Hanes Patagonia
| help |
Patagonia
Mae'r enw Patagonia yn dod o enw'r Patagones - rhai o'r bobol gyntaf
i gyrraedd De America 10,000 o flynyddoedd yn ôl. Mae Patagonia
yn cynnwys Ariannin a Chile, yr ardal
o Rio (afon) Negro i lawr i Tierra Del Fuego.
Lerpwl, Mai 1865
Teithiodd 159 o Gymry - yn ddynion , merched a phlant - mewn llong o'r
enw 'Mimosa' i Ariannin yn Ne America. Roedden nhw'n gadael Cymru a
phroblemau tlodi i ddechrau bywyd newydd yn Patagonia.
Eu harweinydd oedd y Parchedig Michael D Jones.
Puerto Madryn
Ar 28 Gorffennaf 1865 cyrhaeddodd y Cymry fae tawel lle roedd dau ddyn,
Edwin Cynrig Roberts a Lewis Jones yn aros amdanyn nhw. Yma hefyd roedd
bwyd a chysgod - mewn tyllau yn y clogwynni!
Galwodd y Cymry y lle yma "Porth Madryn" a'i enw heddiw ydy
Puerto Madryn - porthladd prysur a thraeth poblogaidd
yn yr haf. Mae pobol yn dod yma hefyd i wylio'r morfilod
rhwng Mai a Rhagfyr.
Chubut
Chubut ydy enw'r ardal lle ymsefydlodd y Cymry. Mae'n
ardal fawr iawn, o Fôr Iwerydd yn y dwyrain i
fynyddoedd yr Andes yn y gorllewin. Yn rhedeg drwy'r ardal mae Rio Chubut,
neu Afon Camwy yn Gymraeg. Mae dyffryn Chubut yn wyrdd
ond bob ochr i'r dyffryn mae'r paith
yn estyn yn bell tua'r gorwel ac ymlaen
wedyn!
Roedd bywyd yn galed iawn ar y dechrau ond fe weithiodd y bobol yn galed i greu bywyd newydd iddyn nhw eu hunain. Gwnaethon nhw hyn drwy godi ffosydd i gario dwr i'r ffermydd yn y dyffryn ac ymgartrefu mewn lleoedd fel Rawson - prif ddinas Chubut - Trelew, Gaiman a Dolavon yn y dwyrain, a hefyd Trevelin ac Esquel yn yr Andes.
Heddiw mae tua 150,000 o bobol yn byw yn Chubut. Mae tua 20,000 o'r bobol yma yn ddisgynyddion i'r Cymry cyntaf ac mae tua 5000 yn siarad Cymraeg. Ar hyn bryd mae tua 700 o bobol - hen ac ifanc - yn dysgu'r Gymraeg yn Chubut mewn ysgolion ac mewn dosbarthiadau nos fel rhan o gynllun Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Y lle mwya Cymraeg a Chymreig ydy Gaiman, tref o tua 6000 o bobol.
Dyma lle mae Ysgol y Camwy, Capel Bethel, Tavarn Las, yr Amgueddfa Gymreig,
tai te a nifer o siopau gydag enwau Cymraeg. Ond y peth mwya arbennig
ydy'r croeso cynnes a'r Gymraeg gydag acen hyfryd De
America.

| cyfieithiad / translation |