w w w . a c e n . c o . u k cylchgrawn


Bro Dewi

Croeso i fro Dewi. Croeso hefyd i fro hud, hanes a hamdden. Mae'r rhan yma o'r wlad wedi chwarae rhan bwysig yn hanes Cymru ers miloedd o flynyddoedd a dych chi'n gallu gweld yr olion heddiw drwy Sir Benfro.

Ewch i weld cromlech fawr Pentre Ifan, ar Fryniau Preseli ger Trefdraeth (Newport) - dyma lle roedden nhw'n claddu pobol yn Oes y Cerrig. O'r ardal yma daeth y meini glas ar gyfer Stonehenge. Yma hefyd mae Castell Henllys - caer o'r Oes Haearn.

Yma yn Nhyddewi roedd Dewi yn byw ac yn gweithio tua 1500 o flynyddoedd yn ôl. Yn yr Oesoedd Canol roedd pobol yn mynd ar bererindod i Dyddewi, a heddiw mae Cristnogion ac ymwelwyr yn dod i weld yr eglwys gadeiriol hardd yng Nglyn Rhosyn. Gerllaw mae Bae Sant Non, mam Dewi, a gallwch chi weld Ffynnon Non a'r hen gapel ar y clogwyn uwchben y bae.

Yn y Oesoedd Canol hefyd daeth y Normaniaid i Benfro ac adeiladu cestyll fel Cilgerran a Threfdraeth yn y gogledd a Hwlffordd (Haverfordwest), Penfro (Pembroke) a Maenor-byr (Manorbier) yn y de.

Mae Cilgerran yn enwog am hanes Nest, merch hardd iawn. Roedd hi'n wraig i'r Norman, Gerald de Windsor ond roedd llawer iawn o gariadon gyda hi hefyd, gan gynnwys Owain ap Cadwgan o Bowys. Cafodd Harri VII ei eni yng nghastell Penfro a'r storïwr Giraldus Cambrensis (Gerallt Gymro) ei eni ym Maenor-byr. O'r adeg yma ymlaen, dechreuodd de Penfro fod yn fwy estron ac mae'r "Lansker Line" yn rhannu'r gogledd Cymraeg a Chymreig oddi wrth y de mwy Saseneg a Seisnig.

Abergwaun (Fishguard) - heddiw, lle i ddal y fferi i Iwerddon ydy'r porthladd yma i lawer o bobol. Ond mae hanes ac arddangosfa leol yn cofio Jemima Nicholas a'r merched wnaeth stopio byddin Ffrainc rhag ymosod ar Brydain yn 1797.

I lawer o bobol, hud Sir Benfro ydy'r arfordir a dyma lle mae Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro - o Landudoch (St Dogmaels) yn y gogledd i Amroth yn y de. Dych chi'n gallu cerdded ar hyd yr arfordir a mwynhau'r golygfeydd. Beth am dreulio ychydig o amser ar lan y dwr. Mae digon o ddewis yn ardal Tyddewi - traethau mawr fel Porth Mawr (Whitsand Bay) a Niwgwl (Newgale), neu faeau bach fel Porthclais, Caerfai a Solfach. Neu beth am drip ar y môr mewn cwch o gwmpas Ynys Dewi (Ramsey) i weld yr adar a'r morloi?

I'r gogledd o Dyddewi mae nifer o faeau fel Abereiddy, Wdig (Goodwick) a Threfdraeth; ac i'r de mae traethau mawr fel Marloes, Freshwater a Dinbych-y-Pysgod (Tenby). O gwmpas arfordir y de mae cyfle i weld bywyd gwyllt ynysoedd Skomer a Skokholm a mynachod Ynys Byr (Caldy).

Dych chi eisiau mwynhau tawelwch cefn gwlad? Beth am fynd am dro ar Fryniau Preseli neu ymweld â gerddi fel Bro Meigan, ger Boncath a Phen Lan Uchaf ger Trefdraeth? Neu beth am ymweld â pharc gwledig Llys-y-Frân ger Hwlffordd?

Eisiau mwy o antur? Beth am hwylfyrddio, syrffio a sgïo dwr ar y môr? Neu beth am grwydro'r sir ar gefn ceffyl neu feic? Oes plant gyda chi? Os oes, beth am ymweld â pharc antur Oakwood a mwynhau'r reids? Os dydy'r tywydd ddim yn rhy braf mae digon o ganolfannau hamdden, canolfannau crefftau o bob math ac, wrth gwrs, llawer o leoedd i fwynhau pryd da o fwyd.


> > Erthyglau - Articles < <

> > Ffeithlen - Fact File < <

> > Newyddion - News < <

>> Cyfweliadau - Interviews < <