w w w . a c e n . c o . u k cylchgrawn


Croeso i                          
      Langollen
-
Tref ar lan Afon Dyfrdwy (Dee) ydy Llangollen. Collen, sant o'r 7fed ganrif, sydd wedi rhoi ei enw i'r lle. Eglwys fach syml oedd ei eglwys gyntaf; heddiw mae eglwys fawr ar lan yr afon.

Tyfodd y dref yn y 19eg ganrif a daeth llawer o bobol i fyw ac i weithio yn yr ardal. Roedd diwydiannau newydd yn yr ardal - meliau cotwm, chwareli llechi, gwaith dur a gwneud clociau a watsys.

Hefyd, daeth ffyrdd newydd a gwell o gario pobol a nwyddau - y gamlas, y ffordd a'r rheilffordd. Yn 1805 daeth y gamlas. O 1815 ymlaen daeth ffordd newydd Thomas Telford (yr A5 heddiw). Dyma'r "Lôn Bost" gyda'r Goets Fawr (Stagecoach) yn cario pobol a'r post o Gaergybi (Holyhead) i Lundain (London). Yn 1861 agorodd y rheilffordd newydd o Riwabon i'r Bermo (Barmouth).

- Heddiw, mae'r hen ddiwydiannau wedi mynd ac mae twristiaeth wedi dod yn bwysig iawn i'r ardal. Mae miloedd yn dod yma bob blwyddyn i fwynhau'r golygfeydd a'r atyniadau, i gerdded a beicio, ac i ganwio, rafftio a physgota yn yr afon. Os dych chi'n hoff o fwyd a diod, mae dewis da o westyau a bwytai.

Atyniadau

Pont Llangollen - pont dros Afon Dyfrdwy gafodd ei hadeiladu gan Esgob Trevor Hall yn 1345.

Castell Dinas Brân - castell dros 900 oed ar y bryn uwchben Llangollen. Mae chwedl am ferch hardd iawn, Myfanwy Fychan, oedd yn byw yno.

Abaty Glyn y Groes (Valle Crucis Abbey) - olion abaty Sistersiaidd o'r 13eg ganrif, tua dwy filltir o'r dref. Gerllaw mae olion Colofn Eliseg, sy'n coffáu y Brenin Eliseg oedd yn byw yn yr wythfed ganrif.


Bwlch yr Oernant (Horseshoe Pass) - y ffordd droellog dros y mynydd o Ddyffryn Llangollen i Ddyffryn Clwyd. Mae'n llawn twristiaid yn yr haf a llawn eira yn y gaeaf!

Plas Newydd - cartref yr enwog "Ladies of Llangollen", Lady Eleanor Butler a Miss Sarah Ponsonby. Mae'r ty gothig a'r gerddi ar agor i ymwelwyr.

Camlas Llangollen - cyfle i deithio ar hyd y dyfroedd tawel mewn cwch modur neu gwch â cheffyl. Cyfle hefyd i deithio dros Pontcysyllte - pont-ddw^r enwog Thomas Telford.

Rheilffordd Llangollen - caeodd y rheilffordd o Riwabon i'r Bermo yn y 1960au.

Dechreuodd trenau stêm redeg eto yn 1975. Mae'r lein yn rhedeg am tua wyth milltir drwy'r dyffryn hardd - o Langollen i Carrog, ger Corwen.


Eisteddfod Ryngwladol Llangollen
(2-8 Gorffennaf 2001)

Bob Gorffennaf mae Llangollen yn dod yn wledd o liw a seiniau. Dyma pryd mae pobol o wledydd ar draws y byd yn dod yma i ganu a dawnsio - yn y pafiliwn mawr, ar y strydoedd, ar lan yr afon ac ar y gamlas.

- Roedd yr eisteddfod gyntaf yn 1947 ac eleni mae'n 55 oed. Bob blwyddyn, mae Llangollen yn rhoi croeso i dros 6000 o gystadleuwyr o dros 40 gwlad a dros 100,000 o ymwelwyr.

Yn ystod y dydd bydd unawdwyr, corau, cerddorion a dawnswyr o bob oed yn cystadlu yn y Pafiliwn; ac yno bob nos bydd cyngerdd arbennig, gan gynnwys Yr Offerynnydd Rhyngwladol ar y nos Wener a Chôr y Byd ar y nos Sadwrn.

A5 A5    [ 1 | 2 ]
Bro Dewi Bro Dewi
A470 A470    [ 1 | 2 | 3 ]
  Archif / Archive
   WIAW2 ym Mhatagonia
   Llythyrau
   Hanes Patagonia
   Llangollen
   Dyffryn Clwyd
   Santes Dwynwen
   Sant Ffolant
   Sir Gaerfyrddin
- Eich cyfle chi i ddweud eich dweud.

Your chance to have your say in Welsh.