Patagonia
Welsh in a Week ydy cyfres arobryn S4C am bobol sy'n dysgu'r Gymraeg. Un o'r dysgwyr yn yr ail gyfres ydy David Williams, doctor o dras Gymreig sy'n byw ac yn gweithio yn Trelew, Ariannin. Yn yr un rhaglen hefyd, bydd cyfle i gwrdd â Shirley Williams, hefyd o dras Gymreig, sy'n athrawes yn Trelew. Aeth Nia a'r tîm i Ariannin ddiwedd 2001. Dyma'r stori...
28/29 Tachwedd 2001
4pm gadael Caerdydd am Lundain ... 10pm hedfan o Heathrow ... 7.40am
cyrraedd Sao Paulo, Brasil (cloc yn ôl 2 awr) ... 8.45am hedfan
i Beunos Aires, prifddinas Ariannin ... 10.25am cyrraedd Buenos Aires
(cloc yn ôl 1 awr) ond y bagiau'n cyrraedd am 11.30 ar awyren
arall! ... 3.25pm hedfan i Trelew, Chubut ... 7pm cyrraedd Trelew a
chyfarfod â Rodolfo
a Marli, ein gyrrwyr yn Chubut ... 8pm cyrraedd y gwesty ... 9.30pm
swper ... 11.30pm gwely o'r diwedd!
30 Tachwedd
Cyfarfod â David, ei wraig
Carina a'u babi Eric yn eu cartref yn Trelew. Y croeso yn gynnes
iawn a David yn edrych ymlaen yn fawr at ei wersi. Ymlaen wedyn ar
draws y paith i Gaiman i ymweld ag Ysgol
y Camwy a'r pennaeth Eluned
Roberts de Gonzales - croeso mawr unwaith eto. Edrych o gwmpas y
dref a symud ein bagiau a'r offer i Gaiman; y merched yn Plas
y Coed gyda Martha
a'r dynion yn Gwesty
Tywi gyda Gwyn a
Monica.
1- 8 Rhagfyr
Ffilmio yn ardal Gaiman, Trelew a Puerto Madryn - lle glaniodd y Cymry
yn 1865. Gwersi yn nhy David, yng ngardd Plas y Coed ac ar lan Afon Camwy. David
yn dysgu'n dda ac erbyn diwrnod yr her yn barod i roi archwiliad meddygol
- perffomiad ardderchog! Ymweld hefyd â chanolfan Dewi Sant, Trelew
i gwrdd â dosbarth Cymraeg David a'r tiwtor Ann-Marie Brierley
o ardal Llanelli; cyfle hefyd i fwynhau Noson Lawen y Dysgwyr. Diwrnod
hefyd yn ffilmio Shirley Williams yn ei chartref ac yn dysgu Cymraeg
i blant Trelew.
Awyr las a haul poeth bron bob dydd - yfed llawer o ddwr! Bwyd hyfryd, cwrw a gwin da a llawer o hwyl yng nghwmni pobol gyfeillgar Chubut. Y croeso yn gynnes iawn ym mhob man a swsys mawr i bawb. (Mae pawb yn Patagonia yn cofleidio wrth gyfarfod; Nia, wrth gwrs, wrth ei bodd a'r tîm i gyd wedi dod i'r arfer cyn diwedd yr arhosiad!)
9 Rhagfyr
Ymweld â chapeli Cymraeg
a mynwentydd ardal Gaiman a Trelew ac yna taith hir - 100km - dros
y paith i benrhyn hyfryd Punta
Tombo i weld y pengwiniaid a'r guanecos. Profiad arbennig iawn.
Swper hyfryd gyda David, ei deulu
a'i ffrindiau cyn ffarwelio am 11pm.
10 / 11 Rhagfyr
Gadael Gaiman am 8 o'r gloch fore Llun a chyrraedd yn ôl yng Nghaerdydd
am 5.30pm nos Fawrth. Taith hir a blinedig iawn ond pawb wedi mwynhau
yn fawr iawn.
| cyfieithiad / translation |