w w w . a c e n . c o . u k cylchgrawn

Sir Drefaldwyn

HELP
English



GOGLEDD MALDWYN

Mathrafal
Yma, ger Meifod, lle mae Afon Banwy yn cwrdd ag Afon Efyrnwy, roedd prif lys Powys o'r 6ed i'r 12fed ganrif.

Meifod
Eglwys Sant Tysilio oedd mam eglwys Powys a man claddu brenhinoedd a thywysogion Powys. Mab Brenin Powys, Brochfael Ysgythrog, oedd Tysilio (m.630).

Castell Powys

Y Trallwng (Trallwm)
Yma roedd prif lys De Powys yn y 13eg ganrif. Heddiw, tref farchnad bwysig ar lan Afon Hafren ydy'r Trallwng. Mae'r gorffennol a'r presennol yn dod at ei gilydd yn y dref.
Dewch i weld adfeilion Castell y Domen (1196), Castell Powys, adeiladau o'r 16eg ganrif, talwrn ymladd ceiliogod, a hen dolldy.

Y Dyffrynnoedd
Lleoedd bach tawel ond prysur ydy pentrefi'r dyffrynnoedd heddiw. Mae olion hanes i'w gweld ym mhob man. Mae ffermio a thwristiaeth yn

Afon Hafren
bwysig i'r economi leol a hefyd diwydiant newydd telathrebu. Dyma'r ardal lle mae un traddodiad yn dal yn fyw iawn, sef Y Plygain - gwasanaeth arbennig y Nadolig.

Prif afon Maldwyn ydy Afon Hafren - afon hira Prydain - sy'n codi yn y mynyddoedd ger Llyn Clywedog. Mae'n rhedeg tua'r gogledd drwy Lanidloes, Y Drenewydd a'r Trallwng cyn troi i'r dwyrain i Loegr. Ond mae nifer o afonydd eraill yma sy'n rhedeg i Afon Hafren.

Llyn Efyrnwy
Afon Efyrnwy
Mae Afon Efyrnwy yn codi ar y ffin rhwng Powys a Gwynedd. Yn 1880, boddodd cyngor Lerpwl yr ardal o gwmpas hen bentref Llanwddyn i greu cronfa ddwr Llyn Efyrnwy, Heddiw, mae'n lle i fwynhau tawelwch cefn gwlad a physgota.

Ger Dolanog, ar y B4382, mae fferm Dolwar-fach - cartref Ann Griffiths, yr emynydd (1776-1805). Mae'r B4382 yn mynd dros y mynydd i Lanfihangel yng Ngwynfa; yma, ym mynwent yr eglwys, mae bedd Ann Griffiths.

Ger Pontrobert mae Plas Dolobran, cartref y Llwydiaid, Dyma'r teulu wnaeth roi ei enw i Fanc Lloyds.

Mae Afon Efyrnwy yn rhedeg i'r gogledd cyn troi i'r de ac ymuno ag Afon Hafren ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr.

Afon Banwy
Afon Banwy
Mae Afon Banwy yn dechrau ger y ffin rhwng Powys a Gwynedd. Mae'r A458 yn dilyn yr afon tua'r dwyrain drwy bentrefi bach Llangadfan a Llanerfyl.

Yn Llanfair Caereinion, Afon Einion ydy'r enw ar Afon Banwy yn yr ardal yma. Dyma gartref trenau Lein Fach Y Trallwng a Llanfair. Yn Llanfair Caereinion, mae'r afon yn troi i'r gogledd cyn cwrdd ag Afon Efyrnwy ger Mathrafal.

Afon Cain
Mae Afon Cain yn codi yn y mynyddoedd i'r dwyrain o Lyn Efyrnwy.

Prif dref y dyffryn ydy Llanfyllin; cafodd hi ei gwneud yn dref drwy siarter yn 1293 gan Llywelyn ap Gruffudd ap Gwenwynwyn. Yma mae Ffynnon Sant Myllin a chapel Pendref, lle cafodd Ann Griffiths droedigaeth yn 1796.

