 |
Dyma'r ddolen gyswllt rhwng De a Gogledd. "Ond beth ydy hi?" meddech chi. Ydych chi'n gyrru car? Ydych chi wedi teithio rhwng Bae Caerdydd a Llandudno? Os ydych chi, mae'n bosib y byddwch chi wedi teithio ar hyd hon, achos dyma'r ffordd sy'n rhedeg am bron i 200 milltir ar draws Cymru - drwy'r mynyddoedd a'r dyffrynnoedd, ar hyd glannau afonydd a heibio i nifer o leoedd diddorol. Dewch ar y daith... |
| Tref boblogaidd ar gyfer siopa a gwyliau ydy Llandudno. |
| Heddiw, mae'r promenâd hir yn lle prysur a swnllyd iawn yn yr haf. Mae pobol yn dod yma i fwynhau awyr iach y môr a sgïo ar ochr y Gogarth (Great Orme). |
 |
 |
Dim ond ers tua 150 o flynyddoedd mae'r dref wedi bod yma, ond mae hanes hir i'r lle. |
 |
| Yma ar y Gogarth roedd pobol yn cloddio am gopor dros 3000 o flynyddoedd yn ôl ac yn y seithfed ganrif daeth Sant Tudno yma i godi ei eglwys ar ochr y Gogarth. |
| Ar ôl gadael Llandudno, mae'r A470 yn mynd tua'r de i lawr dyffryn Afon Conwy - un o afonydd enwog Cymru. Ar y ffordd ewch heibio i Fodnant a'i ardd enwog, hen abaty Maenan a thref farchnad Llanrwst a'i phont tair bwa. Croeswch y bont i ymweld â phentref Trefriw i weld yr hen felin wlân sy'n dal i weithio heddiw. |
 |
| Nôl tua'r de ac i lawr i bentref Betws-y-Coed lle mae Afon Conwy yn cwrdd ag Afon Llugwy. Arhoswch am ychydig i weld Rhaeadr Ewynnol (Swallow Falls) yn tasgu dros y creigiau. Yma hefyd mae'r A5 yn croesi'r A470 ar ei ffordd rhwng Caergybi a Llundain. |
| Ymlaen tua'r de ac mae'r A470 yn gadael Afon Conwy ac yn dilyn Afon Lledr drwy ddyffryn cul a throellog i bentref Dolwyddelan. I fyny yn y goedwig ar ochr y mynydd mae Tŷ Mawr, cartref yr Esgob William Morgan, y dyn gyfieithodd y Beibl i'r Gymraeg. Wrth adael pentref Dolwyddelan mae hen gastell Cymreig i'w weld ar y dde ar ochr Moel Siabod (mynydd). Dyma lle cafodd Llywelyn Fawr ei eni. |
 |
| Ymlaen eto ac mae'r ffordd yn troi a chodi nes dod i ben y bryn. Dych chi nawr yn edrych i lawr ar ddyffryn gyda llechi ar bob ochr! Dyna Flaenau Ffestiniog - tref y llechi a'r glaw! Roedd miloedd o bobol yn gweithio yma yn y diwydiant llechi ar un adeg ond erbyn hyn mae'r siopau a'r capeli wedi cau a llawer o'r bobol yn ddi-waith. |
 |
Heddiw, mae miloedd o bobol yn dod yma bob blwyddyn i ymweld â "Llechwedd" a "Gloddfa Ganol" - lle gallan nhw weld hanes y diwydiant llechi - ac i deithio ar y trên bach o'r dref i lawr i Borthmadog. |
 |
 |
 |
Ar ôl gadael Blaenau Ffestiniog mae'r ffordd yn troelli ymlaen at lyn a phentref Trawsfynydd. Dyma ardal y bardd Hedd Wyn a'r hen atomfa ar lan y llyn. |
 |
Mae'r ffordd yn well erbyn hyn a dych chi'n gallu teithio'n gyflym - os nad oes lorri neu garafan o'ch blaen! Ymlaen â chi ac i lawr yn gyflym ar hyd Afon Eden a thrwy goedwig Coed y Brenin - dyma ardal y cloddio am aur. Drwy bentref bach Llanelltud a chodi llaw ar y pysgotwyr yn pysgota ger hen Abaty Cymer ar lan Afon Mawddach. Troi tua'r dwyrain nawr ar hyd Afon Wnion a chyrraedd hen dref hyfryd Dolgellau wrth droed Cadair Idris. Amser am baned yn un o gaffis bach y dref neu yn y Little Chef ar fin y ffordd.
Ac ymlaen â ni tua'r de y tro nesa! |