Ffeithlen
Arwyddion y Sidydd
This factsheet discusses the personality traits of the Signs of the Zodiac and how the signs were named.
ARIES - Yr Hwrdd
Yr enw:
Aries oedd yr hwrdd sanctaidd. Yn ôl y chwedl Roegaidd, aeth Jason ar daith hir i chwilio am ei gnu aur.Sut berson?
Yn cael ei reoli gan y planed Mawrth.Person anturus, annibynnol, bywiog a brwd.
Yn hoffi prosiectau a syniadau newydd.
Gallu bod yn ymosodol a checrus.
TAURUS - Y Tarw
Yr enw:
Roedd y duw Zeus eisiau merch hardd o'r enw Europa yn wraig. Felly dyma fe'n troi ei hun yn darw ac yn ei chario ar ei gefn i Ynys Creta.
Sut berson?
Yn cael ei reoli gan y planed Gwener.Person ymarferol, gofalus a dibynnol.
Yn hoffi'r celfyddydau a byd natur.
Gallu bod yn styfnig ac yn genfigennus.
GEMINI - Yr Efeilliaid
Yr enw:
Castor a Pollux oedd dau fab Zeus a Leda. Meidrolyn oedd Castor a duw oedd Pollux. Wedi i'r ddau farw mewn brwydr, rhoddodd Zeus eu cyrff gyda'i gilydd yn y sêr.
Sut berson?
Yn cael ei reoli gan y planed Mercher.
Person bywiog, galluog a deallus.
Yn hoffi amrywiaeth a newid.
Gallu bod yn anwadal ac yn ddiamynedd.
CANSER - Y Cranc
Yr enw:
Un o dasgau Heracles oedd lladd yr Hydra, y sarff naw pen. Llwyddodd i dorri pen olaf yr Hydra drwy daflu Cancer y cranc enfawr at y pen ola gan ladd dau elyn - yr Hydra a Cancer.
Sut berson?
Yn cael ei reoli gan y Lleuad/Lloer.
Person emosiynol, sensitif, caredig a chariadus.
Yn hoffi'r cyfarwydd.
Gallu bod yn oriog ac anodd ei ddeall.
LEO - Y Llew
Yr enw:
Un o dasgau Heracles oedd lladd llew Nimea. Roedd hwn yn llew ffyrnig iawn, ond lladdodd Heracles e gyda'i ddwylo. Yna, tynnodd groen y llew a'i wisgo.
Sut berson?
Yn cael ei reoli gan yr Haul.
Person cryf, balch, hyderus a dewr.
Yn hoffi sylw a phethau da bywyd.
Gallu bod yn sensitif iawn a dogmataidd.
VIRGO - Y Forwyn
Yr enw:
Roedd pobol y ddaear wedi troi'n farrus ac yn dywyllodrus ac roedd y duwiau yn Olympus wedi blino arnyn nhw. Ond roedd un ferch bur - Astraea - a rhoddodd Zeus hi yn yr awyr i ddisgleirio ynghanol y sêr.
Sut berson?
Yn cael ei reoli gan y planed Mercher.
Person dibynadwy, didwyll, gweithgar a thaclus.
Yn hoffi bod yn weithgar a manwl.
Gallu poeni gormod am faterion iechyd.
LIBRA - Y Glorian
Yr enw:
Symbol y Rhufeiniad am gyfiawnder oedd ffigur â mwgwd am ei lygaid yn cario clorian. Roedd y mwgwd yno i ddangos bod y gyfraith yn ddall i statws person - roedd pawb yn gyfwerth dan y gyfraith.
Sut berson?
Yn cael ei reoli gan y planed Gwener.
Person cymdeithasol, siriol, rhamantus a delfrydgar.
Yn hoffi bywyd tawel a gweithle hyfryd.
Gallu bod yn amhendant ac yn casáu bod ar ei ben ei hun.
SCORPIO - Y Sgorpion
Yr enw:
Roedd merch y duw Zeus - Artemis - yn caru Orion, mab y duw Poseidon. Ond roedd Apollo, brawd Artemis yn genfigennus ac anfonodd sgorpion enfawr i ladd Orion. Rhoddodd Artemis ac Apollo lun Orion yn yr awyr i gofio amdano.
Sut berson?
Yn cael ei reoli gan y planed Plwton.
Person emosiynol iawn, difrifol a phenderfynol.
Yn hoffi byw bywyd yn llawn.
Gallu bod yn genfigennus, drwgdybus a chyfrwys.
SAGITTARIUS - Y Saethydd
Yr enw:
Chiron oedd yr hanner dyn, hanner ceffyl oedd yn byw ar fynydd Pelion. Roedd brenhinoedd yn anfon eu meibion ato fe i ddysgu ffyrdd o ymladd a hefyd sut i wella gyda pherlysiau.
Sut berson?
Yn cael ei reoli gan y planed Iau.
Person caredig, dibynadwy, gonest ac optimistaidd.
Yn hoffi teithio a rhyddid.
Gallu ymddangos yn ddifeddwl.
CAPRICORN - Yr Afr
Yr enw:
Un o blant Neifion - duw'r môr - oedd Capricorn. Roedd ganddo ben a choesau blaen gafr a chynffon pysgodyn. Roedd y Rhufeiniaid yn credu mai Capricorn oedd yn creu stormydd ar y môr.
Sut berson?
Yn cael ei reoli gan y planed Sadwrn.
Person dibynadwy, gofalus, amyneddgar a threfnus.
Yn hoffi'r celfyddydau.
Gallu ymddangos yn oeraidd gyda hiwmor sych.
AQUARIUS - Y Cariwr Dwr
Yr enw:
Roedd Zeus yn edmygu Ganymede - y llanc golygus o Gaer Droia. Un diwrnod troidd Zeus ei hun yn eryr; cipiodd Ganymede a'i gario yn ôl i Olympus. Yno, ei waith oedd arllwys neithdar i gwpanau duwiau a duwiesau Olympus.
Sut berson?
Yn cael ei reoli gan y planed Wranws.
Person caredig, cyfeillgar, deallus a greddfol.
Yn hoffi annibyniaeth bersonol.
Gallu bod yn anrhagweladwy a phell.
PISCES
Yr enw:
Roedd Aphrodite, duwies cariad, allan am dro gyda'i mab Eros pan ddaethon nhw ar draws y Typhon - creadur hyll gyda chant o bennau. Pan oedden nhw'n rhedeg oddi wrtho, daethon nhw at afon. Yn sydyn, ymddangosodd dau bysgodyn enfawr; neidiodd Aphrodite ac Eros ar eu cefnau a dianc rhag y Typhon.
Sut berson?
Yn cael ei reoli gan y planed Neifion.
Person sensitif, tosturiol, dychmygus a greddfol.
Yn hoffi'r celfyddydau a chwaraeon dwr.
Gallu bod yn anhyderus ac yn groendenau.