w w w . a c e n . c o . u k cylchgrawn


Dwedwch Chi

Gwanwyn 2003
Cynulliad Cenedlaethol


- Christine Chapman AC (Cwm Cynon)

Dw i'n edrych ymlaen at y Nadolig eleni achos mae fy merch, Rhiannon yn dod adre o'r coleg. Dyma ei thymor cyntaf yn y coleg yng Nghaergrawnt a dw i wedi gweld ei heisiau hi yn fawr iawn.

Bob blwyddyn, mae fy nheulu yn dod ata i am ginio Nadolig; mae deg ohonon ni i gyd yn eistedd o gwmpas y bwrdd! Diwrnod San Steffan bydd Stephen y mab, Mike y gwr, David fy nai a Rhiannon yn mynd am dro ac am bicnic i Ben y Fan.

Dw i'n edrych ymlaen at dreulio mwy o amser yn y ty gyda fy nheulu achos, fel arfer, dw i ddim yn cael llawer o amser i wneud hynny fel Aelod Cynulliad.

- David Davies AC (Sir Fynwy)

Dw i'n gobeithio mynd i Foroco i syrffio. Dw i wedi bod yn syrffio yn America, Awstralia ac Asia, ond dw i erioed wedi bod yn syrffio ym Moroco - un o'r llefydd gorau yn y byd i syrffio, yn ôl y sôn. Bydd rhaid i mi ystyried sefyllfa y rhyfel, wrth gwrs; ond, os nad Moroco, Cei Newydd amdani!

Wedi i'r berthynas gyda fy nghariad ddod i ben, dw i nawr yn ifanc, sengl ac ar gael! Felly pwy a wyr beth fydd gan Siôn Corn yn anrheg i mi!

- Jonathan Morgan AC (Canol de Cymru)

Dw i'n hoffi treulio amser gyda'r teulu dros y Nadolig. Eleni, dw i'n mynd i wasanaeth carolau yn St Michael's Tongwynlais gyda fy narpar wraig. Dw i'n mynd i sawl parti gyda hen ffrindiau ysgol; dw i hefyd yn mynd i Solfach rhwng y Nadolig a'r flwyddyn newydd. Dw i eisiau siopa am anrhegion ond dw i'n mwynhau eu derbyn nhw hefyd!

- Peter Law AC (Blaenau Gwent)

Dros y Nadolig bydda i'n brysur iawn yn ymweld ag ysbytai a chartefi'r henoed yn fy etholaeth ac yn cefnogi gwasanaethau carolau yn Nant y Glo a Blaenau Gwent. Roeddwn i'n un o drefnwyr ac arweinwyr y gwasanaeth carolau ers talwm ac yn arwain y canu a'r band i lawr y strydoedd. Ond nawr, dim ond ymuno yn yr hwyl y bydda i a gorymdeithio yng ngolau canhwyllau.

Bore dydd Nadolig bydda i'n mynd i Ysbyty Blaenau i ymweld â'r cleifion ac i ddymuno Nadolig Llawen iddyn nhw, cyn mynd adre a mwynhau gweddill y dydd gyda'r teulu a ffrindiau.

- John Griffiths AC (Dwyrain Casnewydd)

Dros y Nadolig bydda i'n hoffi siopa'r funud ola! Fel arfer, bydda i'n prynu llyfrau i'r ddau fab, Lee a Neil, a llyfrau hefyd i Joshua a Bethan, fy wyr a fy wyres.

Fy hoff amser dros y Nadolig ydy pan mae'r teulu yn dod at ei gilydd. Dw i ddim yn hoffi eistedd o flaen y teledu yn llawn bwyd a diod; mae'n well gen i fynd am dro gyda Kim, fy ngwraig. Blwyddyn Newydd Dda i holl ddysgwyr Acen!
> > Erthyglau - Articles < <

> > Ffeithlen - Fact File < <

> > Newyddion - News < <

>> Cyfweliadau - Interviews < <