w w w . a c e n . c o . u k cylchgrawn

Cyfweliad â Jenny Ogwen
Ebrill 2003

HELP
English


Os ydych chi'n gwylio S4C, byddwch chi wedi gweld y person rydyn ni'n siarad â hi y tro yma. Mae hi ar y bocs yn aml iawn yn rhoi newyddion pwysig iawn i ni am y tywydd. Ond mae mwy i Jenny Ogwen na siarad am y tywydd!

Ble cawsoch chi eich geni a'ch magu?
Ces i fy ngeni yn Llandybie, Sir Gaerfyrddin. Pan oeddwn i'n 2 oed, symudodd y teulu i Grymych yn Sir Benfro achos roedd Dad wedi prynu busnes newydd. Pan oeddwn i'n 17, es i Lundain i ddysgu bod yn ysgrifenyddes.

Oes teulu gyda chi?
Oes, Euryn y gwr, Rhodri'r mab a Sara'r ferch. Mae Euryn, fel fi, wedi bod yn y cyfryngau ers y 60au. Mae Rhodri yn gweithio gyda Sky Sports yn Llundain a hefyd i S4C ar raglenni fel Y Clwb Rygbi a Pacio. Mam i Soffia, fy wyres 18 mis oed ydy Sara; hi oedd Catrin Bennett yn Pobol y Cwm ac, ar hyn o bryd, mae mae hi'n aelod o'r tîm cyflwyno ar S4C.

Ble dych chi'n byw?
Wrth y môr yn y Barri - lle hyfryd.

Beth ydy'ch diddordebau chi?
Soffia, coginio a chwarae golff. Dw i'n dwlu bod yn fam-gu - mam-gu ifanc, wrth gwrs! Dw i newydd gael ffwrn newydd ac felly dw i wrth fy modd yn gwneud cacennau bach i Soffia. Dw i'n hoffi dianc i'r cwrs golff i fwynhau'r awyr iach!

Dych chi hefyd yn gwneud gwaith elusennol.
Ydw. Dw i'n codi arian i elusennau fel Achub y Plant (Save the Children) a Chronfa Mêr Esgyrn Cymru (Welsh Bone Marrow Fund).

Beth am wyliau?
Môr a haul bob tro i mi. Ers 10 mlynedd dw i wedi bod yn mynd i Lanzarote; mae'n lle bendigedig!

Sut dechreuoch chi ym myd y teulu?

Dechreuais i fel ysgrifenyddes ar raglen newyddion Y Dydd, Ers hynny, dw i wedi gwneud nifer o bethau, fel cyflwyno'r rhaglen Siôn a Siân a rhaglenni i blant. Dw i hefyd wedi actio ar y gyfres deledu i ddysgwyr, Now You're Talking. A nawr gallwch chi glywed fy llais ar Radio Acen.

Bydd pawb, dw i'n siwr, yn eich nabod chi fel wyneb y tywydd ar S4C. Ydych chi'n mwynhau'r gwaith?
Ydw, mae'n lot o hwyl. Mae'r tywydd yn newid bob dydd, felly dydy e byth yn "boring".

A beth am y dyfodol?
Tipyn o waith radio efallai a dechrau cwmni i ddysgu pobol ifanc sut i gyflwyno rhaglenni teledu. Ac wrth gwrs, digon o amser i fod gyda Soffia, chwarae golff a mwynhau gwyliau yn yr haul!

HELP

> > Erthyglau - Articles < <

> > Ffeithlen - Fact File < <

> > Newyddion - News < <

>> Cyfweliadau - Interviews < <