Mae Afon Cain yn cwrdd ag Afon Efyrnwy ger Llansanffraid-ym-Mechain. Yma mae gwaith amaethyddol mawr a chartref tîm pêl-droed TNS.

Afon Tanat (Tanad)
Mae Afon Tanat yn codi yn y mynyddoedd uwchben Pennant Melangell. Gwyddeles oedd Santes Melangell a hi ydy nawddsant anifeiliaid. Heddiw, mae canolfan cymorth canser yma.

Pentref ar y B4391 i'r Bala ydy Llangynog. Yma, lle mae Afon Eirth yn cwrdd ag Afon Tanad, cododd Sant Cynog ei eglwys yn y 6ed ganrif. Yn yr ardal mae olion o'r Oes Efydd a'r Oes Haearn a hen gaer Rufeinig. Yn y 18fed i'r 19eg ganrif, roedd gwaith plwm mwya'r byd yma.

Mae Afon Rhaeadr yn rhedeg i Afon Tanat. Yn y dyffryn yma, yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant cyfieithodd William Morgan y Beibl i'r Gymraeg yn y 16eg ganrif. Gerllaw mae un o saith rhyfeddod Cymru - Pistyll Rhaeadr.
Pistyll Rhaeadr  

Llangedwyn ydy cartref Canolfan Antur Tanat Cain. Gerllaw, mae olion Sycharth, llys Owain Glyndwr (c 1400).
Mae Afon Tanad yn cwrdd ag Afon Efyrnwy ger Llansantffraid-ym-Mechain.

DE MALDWYN

Trefaldwyn
Castell Drefaldwyn

Tref fach ydy hon ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr sy'n llawn hen adeiladu. Roedd gan y Rhufeiniad gaer yma. Cododd y Normaniaid gestyll yma yn 1086 a 1224. Tua 1270 cododd Llywelyn II Gastell Dolforwyn ychydig filltiroedd i ffwrdd, ger Aber-miwl, ar yr ochr arall i Afon Hafren.


Y Drenewydd
Y Drenewydd
Llanfair Cedewain ydy hen enw'r dref, ond mae'r enw Y Drenewydd yn mynd yn ôl i'r Canol Oesoedd pan oedd hi'n dref farchnad bwysig. Heddiw, hon ydy tref fwya'r sir. Dyma gartref y Diwygiwr, Robert Owen (1771-1858) a hefyd Amgueddfa Wlân.

Llanidloes

Llanidloes
Yn Llanidloes mae Afon Clywedog yn cwrdd ag Afon Hafren. Ynghanol y dref mae hen dy marchnad lle bu John Wesley yn pregethu.

 

Machynlleth

Machynlleth
Tref ar y ffin rhwng Powys, Gwynedd a Cheredigion ydy Machynlleth. Hon oedd prifddinas Owain Glyndwr (1400-1406). Heddiw, yn amgueddfa Celtica, mae cyfle i ddysgu am hanes y Celtiaid yng Nghymru.


Lluniau: Bwrdd Croeso Cymru


HELP


ger - near
prif lys - main court
canrif - century
man claddu - burial place
brenin - king
tywysog - prince
adfeilion - ruins
adeiladau - buildings
tolldy - toll house
talwrn ymladd ceiliogod - cockpit
dyffryn(noedd) - valley(s)
diwydiant - industry
telathrebu - telecommunications
traddodiad - tradition
ffin - border
boddi - to flood; drown
cronfa ddwr - reservoir
pen ucha - top end
emynydd - hymnwriter
mynwent - graveyard
bedd - grave
ffynnon - well
troedigaeth - conversion
amaethyddol - agricultural
Oes Efydd - Bronze Age
Oes Haearn - Iron Age
caer Rufeinig - Roman fort
gwaith plwm - lead works
cyfieithu - to translate
rhyfeddod - wonder
Canol Oesoedd - Middle Ages
Diwygiwr - Reformist
pregethu - to preach



> > Erthyglau - Articles < <

> > Ffeithlen - Fact File < <

> > Newyddion - News < <

>> Cyfweliadau - Interviews < <