w w w . a c e n . c o . u k cylchgrawn


A470
[ 1 | 2 | 3 ]

Dyma ni ar ran ola'r daith tua'r de ac mae dewis i'w wneud yn Rhaeadr Gwy. Dilyn yr A470 ar hyd lan Afon Gwy neu droi i'r chwith a dilyn yr A44 i dref Llandrindod - gyda'i adeiladau Fictoraidd a'i ffynhonnau - ac ymlaen wedyn ar yr A483 i ymuno â'r A470 ar y gylchfan tu allan i faes Y Sioe Frenhinol (Royal Welsh Show) yn Llanelwedd. Am wythnos bob mis Gorffennaf mae'r ardal yma yn brysur iawn ac, os ydych chi ar frys i deithio rhwng de a gogledd, mae'n well i chi deithio ar ffordd arall!

Llanfair-ym-Muallt

Ymlaen heibio'r Little Chef a chroesi'r bont dros afon Gwy a dyma ni'n cyrraedd Llanfair-ym-Muallt (Builth Wells). Roedd castell Normanaidd yma ond does dim ar ôl heddiw. Yn yr ardal yma - tua 3 milltir i'r gorllewin ar yr A483 ym mhentre Cilmeri - cafodd Llywelyn ap Gruffydd ei ladd yn 1282 pan oedd e'n dianc rhag y Saeson. Tyfodd y dref yn y 19eg ganrif pan oedd pobol yn dod yma i fwynhau dwr y ffynhonnau.

Mae'r A470 yn gadael Llanfair-ym-muallt a dilyn Afon Gwy i lawr i bentref Llyswen. Yma mae'r afon yn troi yn ôl tua'r gogledd-ddwyrain am Y Gelli Gandryll (Hay on Wye) - tref y siopau llyfrau a'r wyl lenyddiaeth - cyn croesi'r ffin i Loegr. Ond dyn ni'n teithio tua'r de drwy ardal oedd yn bwysig yn hanes Cymru. Tua milltir o bentref Bronllys, ar yr A479, mae Talgarth ac yma ger yr eglwys mae bedd Howel Harris, un o dadau Methodistiaeth yng Nghymru.

Llanfair-ym-Muallt

O'n blaen ni nawr mae mynyddoedd - Mynyddoedd Du i'r de-ddwyrain a Bannau Brycheiniog i'r de - ac yn y pellter mae Pen y Fan, mynydd ucha'r De. Mae'r A470 yn mynd â ni tuag Aberhonddu (Brecon). Ar y gylchfan lle mae'r A470 yn cwrdd â'r A40, mae dewis i'w wneud - cymryd y ffordd ddeuol gyflym heibio Aberhonddu neu fynd am dro i weld yr hen dref yma ar lan Afon Honddu ac Afon Wysg (Usk). Mae'r dref hyfryd yma yn ganolfan ar gyfer ymweld â Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a bob Awst mae'r strydoedd yn llawn hwyl a swn yn ystod Gwyl Jazz Aberhonddu.

Llanfair-ym-Muallt

Yr ochr arall i Aberhonddu mae'r A40 yn mynd ymlaen tua'r gorllewin - i Lanymddyfri, Llandeilo a Chaerfyrddin - ond mae'r A470 yn troi tua'r de ac i ganol y mynyddoedd. Mae'r ffordd yn dringo i fyny dyffryn Afon Tarell nes dod i ganolfan awyr agored Storey Arms. Dyma'r lle i edrych yn ôl dros ddyffryn Tarell, ddyffryn Wysg a Mynydd Epynt yn y pellter. I'r gorllewin mae ochr Y Fan Fawr ac i'r dwyrain mae Pen y Fan. O'n blaenau, mae dyffryn Afon Taf; felly i lawr â ni!

O Storey Arms mae'r ffordd yn disgyn heibio i dair cronfa ddwr nes cyrraedd Merthyr Tudful. (Ystyr yr enw ydy Bedd Tudful - un o ferched y brenin Brychan Brycheiniog.) Tyfodd y dref o gwmpas nifer o bentrefi glo a haearn, fel Penydarren, Pentre-bach, Cyfarthfa a Dowlais; erbyn 1801, Merthyr oedd tref fwya Cymru. Mae'r lle yn enwog am Dic Penderryn a Therfysgoedd Merthyr (Merthyr Riots), Richard Trevithick a'r trên stêm cyntaf, a Joseph Parry - y dyn sgrifennodd "Myfanwy".

Llanfair-ym-Muallt

Heddiw, mae'r A470 yn mynd heibio Merthyr a'r pentrefi bach ym mhen y dyffryn - lleoedd fel Aberfan, lle llithrodd tip glo ar ben yr ysgol gynradd yn 1966 a lladd 126 o blant a 26 o oedolion. Ymlaen â ni ac i lawr at y gylchfan fawr lle mae Afon Cynon yn cwrdd â Taf; yma mae'r A4059 yn mynd i fyny'r cwm drwy leoedd fel Abercynon, Aberpennar (Mountain Ash) ac Aberdâr. Ymlaen â ni ar y ffordd ddeuol at dref Pontypridd. Dyma lle mae Afon Rhondda yn cwrdd ag Afon Taf ac ym mharc Ynys Angharad mae cofeb i Evan a James James, y tad a'r mab sgrifennodd "Hen Wlad fy Nhadau".

Llanfair-ym-Muallt

Ymlaen eto, heibio'r troad am Gaerffili a'i gastell enwog nes dod i gyrion Caerdydd a Chastell Coch i fyny ar y bryn ar y chwith. Ymlaen, dan yr M4 a rhaid arafu nawr achos mae camerâu yr heddlu a goleuadau traffig ar hyd y ffordd i ganol y ddinas! Dyn ni nawr yn teithio drwy faestrefi Yr Eglwys Newydd (Whitchurch) a Llwynfedw (Birchgrove) ac i ganol y ddinas.

Llanfair-ym-Muallt

Ymlaen drwy'r Ganolfan Ddinesig (Civic Centre) a'i hadeiladau hardd - fel Neuadd y Ddinas a'r Amgueddfa Genedlaethol. Ymlaen eto heibio canolfan siopa brysur Stryd y Frenhines a heibio Castell Caerdydd. Yna, troi i lawr Heol Eglwys Fair, dan bont y rheilffordd i Sgwâr Bute, drwy'r goleuadau traffig ac ar hyd Rhodfa Lloyd George nes cyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol a Bae Caerdydd - ardal o adeiladau newydd ar lan y dwr.

Llanfair-ym-Muallt

A dyna'r A470 wedi cyrraedd pen y daith o'r Gogledd i'r De - tua 200 milltir a dros 4 awr o deithio di-stop. Mae hon yn ffordd bwysig sy'n cysylltu'r Brifddinas gyda'r Canolbarth a'r Gogledd. Efallai, un diwrnod, bydd hi'n ffordd ddeuol yr holl ffordd er mwyn dod â phobol Cymru yn agosach at ei gilydd!

help

cyfieithiad / translation
[ 1 | 2 | 3 ]
A5 A5    [ 1 | 2 ]
Bro Dewi Bro Dewi
A470 A470    [ 1 | 2 | 3 ]
  Archif / Archive
   WIAW2 ym Mhatagonia
   Llythyrau
   Hanes Patagonia
   Llangollen
   Dyffryn Clwyd
   Santes Dwynwen
   Sant Ffolant
   Sir Gaerfyrddin
- Eich cyfle chi i ddweud eich dweud.

Your chance to have your say in Welsh.