w w w . a c e n . c o . u k cylchgrawn


-
- ych chi'n gwybod am Sant Ffolant, neu St Valentine, mae'n siwr. Ei ddiwrnod e ydy Chwefror 14. Merthyr Cristnogol oedd e. Roedd yr Eglwys Gristnogol yn cofio amdano ar Chwefror 14.

- Roedd y Rhufeiniaid yn dathlu gwyl Lupercalia ar Chwefror 15. Gwyl garu oedd hon ac roedd yn ddiwrnod poblogaidd iawn.

Yn 496 oed Crist, newidiodd y Pab Gelasius ddyddiad Lupercalia i Chwefror 14. Gwnaeth e hyn i geisio stopio'r dathlu paganaidd.

Daeth gwyl Lupercalia i ben ond ddaeth dathlu caru ddim i ben! Ac felly, medden nhw, daeth Valentine yn nawddsant cariadon.

Un o arferion Lupercalia oedd rhoi enwau merched mewn bocs a gadael i'r bechgyn dynnu'r enwau o'r bocs. Roedd y pâr lwcus wedyn yn gariadon am flwyddyn.

Yn y Canol Oesoedd, roedd cariadon yn anfon negeseuon at ei gilydd. Erbyn 1790 roedd cardiau Gwyl Ffolant yn dod yn boblogaidd.

Yn yr Almaen, 'Freundschaftkarten' oedd yr enw arnyn nhw - cardiau cyfeillgarwch. Erbyn heddiw, mae anfon cerdyn a rhoi anrheg ar ddydd Sant Ffolant wedi dod yn fusnes mawr a drud! Tybed ydy'r rhamant syml wedi diflannu?
A5 A5    [ 1 | 2 ]
Bro Dewi Bro Dewi
A470 A470    [ 1 | 2 | 3 ]
  Archif / Archive
   WIAW2 ym Mhatagonia
   Llythyrau
   Hanes Patagonia
   Llangollen
   Dyffryn Clwyd
   Santes Dwynwen
   Sant Ffolant
   Sir Gaerfyrddin
- Eich cyfle chi i ddweud eich dweud.

Your chance to have your say in Welsh.