w w w . a c e n . c o . u k cylchgrawn

Dewch am dro...
O gwmpas yr Wyddfa.


Help
English

Cylchdaith ydy'r daith dyn ni'n mynd arni y tro yma. Taith sy'n dechrau ac yn gorffen yng Nghaernarfon ac yn mynd â ni o gwmpas prif fynydd Cymru - Yr Wyddfa.

Caernarfon
Caernarfon - y gaer yn Arfon. Mae llawer yn meddwl am gastell mawr Edward I (1283) wrth glywed enw'r dref. Ond roedd y Rhufeiniaid wedi codi caer, o'r enw Segontium, yma yn ardal Llanbeblig tua 80 O.C. Mae'n bosib hefyd bod caer cyn-hanes yma cyn hynny.

Strydoedd Cul Caernarfon
Heddiw, Caernarfon ydy prif dref Gwynedd. Ydy, mae'r hen dref wedi newid, ond mae bywyd ddoe i'w weld yng nghanol yr heddiw modern - ar y Maes, yn y strydoedd cul ac yn yr hen ddociau. Mae hon yn dal i fod yn dref Gymraeg ac mae ei phobl - y Cofis - yn dal i fod yn bobl arbennig iawn!

Llyn Padarn
Gadael Caernarfon a theithio ar yr A4086 drwy bentref Llanrug ac ymlaen tua Llanberis. Cyn hir dyn ni yng nghanol y mynyddoedd uchel. Ar y chwith mae Elidir Fawr yn codi uwchben Llyn Padarn. Stopiwch y car ar lan y llyn i edrych ar yr olygfa fendigedig i fyny tua Nant Peris. Ar ddiwrnod clir gallwch chi weld copa'r Wyddfa yn y pellter. Heddiw, mae Llyn Padarn yn lle i ymlacio, pysgota a mwynhau pob math o chwaraeon dwr neu daith mewn cwch.

Yr Amgueddfa Lechi
Mae hon yn ardal ddiddorol iawn. Ar un amser, roedd 3000 o ddynion yn gweithio yn Chwarel Dinorwig ar lan Llyn Padarn. Caeodd y chwarel yn 1969, ond gallwch chi weld yr hen waith a dysgu am ei hanes yn yr Amgueddfa Lechi sy yno nawr. Roedd y llechi yn mynd ar drenau bach i'r porthladd yn y Felinheli; heddiw gallwch chi deithio ar drên bach ar hyd lan Llyn Padarn. Llanberis oedd cartref y sgrifennwr T Rowland Hughes (1903-1949); sgrifennodd e am fywyd caled y chwarelwyr.

Llanberis
Heddiw yng nghanol mynydd Elidir Fawr mae cynllun trydan-dwr mawr iawn a gallwch chi fynd ar daith i weld yr orsaf. Mae Llyn Peris yn rhan o'r cynllun yma. Yn y bore mae'r llyn yn isel, ond erbyn diwedd y dydd bydd lefel y dwr wedi codi ar ôl iddyn nhw gynhyrchu trydan drwy'r dydd. Rhwng Llyn Padarn a Llyn Peris mae castell Cymreig, Dolbadarn.

Trên Bach yr Wyddfa
Ymlaen â ni, heibio gorsaf Trên Bach yr Wyddfa a dechrau'r llwybr hir i gopa'r Wyddfa. Dechrau dringo wedyn i fyny drwy Nant Peris nes cyrraedd Pen y Pass. O'r maes parcio yn y fan yma, mae miloedd o bobl yn cerdded heibio'r tri llyn - Teyrn, Llydaw a Glaslyn - i gopa'r Wyddfa. Os ydych chi eisiau gwneud y daith, cofiwch wisgo'n addas!

Beddgelert
Mae'r ffordd yn mynd i lawr nawr at westy Pen-y-Gwryd ac yn ymuno â'r A498 rhwng Capel Curig a Beddgelert. Dyn ni'n troi i'r dde ac yn teithio i lawr Nant Gwynant. Stopio yn y maes parcio i edrych ar draws y dyffryn i mewn i Bedol yr Wyddfa ac i lawr ar Lyn Gwynant. Yna i lawr y ffordd sy'n troi a throi, heibio Llyn Gwynant a dilyn Afon Glaslyn heibio Llyn Dinas tua mynydd Moel Hebog a Beddgelert.

Aberglaslyn
Dych chi wedi clywed y stori am Gelert y ci, y blaidd a babi Llywelyn? Stori ffantasi ydy hi; stori neis i blesio twristiaid! Ond mae'n werth aros yn yr ardal hyfryd yma i fwynhau'r golygfeydd a cherdded ar hyd yr afon i Aberglaslyn. Roedd trenau'r Welsh Highland Railway yn teithio 25 milltir o Gaernarfon drwy Feddgelert i Borthmadog dros 60 mlynedd yn ôl. Cyn hir bydd trenau bach Rheilffordd Eryri yn cario pobl unwaith eto yr holl ffordd o lan y Fenai i Fae Tremadog.

O Gopa'r Wyddfa
Nôl â ni i'r car a theithio i fyny i'r gogledd eto ar yr A4085 o Feddgelert i Gaernarfon. Heibio Coedwig Beddgelert a Llyn y Gadair ar y chwith nes cyrraedd pentref bach Rhyd Ddu. O'r maes parcio ar y dde gallwch chi gerdded i gopa'r Wyddfa. Ym mis Awst 2003 agorodd gorsaf Rheilffordd Eryri yn Rhyd Ddu ac nawr mae'n bosib teithio ar y trên bach rhwng Caernarfon a Rhyd Ddu. Mae'r pentref yn enwog hefyd am un o feirdd gorau Cymru, T H Parry-Williams (1887-1975). Roedd ei dad yn brifathro ar ysgol y pentref. Roedd ei gefnder, y bardd R Williams Parry (1884-1956), yn byw ym mhentref Tal-y-sarn dros y mynydd yn Nyffryn Nantlle.

Llyn Cwellyn
Ymlaen â ni unwaith eto, gan ddilyn Afon Gwyrfai heibio Llyn Cwellyn, drwy Fetws Garmon ac ymlaen i Waunfawr. Mae'r pentref yn enwog am Antur Waufawr - antur gymunedol sy'n gweithio gyda phobl ag anawsterau dysgu.

Caernarfon
Mae'r daith bron ar ben wrth i ni groesi Afon Seiont a dod yn ôl i Gaernarfon, heibio amgueddfa Segontium, nôl drwy ganol y dref a pharcio wrth y cei ac edrych draw tua Môn a'r haul yn machlud dros Ynys Llanddwyn - diwedd hyfryd i daith hyfryd.

 


Lluniau: Bwrdd Croeso Cymru

HELP

 


> > Erthyglau - Articles < <

> > Ffeithlen - Fact File < <

> > Newyddion - News < <

>> Cyfweliadau - Interviews < <