Cyfweliadau
Shirley Williams
Yn y Gaiman ces i fy ngeni. Roeddwn i'n byw yn Ty Newydd, ffarm Taid a Nain, nes oeddwn i'n 7 oed. Dechreuais yn Ysgol Gynradd Bedthesdsa. Braf iawn oedd yr amser hwnnw, pan oeddwn yn dod adref o'r ysgol, cael hwyl efo ffrindiau, a chael ras ar gefn ceffylau neu sgwrsio ar y gornel ble oedd bob un yn mynd ei ffordd ei hun.
Roedd y sefyllfa ar y ffarm yn ddrwg - dim pres am y cynhaeaf ac mi gafodd Dada waith yn y Gaiman - y dref agosa at ein ffarm. Yn y Gaiman gwnes i orffen yr ysgol gynradd a'r ysgol uwchradd - Coleg Camwy.
Roeddwn i eisiau bod yn athrawes ac felly roedd yn rhaid i mi deithio i'r Coleg yn Nhrelew bob dydd. Er pan ges i fy nerbyn yn athrawes dw i'n gweithio gyda phlant bach.
Yn y flwyddyn 1996, am y tro cyntaf, dechreuodd Ysgol Feithrin Gymraeg, Y Ddraig Fach, yn Nhrelew. Ar ôl tipyn, doedd yr athrawes ddim yn gallu parhau â'r gwaith ac roedd y rhieni yn awyddus i gynnal yr ysgol; felly ddaru Pwyllgor Dewi Sant siarad efo fi, gan eu bod yn gwybod fy mod yn athrawes plant bach ac yn gallu siarad Cymraeg. Dechreuais i yn 1997 efo help y rhieni a'r Pwyllgor ac ers hynny dw i wedi parhau efo'r Ysgol Feithrin. Anghofia i byth am Eleri Hughes, athrawes Gymraeg, ac am ei help bob dydd Gwener yn yr ysgol.
Dw i'n gweithio efo plant rhwng 3 a 5 oed. Maen nhw'n dysgu drwy ganu, adrodd a chwarae. Ar gyfer fy ngwaith yma, ces i ysgoloriaeth i fynd i Lambed yn 1998 am ddau fis, ac yna mis yng Nghaerfyrddin i ddilyn cwrs tiwtoriaid. Mi fuodd yn brofiad arbennig astudio yng Ngholeg y Drindod, ac mi fues i hefyd yn arsylwi gwersi yn Ysgol y Dderwen.
Arhosais am bymtheg diwrnod mewn fflat yn y coleg ac am bymtheg diwrnod arall yng nghartref Rhian Evans, lle ces i groeso arbennig, ac roeddwn i'n teimlo'n gartrefol iawn yno.
Erbyn hyn mae'r Ysgol Feithrin yn cwrdd bob dydd Mawrth a bob dydd Gwener. Yn ogystal â dysgu Cymraeg, mae'r plant bach yn cystadlu yn Gymraeg yn yr Eisteddfod ac yn cymryd rhan mewn nosweithiau llawen.
Dw i'n ddiolchgar iawn i fy rhieni am siarad Cymraeg gyda fi, ac yn arbennig i fy mam a wnaeth siarad yr iaith gyda mi o'r crud. Heblaw am eu hymroddiad nhw fyddwn i ddim wedi cael y cyfle i ymweld â Chymru, ac yn sicr fyddwn i ddim wedi gallu cael gwaith yn dysgu Cymraeg i blant bach.
| cyfieithiad / translation |