- Eich cyfle chi i ddweud eich dweud.

Your chance to have your say in Welsh.