Cyfweliadau
Haf 2000Keneuoe Bardgett
Pwy dych chi?Keneuoe Bardgett.
Pwy ydy eich teulu chi?
Mae gen i un plentyn; ei enw yw Daniel ac mae'n ddwy oed. Dw i wedi ymgartrefu yn y Bala gyda fy mhartner, Paul, sy'n adeiladwr.
Ble cawsoch chi eich geni a'ch magu?
Ces i fy ngeni a fy magu yn Lesotho, De Affrica.
Ble aethoch chi i'r ysgol?
Ces i fy addysg mewn nifer o ysgolion yn Lesotho.
Beth ydy'ch diddordebau chi?
Fy niddordebau i ydy siopa, coginio a chwaraeon, yn enwedig rygbi. Dw i'n chwarae rygbi i Glwb Merched Dolgellau.
Pryd dechreuoch chi ddysgu Cymraeg?
Dw i wedi bod yn dysgu Cymraeg ers 1996. Ces i'r cyfle i dddechrau siarad yr iaith drwy Gyngor Gwynedd.
Pam roeddech chi eisiau siarad Cymraeg?
Roeddwn i eisiau siarad Cymraeg achos mae'r iaith yn bwysig i mi. Dw i'n delio â'r cyhoedd yn fy gwaith a dw i hefyd eisiau siarad Cymraeg â Daniel, sy'n mynd i cylch meithrin Ti a Fi.
Sut dych chi'n defnyddio'r Gymraeg erbyn hyn?
Dw i'n defnyddio'r Gymraeg yn gymdeithasol yn y Bala, wrth chwarae rygbi a hefyd, wrth gwrs, yn y gwaith.
Beth ydy'ch gwaith chi?
Dw i'n gweithio fel swyddog budd-dal i Gyngor Gwynedd yn Nolgellau.