w w w . a c e n . c o . u k cylchgrawn


-
- ma yng Nghymru, mae gyda ni gyfle arall i ddathlu cariad. Ionawr 25 ydy Dydd Santes Dwynwen. Hi ydy nawddsant cariadon Cymru.

Ond pwy oedd Dwynwen?

- Yn ôl yr hanes, un o ferched Brychan Brycheiniog oedd Dwyn neu Dwynwen. Roedd hi'n byw yn y chweched ganrif. Roedd hi'n ferch hardd iawn ac roedd llawer o ddynion ifanc wedi syrthio mewn cariad â hi.

Roedd un dyn ifanc, o'r enw Maelon, yn hoff iawn o Dwynwen ac roedd e eisiau ei chael hi'n gariad. Ond doedd gan Dwynwen ddim ddiddordeb yn Maelon. Felly, fe gipiodd Maelon hi a'i threisio.

Roedd Dwynwen yn drist iawn. Tra oedd hi'n crio, daeth angel ati. Dwedodd yr angel bod Duw wedi troi Maelon yn lwmp o iâ achos roedd e mor oergalon. Ond gofynnodd Dwynwen i'r angel ei droi e'n ddyn unwaith eto.

Dwedodd Dwynwen ei bod hi eisiau anghofio am Maelon ac am gariadon. Roedd hi eisiau gweithio i Dduw, meddai hi. Felly, anfonodd yr angel hi i'r Gogledd a daeth Dwynwen i Ynys Môn.

Aeth i fyw ar benrhyn bach - Ynys Llanddwyn ger Niwbwrch heddiw. Dyma lle buodd hi'n byw ac yn gweithio. Daeth hi'n sant ac yna'n nawddsant cariadon.

Yn y Canol Oesoedd, roedd cariadon yn arfer mynd i Landdwyn i weddïo am help Dwywen. Heddiw, os ewch chi i Landdwyn, gallwch chi weld olion eglwys a ffynnon Dwynwen.
A5 A5    [ 1 | 2 ]
Bro Dewi Bro Dewi
A470 A470    [ 1 | 2 | 3 ]
  Archif / Archive
   WIAW2 ym Mhatagonia
   Llythyrau
   Hanes Patagonia
   Llangollen
   Dyffryn Clwyd
   Santes Dwynwen
   Sant Ffolant
   Sir Gaerfyrddin
- Eich cyfle chi i ddweud eich dweud.

Your chance to have your say in Welsh.