w w w . a c e n . c o . u k cylchgrawn


Cyfweliadau

Haf 2000

Dysgwr y Flwyddyn
Sandra Elisa


Dysgwr y Flwyddyn Beth ydy'ch enw chi?

Sandra Elisa ydy fy enw i.

Pwy ydy'ch teulu chi?

Mae gen i ferch fach. Mae fy rhieni wedi ymddeol rwan ac yn byw yn La Plata tua 2,000 Km o Drevelin, lle dw i'n byw. Mae gen i frawd a dwy chwaer hefyd. Mae fy mrawd yn athro a newydd orffen yn y Brifysgol; mae'n gyfreithiwr hefyd. Mae fy chwaer ifanca yn gweithio yn y farchnad ac mae'r llall yn fy nilyn i fel athrawes.

Ble cawsoch chi eich geni a'ch magu?

Mi ges i fy ngeni a fy magu yn La Plata. La Plata ydy prifddinas Talaith Buenos Aires; mae hi 60 Km o ddinas Buenos Aires.

Ble aethoch chi i'r ysgol/coleg?

Wnes i fynd i'r ysgol yn La Plata a wnes i fynd i'r coleg yn City Bell, 15 km o La Plata.

Beth ydy'ch gwaith chi?

Athrawes ydw i. Dw i'n gweithio yn Ysgol y Felin, yn Nhrevelin ac yn Ysgol Esquel hefyd. Dyma ddwy ysgol sy'n dilyn cynllun arbennig iawn yn Ariannin. Mae gynnon ni blant rhwng tair ac un deg pedair oed sy'n dysgu Cymraeg. Maen nhw'n mwynhau'r dysgu ac mae ganddyn nhw ddiddordeb mewn cerddoriaeth, arlunio a gweithgareddau sy'n rhoi cyfle i fynegi eich teimladau.

Sut dych chi'n defnyddio'r Gymraeg erbyn hyn?

Wel, mae fy merch yn siarad Cymraeg hefyd, felly dyna'r iaith yn y ty. Athrawes ydw i; wnes i ddechrau dysgu Cymraeg yn Ysgol y Felin ac Esquel ddwywaith yr wythnos ac unwaith yr wythnos dw i'n darlithio i ddosbarth y Dechreuwyr (Cynllun dysgu Cymraeg yn y Wladfa) Dw i'n mynd i'r dosbarth gloywi hefyd. Achos mae gen i ddiddordeb mewn darlledu, wnes i gyflwyno eitemau yn Eisteddfod Trevelin sawl gwaith. Mi ges i wahoddiad gan y BBC i gymryd rhan yn Rhaglen Radio Cymru ym Mis Hydref pan oedd Eisteddfod Trelew yn cael ei darlledu yn fyw i Gymru.

Pryd a sut dechreuoch chi ddysgu Cymraeg?

Dechreuais i ddysgu Cymraeg ym 1997, pan ddechreuodd y cynllun i ddysgu Cymraeg yn yr Wladfa. Wnes i dderbyn gwahoddiad gan rieni'r ysgol i ymuno â'r dosbarthiaddau ddwywaith yr wythnos. Oherwydd yn Ysgol y Felin dyn ni'n gwerthfawrogi diwylliant gwerin y byd, wnes i feddwl: "Mmm, pam lai?"

Beth ydy'ch diddordebau chi a'ch hoff bethau?

Dw i'n hoffi darllen, gwrando ar gerddoriaeth a choginio. Mae gen i hefyd ddiddordeb mewn gwaith llaw sef, brodio, origami, gwnio, ac ati. Mae llynnoedd yn yr ardal lle dw i'n byw, felly dw i'n hoffi cerdded neu ddringo a gwersylla hefyd. Does gen i ddim problem gyda bwyd; dw i'n hoffi popeth! Hefyd dw i'n hoffi gwneud rhagleni ar y radio. Wnes i raglen ar gerddoriaeth Blues, Jazz ac ati am ddwy flynedd, rhaglen gerddoriaeth Geltaidd un flwyddyn ac, ar hyn o bryd, mae'r dosbarthiadau Cymraeg yn gwneud rhaglen bob nos Sadwrn ar gerddoriaeth bop o Gymru, a dw i'n cymryd rhan ddwywaith yr mis yno. Ac wrth gwrs dyn ni'n gwneud y rhaglen yn Gymraeg a Sbaeneg.

Pam roeddech chi eisiau siarad Cymraeg?

Doedd gen i ddim syniad ar y pryd sut roedd y Gymraeg yn swnio. Ond, ar ôl i mi fod yn y dosbarthiadau, wnes i ddwli ar swn yr iaith, er nad oes gen i ddim diferyn o waed Cymreig o gwbl.
A5 A5    [ 1 | 2 ]
Bro Dewi Bro Dewi
A470 A470    [ 1 | 2 | 3 ]
  Archif / Archive
   WIAW2 ym Mhatagonia
   Llythyrau
   Hanes Patagonia
   Llangollen
   Dyffryn Clwyd
   Santes Dwynwen
   Sant Ffolant
   Sir Gaerfyrddin
- Eich cyfle chi i ddweud eich dweud.

Your chance to have your say in Welsh.