Dwedwch Chi
Hydref 2001Cynulliad Cenedlaethol
Paul Silk (Clerc y Cynulliad)
Paul Silk ydw i - Clerc y Cynulliad ers y Cyntaf o Fawrth eleni. Rôn i'n glerc yn San Steffan cyn hynny, ond pan ddaeth cyfle i ddod yn ôl i Gymru, dôn i ddim yn gallu dweud na!
Ces i fy magu yng Nghrucywel; doedd dim llawer o gyfle i mi ddysgu'r Gymraeg yn blentyn. Ond nawr mae hanner y staff yn fy adran yn siarad Cymraeg yn iaith gyntaf, felly hoffwn i ddefnyddio mwy o'r Gymraeg - ac mae'r gwersi'n ddigon o hwyl, mae'n rhaid i mi ddweud! Beth wnes i dros y gwyliau? Es i i Nant Gwrtheyrn - am fwy o fanylion, gofynnwch i Gwyndaf yng Nghaffi Meinir!
Glyn Davies AC (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Os oes amser sbâr gen i, dw i wrth fy modd yn ymlacio neu'n gweithio yn fy ngardd. Os bydd y tywydd yn braf, does dim byd gwell na gweithio yn yr ardd am tua dwy awr ac wedyn eistedd i lawr rhywle yn yr ardd gyda fy ngwaith cartref Cymraeg a mwynhau gwydraid o win gwyn a chnau cymysg (mixed nuts)!
Dros y blynyddoedd, dw i wedi tyfu planhigion fel hostas a rudbekias. Os bydd hi'n boeth iawn, dw i'n hoffi darllen ac ysgrifennu yng nghysgod (shade) y coed bamŵ. Dw i hefyd wedi creu pwll yn yr ardd sy'n gartre i adar fel hwyaid gwyllt (wild ducks) a gwyddau (geese).
Brian Hancock AC (Islwyn)
Es i i Garnifal Rhisga (Risca) dydd Sadwrn diwetha. Roedd y tywydd yn ddiflas ac yn wlyb, ond fe fwynheuais i fy hun yn fawr iawn yn beirniadu (judging) y cerbydau (floats).
Roedd llawer o bobol yn cymryd rhan a phawb yn llawn cyffro (excitement) wrth iddyn nhw aros am y canlyniad (result). Y cerbyd buddugol (victorious) oedd "Joseff a'i Siaced Fraith" gan griw o aelodau Capel Moriah. Er iddi fwrw glaw ar y parêd, cawson ni i gyd amser da.
Mike German AC (Dwyrain De Cymru)
Yn ddiweddar, helpais fy mrawd a'i deulu i symud i dŷ newydd yn Kernow (Cernyw - Cornwall). Y broblem fwya oedd symud y piano - piano gwerthfawr (valuable) iawn. Roedd hi'n bwrw glaw a dydy pianos ddim yn hoffi glaw; maen nhw'n mynd allan o diwn. Ac roedd grisiau yn mynd i mewn i'r tŷ newydd!
Gyda help y "bogey" a blancedi, llwyddon ni i osod y piano yn ei gartre newydd. Ac yn wahanol iawn i'r gân am "Fred", chawson ni ddim paned; yn lle hynny, cwrw Kernow!
Rosemary Butler AC (Gorllewin Casnewydd)
Rosemary Butler ydw i; dysgwraig newydd. Dw i'n byw yng Nghaerllion ar Wysg ( Caerleon) a dw i'n gweithio yn y Cynulliad ac yn fy swyddfa yng Nghasnewydd. Dw i'n dysgu Cymraeg. Pam? Ches i ddim cyfle yn yr ysgol a dw i'n casáu gwisgo clustffonau (headphones) yn y Siambr!
Nick Bourne AC (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Mis Gorffennaf, es i Estonia a'r Ffindir gyda ffrindiau. Dw i wedi bod yn y Ffindir o'r blaen, ond doeddwn i erioed wedi bod yn Estonia. Ces i fy synnu mor wastad (flat) oedd y tir o'i gymharu â Chymru; ond mae ffermio yn bwysig iawn i'r Estoniaid fel y mae i'r ffermwyr yma yng Nghymru.
Roedd y tywydd yn braf, y bwyd a'r diod yn dda ac yn rhad, a'r bobol yn gyfeillgar - lle delfrydol am wyliau!
John Griffiths AC (Dwyrain Casnewydd)
John Griffiths ydw i, Dirprwy Weinidog dros Ddatblygu Economaidd (Deputy Minister for Economic Development). Mae diddordeb mawr gyda fi mewn gwleidyddiaeth; hefyd, mae diddordeb mawr gyda fi mewn chwaraeon a dysgu Cymraeg.
Dw i'n hoffi chwarae criced a dw i'n chwarae i'r "Strollers", tîm o Gasnewydd. Yn ystod y gwyliau, chwaraeais i nifer o weithiau. Collais fy nhro (turn) i fatio unwaith achos roeddwn i'n cael fy nghyfweld (was being interviewed) yn y clwb!
David Davies AC (Sir Fynwy)
David Davies ydw i, aelod o'r Cynulliad Cenedlaethol dros Fynwy (Monmouthshire). Mae'n swydd ddiddorol iawn a dw i'n mwynhau fy ngwaith yn fawr iawn. Weithiau dw i'n mynd i Hwngari i weld fy nghariad ac mae hi'n dod i Drefynwy (Monmouth) yn aml - mae'n bwysig cael amser i ymlacio!
Ar wahan i wleidyddiaeth (politics), dw i'n hoffi syrffio. Ychydig flynyddoedd yn ôl roeddwn i'n syrffio o leia ddwywaith yr wythnos - hyd yn oed yng nghanol y gaeaf! Dydy hi ddim yn bosib gwneud cymaint nawr gan fy mod i'n byw yn Nhrefynwy, ond dw i'n dal i geisio mynd yn rheolaidd.