Cyfweliadau
Gwanwyn 2001Talk About Welsh
Rhys ap William
O ble dych chi'n dod yn wreiddiol?Cwmllynfell, Cwmtawe.
Ble dych chi'n byw nawr?
Caerdydd.
Oes teulu gyda chi?
Oes. Mam, Dad, chwaer a Barney y ci.
Beth ydy'ch diddordebau chi?
Chwaraeon, ffilmiau, coginio, drama.
Pryd a ble dechreuoch chi berfformio?
Yn Ysgol Gynradd Cwmllynfell.
Dych chi wedi mwynhau cymryd rhan yn Talk About Welsh?
Ydw, yn fawr. Roedd e'n llawer o hwyl ac roeddwn i'n hoffi'r cymeriad.
Beth dych chi'n wneud yn 2001?
Actio yn y gyfres deledu "Talcen Caled", y gyfres radio "Eileen" a gweithio ar "Y Clwb Rygbi".
Beth ydy'ch uchelgais chi?
Gwneud ffilm Gymraeg neu Saesneg a gweithio yn y theatr.