w w w . a c e n . c o . u k cylchgrawn


A470
[ 1 | 2 | 3 ]
A470

help
Gadael Dolgellau a gyrru i fyny'n serth am filltir, rownd y troadau nes dod at westy'r Cross Foxes. Mae'r A487 tua Bwlch Cadair Idris, Machynlleth ac Aberystwyth yn mynd i'r de ac mae'r A470 yn dechrau dringo eto tua'r dwyrain. I fyny ac i fyny i ben Bwlch Oerddrws ac yna disgyn yn serth rownd y troadau tua Dinas Mawddwy.

Yn y mynyddoedd uwchben Dinas Mawddwy mae Afon Dyfi yn cychwyn ar ei ffordd tua Machynlleth a'r môr. Dyma ardal y Gwylliaid Cochion - lladron defaid a gwartheg yn yr 16eg ganrif. Mae llawer o bobol gochben yn byw yn yr ardal o hyd! O Ddinas Mawddwy mae'r hen ffordd dros y mynydd i'r Bala a Llyn Fyrnwy yn dringo'n serth i ben Bwlch y Groes - bwlch ucha Cymru.
-Ymlaen am filltir i bentref bach Mallwyd, lle roedd Dr John Davies yn offeiriad plwyf yn y 16eg ganrif. Ar y gylchfan, mae'r ffordd i'r chwith - yr A458 - yn mynd tua'r Trallwng (Welshpool) ond mae'r A470 yn dilyn Afon Dyfi ymlaen i'r de drwy Aberangell a Chemaes tua chylchfan Glantwymyn. Yma, mae'r A489 yn dilyn Afon Dyfi tua Machynlleth - tref Owain Glyndwr - ond mae'r A470 yn troi tua'r dwyrain unwaith eto gan ddilyn y rheilffordd tua'r Drenewydd, Y Trallwng ac Amwythig (Shrewsbury).

Cyrraedd pentref bach Llanbrynmair a chofio am ddau o'i blant enwog - Abraham Rees a Samuel Roberts. Abraham Rees, gafodd ei eni yn 1743, oedd golygydd cyntaf Chambers Encyclopaedia. Gweinidog a diwygiwr enwog oedd Samuel Robers, gafodd ei eni yn 1773. Yn Llanbrynmair, mae dewis i'w wneud; dilyn yr A470 neu dros y mynydd ar y B4518.

Os ydy hi'n dywydd garw, gwell aros ar yr A470 a theithio drwy bentref Carno - gan basio ffatri Laura Ashley ar y chwith - ac ymlaen i Gaersws. Roedd y Rhufeiniaid yma tua 2000 o flynyddoedd yn ôl a dyma lle roedd y bardd Ceiriog yn orsaf feistr yn 19eg ganrif.

-Gadael Caersws a throi i'r dde ar y gyffordd lle mae'r A489 yn mynd tua'r Drenewydd. Croesi'r rheilffordd a dilyn afon Hafren tua'r de, drwy bentref Llandinam, gyda'i gofeb i David Davies, gafodd ei eni yn 1818. Gwnaeth yr Arglwydd Davies ei ffortiwn mewn rheilffyrdd a glo ond daeth yn enwog fel adeiladydd Dociau'r Barri. Ymlaen wedyn i Lanidloes.

- Ond pan fydd hi'n ddiwrnod braf, trowch i'r dde yn Llanbrynmair a dilynwch y B4518. Mae rhan gynta'r ffordd yn gul ac yn troelli a dringo nes cyrraedd Penffordd-las (Staylittle). Wedyn mae'r ffordd yn codi a disgyn fel "rollercoaster" nes cyrraedd y maesparcio uwchben Llyn Clywedog. Lle da i estyn y cyhyrhau a chael awyr iach a phaned o fflasg. Cyfle hefyd i edrych i lawr ar y gronfa ddw^r yn y dyffryn a'r argae enfawr yn y pellter. Yr ochr draw i'r gronfa a thros y mynydd tua'r de-orllewin ydy'r lle mae dwy afon enwog - Hafren a Gwy - yn cychwyn ar eu taith tua'r môr. Nôl ar yr A470 ac i lawr yn serth ar hyd ochr y gronfa a chodi'n sydyn eto i ben y bryn cyn dilyn y ffordd yr holl ffordd i lawr i Lanidloes - a gobeithio bod y brêcs yn gweithio!

- Yn Llanidloes mae Afon Clywedog yn cwrdd ag Afon Hafren ar ei thaith hir tua'r môr. Heddiw, mae'r A470 yn pasio heibio i Lanidloes ond mae'r B4518 yn dod i ganol yr hen dref hanesyddol. Yma ar ganol y ffordd mae hen dy-marchnad unigryw lle bu John Wesley yn pregethu. Yma hefyd cafodd y merthyr pabyddol Richard Gwyn ei eni; cafodd ei losgi wrth y stanc yn Wrecsam yn 1584. Ac ar 30 Ebrill 1839 yng ngwesty'r Trewythen Arms bu un o derfysgoedd y Siartwyr (Chartists).

Ymlaen tua Llangurig, troi i'r chwith ar y gylchfan lle mae'r A44 yn mynd i'r dde am Aberystwyth. Dyma lle mae'r A470 yn cwrdd ag Afon Gwy ac yn dilyn afon hira'r De i lawr y dyffryn hyfryd tua hen dref farchnad Rhaeadr Gwy. Roedd hon yn un o ganolfannau Helyntion Beca (Rebecca Riots) yn y 190eg ganrif ond, heddiw, twristiaid sy'n creu cynnwrf yn y dref!

-Tref ar groesffordd ydy Rhaeadr Gwy. I'r dwyrain mae'r A44 yn mynd tua Lloegr ac i'r gorllewin mae'r B4574 yn mynd i ardal hyfryd Cwm Elan - lle i fwynhau pysgota, cerdded, beicio, merlota a golygfeydd gwych. Ychydig i'r gogledd-ddwyrain o Raeadr Gwy mae hen abaty Cwm Hir, lle mae Llywelyn ap Gruffydd wedi'i gladdu. Mae'r A470 yn rhedeg drwy Raeadr Gwy o'r gogledd i'r de, a'r tro nesa awn ymlaen i Fae Caerdydd a phen y daith.
cyfieithiad / translation
[ 1 | 2 | 3 ]

A5 A5    [ 1 | 2 ]
Bro Dewi Bro Dewi
A470 A470    [ 1 | 2 | 3 ]
  Archif / Archive
   WIAW2 ym Mhatagonia
   Llythyrau
   Hanes Patagonia
   Llangollen
   Dyffryn Clwyd
   Santes Dwynwen
   Sant Ffolant
   Sir Gaerfyrddin
- Eich cyfle chi i ddweud eich dweud.

Your chance to have your say in Welsh.