Cyfweliadau
Siân Jones
Swyddog "Cymraeg yn y Gwaith" Acen
yn y Cynulliad Cenedlaethol
Ble cawsoch chi eich geni a'ch magu?
Ces i fy ngeni yn Yr Orsedd (Rosset), ger Wrecsam a fy magu yn Nyffryn Ardudwy, Gwynedd.
Ble cawsoch chi eich addysg?
Es i Ysgol Gynradd Dyffryn Ardudwy ac yna i Ysgol Uwchradd Ardudwy yn Harlech cyn mynd i Brifysgol Cymru Abertawe. Treuliais i flwyddyn ym Mharis yn dysgu Ffrangeg ac yna yn ôl i Abertawe i ddilyn cwrs ymarfer dysgu.
Oes teulu gyda chi?
Oes, Rhys y gwr a'n merch fach, Lisa Medi sy'n wyth oed - y ferch fach orau yn y byd i gyd yn grwn!
Ble dych chi'n byw nawr?
Yn y Waun, Caerdydd - ardal dawel iawn, llawn coed ond ddim yn bell o'r siopau, y caffis a'r bwytai yng nghanol y Brifddinas.
Beth ydy'ch diddordebau chi?
Cymdeithasu, siopa, canu, dawnsio salsa, tennis a cherddordiaeth Jules Holland.
Dych chi wedi gweithio yn y cyfryngau (media).
Do. Bues i'n gweithio i HTV am 17 mlynedd fel ymchwilydd (researcher), cynhyrchydd a chyfarwyddwr ar raglenni Cymraeg a Saesneg - cyfle gwych i ddysgu sgiliau gwahanol.
Beth ydy'ch gwaith chi yn y Cynulliad Cenedlaethol?
Dw i'n diwtor personol i nifer o Aelodau Cynulliad (AMs) ac yn eu helpu nhw i ddefnyddio'r Gymraeg yn eu gwaith yn y Cynulliad, mewn cyfweliadau (interviews) ar y teledu a'r radio ac yn gymdeithasol.
Dych chi'n mwynhau'r gwaith?
Ydw, yn fawr. Dw i'n teimlo ein bod ni'n gweithio gyda'n gilydd i greu gweithle dwyieithog (bilingual).