Atyniadau Sir Gaerfyrddin
Llanelli a'r Cylch
Mae dros 40,000 o bobol yn byw yn ardal Llanelli ac mae'n dal i fod yn ardal Gymraeg a Chymreig. Yma, ar Barc y Strade, mae cartref un o glybiau rygbi mwya enwog Cymru - tîm y Sosban Os ewch chi i ganol Llanelli, cofiwch ymweld â Chanolfan Siopa dan-do Sant Elli, y farchnad dan-do neu'r farchnad stryd ar ddydd Iau a dydd Sadwrn. Os dych chi eisiau tipyn o ymarfer, beth am fynd i'r Ganolfan Chwaraeon a'r pwll nofio dan-do.
Roedd Llanelli a'r cylch yn ardal ddiwydiannol iawn, gyda gwaith dur, tunplat, haearn, copor a glo. Cafodd dociau eu hadeiladu a daeth y rheilffyrdd. Ond nawr mae'r hen ddiwydiannau wedi mynd ac ar yr hen dir diwydiannol rhwng Afon Llwchwr a Phen-bre, mae parc newydd sbon, Parc Arfordirol y Mileniwm.
Dyma lle roedd Maes yr Eisteddfod yn Awst 2000, ond hefyd dyma'r lle i fwynhau pob math o weithgareddau hamdden, fel
- glan y môr a thwynni tywod
- llwybrau cerdded a beicio
- llynnoedd pysgota
- chwaraeon dwr
- coedwigoedd
- gwarchodfeydd natur
- clwb golff Machynys
- arena dan-do ac arena awyr agored
I'r dwyrain o Lanelli mae Parc Pen-bre a thraeth Cefn Sidan gyda rhywbeth ar gyfer pob aelod o'r teulu. Mae'r parc yn ymyl traeth enwog Cefn Sidan; lle i nofio yn y môr, gorwedd ar y traeth neu fynd am dro o gwmpas parc Pembre. Yno hefyd mae maes chwarae i'r ifanc, cwrs golff pitsio a phytio, trip trên ar lein fach a llwybrau natur. Os dych chi eisiau gwneud rhywbeth mwy bywiog, mae llethr sgïo sych neu gwrs cyfeiriadu. Os am rywbeth mwy swnllyd, beth am fynd i'r Ganolfan Rasio a Moduro Cenedlaethol ym Mhen-bre.
Garddi
Ar yr A48 rhwng Caerfyrddin a Cross Hands, mae Gardd Fotaneg
Genedlaethol Cymru. Prif atyniad yr ardd ydy'r ty gwydr mwya
yn y byd. Yn yr ardd mae planhigion o bob rhan o'r byd.
Cyfle hefyd i gerdded y llwybrau o gwmpas y llynnoedd neu
i weld beth sy'n digwydd ar 'Sgwâr y Mileniwm', lle awyr
agored ar gyfer gweithgareddau gwahanol. Bydd canolfan addysg
yn cael ei hagor yno, ac mae arddangosfa o hanes Meddygon Myddfai
hefyd. Mae'r meddygon, oedd yn byw yn ardal Llanymddyfri, yn
enwog iawn yn chwedloniaeth Cymru.
Ger Llandeilo mae Gerddi Aberglasne. Yn 1477, ysgrifennodd y
bardd Lewis Glyn Cothi gerdd am dy a gardd Aberglasne, felly
mae'r lle yn hen iawn. Ewch yno heddiw i gerdded drwy'r twnnel
o goed ywen, o gwmpas y llynnoedd ac ar hyd y rhodfeydd.
Cyfle hefyd i weld yr hen blasdy ac ymweld â'r siop goffi.
Cefn Gwlad
Nid nepell o Cross Hands mae Parc Gwledig Llyn Llech Owain. Ewch yna i gerdded neu feicio o gwmpas y llyn neu trwy'r goedwig. I'r anturus mae cyfle i feicio mynydd ar gwrs arbennig. Cyfle hefyd yn y ganolfan ymwelwyr i ddysgu am fywyd gwyllt yr ardal ac am chwedl y tylwyth teg a Syr Owain, un o ddynion y Brenin Arthur. Mae rhai o'r llwybrau yn addas i bobol mewn cadair olwyn.
Yn nhref Llandeilo mae Parc Dinefwr; dyma lle roedd yr Eisteddfod Genedlaethol ym 1996. Gallwch fynd am dro i fyny at gastell Dinefwr ar edrych i lawr ar ddyffryn Tywi. Yno hefyd, gallwch weld Ty Newton a'r anifeiliaid prin sy'n pori ar diroedd y parc.
Hanes
Tua hanner awr o faes yr Eisteddfod mae tref hanesyddol Caerfyrddin
ar lan Afon Tywi. Lle i siopa neu ymweld â'r ganolfan hamdden,
yr amgueddfa neu'r ganolfan dreftadaeth. Ym mhentref Bronwydd gerllaw,
mae Rheilffordd Stêm Gwili. Mae'r tren stem yn teithio drwy
ddyffryn Gwili, a gallwch chi gael picnic ar lan yr afon neu fynd am
dro ar hyd llwybr y goedwig.
I'r gogledd o Gaerfyrddin, yn Drefach Felindre, mae Amgueddfa'r Diwydiant Gwlân. Cyfle i chi weld hanes diwydiant oedd mor bwysig yng nghefn gwlad ar un amser.I'r de o Gaerfyrddin mae dau gastell. Ewch i weld hen gastell Cydweli lle roedd yr Arglwydd Rhys yn byw. Yno mae cofgolofn i Gwenllian, ei ferch. Mae Amgueddfa Ddiwydiant yn y dref hefyd.
Ar glogwyn uwchben aber afon Tywi mae olion hen gastell Llansteffan. Lle hyfryd i fwynhau golygfeydd arbennig dros y môr neu i dorheulo ar y traeth am brynhawn.
Ger Llandeilo, mae olion Castell Carreg Cennen ar glogwyn yn edrych i lawr dros ddyffryn Tywi. Dyma gastell mewn man unig sy'n llawn hanes. Yn y Canol Oesoedd roedd llawer o ymladd yma rhwng y Cymry a'r Saeson.
Yn Rhandirmwyn, mae cyfle i weld Ogof Twm Siôn Cati a chofio am y lleidr-pen-ffordd enwog. I'r gorllewin o dref Llanymddyfri ar lan dau lyn bach, mae olion hen abaty Talyllychau; abaty gafodd ei adeiladu gan yr Arglwydd Rhys.
Yn ardal Llanymddyfri mae nifer o leoedd diddorol. Ewch i Dolau Cothi i weld lle roedd y Rhufeiniaid yn cloddio am aur 2000 o flynyddoedd yn ôl. Cyfle i chi wisgo helmed a lamp a mynd ar daith drwy'r mynydd.