w w w . a c e n . c o . u k cylchgrawn

Môn Mam Cymru

HELP
English

Y tro yma, rydyn ni'n croesi Afon Menai ac yn mynd ar daith o gwmpas Ynys Môn. Bydd Map OS o help mawr ar y daith yma, yn arbennig wrth edrych am olion hanes yr ynys!

Tan y 18fed ganrif roedd pobol yn croesi'r dwr mewn cwch neu fferi. Ond yn 1826 agorodd Pont Menai - pont grog enwog Thomas Telford. Yna, yn 1850, agorodd Pont Britannia - pont Robert Stephenson ar gyfer trenau. Yn 1970, aeth Pont Britannia ar dân ac yn 1980 agorodd fel pont ar gyfer trenau a cheir.

Heddiw, mae ffordd gyflym newydd yr A55 yn croesi'r bont ar ei ffordd i Gaergybi (Holyhead). Ffordd i bobol sy ar frys ydy hi! Ond rydyn ni eisiau gweld lleoedd diddorol Môn a'r henebion sy ym mhob man; felly byddwn ni'n teithio ar hyd rhai o hen ffyrdd yr ynys.

Gadewch i ni ddechrau ar yr A5 a theithio i'r pentref bach gyda'r enw hir - Llanfairpwllgwyngyllgogery
- chwyrndrobwllllantysiliogogo goch. Yma, yn yr orsaf, mae lle i gael paned, siopa am anrheg a thynnu llun o flaen yr enw. Mae'r A5 yn mynd ymlaen i Gaergybi drwy bentrefi bach Gaerwen a Gwalchmai. Rhwng Gaerwen a Gwalchmai mae'r A5114 yn mynd i brif dref yr ynys - Llangefni. Yma, yn Oriel Ynys Môn, gallwch chi ddysgu am yr ynys a mwynhau'r oriel gelf.
Llanfair PG  

Ond rydyn ni'n mynd i adael yr A5 a dilyn yr A4080 o gwmpas arfordir yr ynys. Yma, ger Llanfair PG mae Bryn Celli Ddu - siambr gladdu o'r Oes Neolithig - a Phlas Newydd, cartref Ardalydd Môn (Marquess of Anglesey) ac un o dai yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol (National Trust).
 
Bryn Celli Ddu

Yn Niwbwrch (Newborough) mae olion Llys Rhosyr - llys canoloesol Tywysogion Gwynedd. Yma hefyd mae nifer o atyniadau byd natur, fel Sw Môr Môn, Parc Fferm y Foel, Byd Adar Ynys Môn a Gwarchodfa Natur Niwbwrch. Ger Niwbwrch hefyd mae Llanddwyn, lle roedd Santes Dwynwen, nawddsant cariadon Cymru yn byw; lle da i fwynhau bywyd gwyllt a hwyl glan y môr.
Llanddwyn

Ymlaen â ni ar yr A4080 i fyny'r arfordir, dros Afon Cefni, heibio Aberffraw ac ymlaen i Rosneigr. Ar y dde, ar hyd yr arfordir mae baeau bach, traethau mawr a thwyni tywod - lleoedd da i fwynhau bywyd gwyllt a hwyl glan y môr. Mae Aberffraw yn safle pwysig sy'n mynd yn ôl miloedd o flynyddoedd. Yma roedd prif lys Tywysogion Gwynedd ac, heddiw, yn Llys Llywelyn mae canolfan sy'n adrodd hanes yr ardal. Os ydych chi eisiau tipyn o gyffro a swn, mae trac rasio ceir ger Aberffraw. Yn y wlad o gwmpas mae olion henebion, fel siambr gladdu fawr Barclodiad y Gawres, ger Rhosneigr.
Aberffraw
 

Ymlaen unwaith eto ar yr A4080, dros yr A55, ymuno â'r A5 a mynd ymlaen i'r Fali (Valley); troi i'r chwith yn Y Fali a dilyn y B4545 i Ynys Gybi (Holy Island). Gyrru drwy bentref Trearddur gyda'i faeau bach a'i longau hwylio a dringo i ben Mynydd Twr (Holyhead Mountain). Aros yma i fwynhau'r golygfeydd a gwylio'r cannoedd o adar sy'n nythu ar y clogwyni. Cyfle i ymweld ag arddangosfa'r RSPB yn Nhwr Elin neu gerdded i lawr at y goleudy ar Ynys Lawd (South Stack).
Ynys Lawd  
Nôl â ni wedyn a dilyn y ffordd i lawr i dref Caergybi. O'r porthladd yma mae'r fferi yn hwylio yn ôl ac ymlaen o Iwerddon (Ireland). Gerllaw mae olion caer Rufeinig fach ac eglwys Sant Cybi, sy'n mynd yn ôl i'r 6ed ganrif.
 
Caergybi

Gadael Caergybi ar yr A5 ac, yn y Fali, troi i'r chwith ar yr A5025 ar ein taith o gwmpas gogledd yr ynys - drwy Lanfachraeth a Llanfaethlu ac ymlaen i Gemaes. Ger Cemaes mae gorsaf niwclear yr Wylfa. Ymlaen â ni drwy Borthllechog (Bull Bay) nes cyrraedd Amlwch. Heddiw, mae'r porthladd bach yn dawel, ond o ddiwedd y 18fed ganrif tan ganol y 19eg ganrif roedd y lle'n brysur iawn yn allforio copor dros y byd.
Amlwch  
Ger Amlwch mae Mynydd Parys lle roedd gwaith copor mwya'r byd. Os ewch chi yno heddiw, gallwch chi weld olion yr hen waith.
 
Mynydd Parys
Ond ymlaen â ni eto ar yr A5025 drwy bentref Pensarn, pasio Traeth Dulas a Thraeth Lligwy ar y chwith ac ymlaen i Lanallgo. Ger y pentref mae cromlech fawr ac olion Din Lligwy, pentref o'r 4edd ganrif. Dilyn yr A5108 i bentref Moelfre gyda'i harbwr a'i fad achub enwog. Ymweld â Gwylfan Moelfre i ddysgu am hanes morwrol Môn.
Moelfre  
Nôl yn y car i Lanallgo a dilyn yr A5025 i Benllech. Mae'r ardal yn boblogaidd o achos lleoedd fel Traeth Bychan a Thraeth Coch. Ymlaen â ni i bentref Pentraeth a thoi i'r chwith ar y B5109 i dref Biwmares ac ymlaen i Benmon. Dyma lle daeth Sant Seiriol yn y chweched ganrif. Yma mae Ffynnon Seiriol ac olion Priody Penmon (12g) a Cholomendy o 1600. Mae olion eglwys Sant Seiriol ar Ynys Seiriol (Priestholm neu Puffin Island) gerllaw.
 
Priordy Penmon
Gadael Penmon ac yn ôl i Fiwmares. Yma, yn yr hen dref wrth y môr, mae castell Edward I (13g), Llys a Charchar Biwmares - lle gallwch chi ddysgu am helyntion y gorffennol - ac Amgueddfa Plentyndod.
Biwmares  
Mae'r daith yn dod i ben wrth i ni deithio tua thref Porthaethwy (Menai Bridge) a phont enwog Telford. Un cyfle arall i edrych dros Afon Menai a mynyddoedd hyfryd Eryri yn codi i'r awyr las!
 
Afon Menai

Lluniau: Bwrdd Croeso Cymru / Cyngor Ynys Môn / NPT

HELP

> > Erthyglau - Articles < <

> > Ffeithlen - Fact File < <

> > Newyddion - News < <

>> Cyfweliadau - Interviews < <