w w w . a c e n . c o . u k cylchgrawn


Croeso i                          
      Ddyffryn Clwyd

Eleni mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn y gogledd-ddwyrain, ger hen dref Dinbych.

- Eisteddfod Sir Ddinbych ydy hi - o Ddyffryn Afon Dyfrdwy yn y de i'r Rhyl yn y gogledd; o Fynydd Hiraethog yn y gorllewin i Fryniau Clwyd yn y dwyrain. A thrwy'r canol, un o ddyffrynnoedd mwya hyfryd Cymru - Dyffryn Clwyd.

Mae Afon Clwyd yn dechrau yn Fforest Clocaenog ger Llyn Brenig ar Fynydd Hiraethog. Mae'r afon yn rhedeg tua'r gogledd drwy ddyffryn hardd sy'n llawn pentrefi tawel a hen drefi hanesyddol cyn cyrraedd swn y môr ger tref wyliau'r Rhyl.

Ar ddwy ochr y dyffryn mae mynyddoedd. I'r gorllewin mae Mynydd Hiraethog - ardal o rosydd unig, llynnoedd bach fel Llyn Aled a Llyn Brân ac afonydd fel Aled ac Ystrad. Dewch yma i gerdded ac i fwynhau'r awyr iach a byd natur. Mae'n lle da hefyd i gael hwyl yn beicio mynydd neu hwylio a chanwio ar y llyn a physgota am frithyll.

I'r dwyrain mae Bryniau Clwyd - lle da i fynd am dro a gwylio adar fel yr ehedydd a'r cudyll coch. Mae Clawdd Offa - hen ffin rhwng Cymru a Lloegr - yn rhedeg o Brestatyn ar lan y môr, ar hyd Fryniau Clwyd ac i lawr at aber Afon Hafren yn y De.

Hanes

-Mae pobol wedi byw yn yr ardal yma ers miloedd o flynyddoedd.

Ogof Pontnewydd ger Henllan. Dyma lle cafodd olion pobol 230,000 C.C. eu darganfod. Pobol Neanderthal cynnar oedden nhw.
Ardal Llyn Brenig ydy'r lle i fynd i weld olion bywyd pobol yr Oes Efydd, tua 2000 i 1500 C.C.


-Bryniau Clwyd ydy'r lle i weld olion pobol yr Oes Haearn. Mae nifer o fryngaerau diddorol yma.

Ardal Prestatyn ydy'r lle i weld olion baddonau Rhufeinig o tua O.C.120. Mae ffyrdd Rhufeinig yn croesi'r sir, rhwng Caer (Deva) yn y dwyrain a Chaernarfon (Segontium) yn y gorllewin.

Gwelodd yr ardal lawer o ymadd rhwng y Cymry a'r Sacsoniaid, y Normaniaid a'r Saeson. Roedd cestyll Cymreig yn Rhuddlan, Rhuthun a Dinbych ond wedi lladd Llywelyn ap Gruffydd adeiladodd Edward I, Brenin Lloegr, gestyll newydd cadarn yno. Gallwch chi weld olion y cestyll heddiw.

Yn Llanelwy mae eglwys gadeiriol leiaf Prydain ac un o'r hynaf. Daeth Sant Cyndeyrn (Kentigern neu Mungo) yma o'r Alban yn y chweched ganrif i ddechrau coleg. Ar ôl i Cyndeyrn fynd yn ôl i'r Alban yn Esgob Glasgow daeth Asaff, un o ddisgyblion Cyndeyrn yn bennaeth ar y coleg. Yn yr 16eg ganrif roedd William Morgan yn Esgob yma ac mae Cofeb Cyfieithwyr y Beibl i'w gweld yma.


Trefi

-Rhuthun
Hen dref farchnad hyfryd ar lan Afon Clwyd a phrif dref y sir. Ystyr Rhuthun ydy y gaer goch. Mae'r dref yn llawn adeiladau diddorol, gan gynnwys yr hen garchar sy nawr yn llyfrgell. Ar un pryd roedd 60 tafarn yma! (Marchnad: Iau/Gwener)

Dinbych
Hen dref ddiddorol iawn. Ysytr 'Dinbych' ydy'r gaer fach (small fort). Roedd yn ganolfan bwysig i dywysogion Cymru yn y Canol Oesoedd. Wedi i Edward I adeiladu ei gastell mawr newydd ar y bryn daeth yn ganolfan weinyddol. Mae pobol enwog y dref yn cynnwys Twm o'r Nant a Thomas Gee. (Marchnad: Mercher)

-Y Rhyl
Mwy o gestyll - ond cestyll tywod y tro yma ac asynnod yn y dref wyliau ar lan y môr. Os dych chi'n hoffi hwyl y ffair ac atyniadau swnllyd glan-y-môr, dyma'r lle i chi. Os ydy hi'n bwrw glaw, Canolfan Haul y Rhyl ydy'r lle i wisgo'ch dillad nofio a neidio i'r dwr cynnes!

A5 A5    [ 1 | 2 ]
Bro Dewi Bro Dewi
A470 A470    [ 1 | 2 | 3 ]
  Archif / Archive
   WIAW2 ym Mhatagonia
   Llythyrau
   Hanes Patagonia
   Llangollen
   Dyffryn Clwyd
   Santes Dwynwen
   Sant Ffolant
   Sir Gaerfyrddin
- Eich cyfle chi i ddweud eich dweud.

Your chance to have your say in Welsh.