w w w . a c e n . c o . u k cylchgrawn


Ffeithlen - Fact File
- - -
-

Gwyl Mabsant oedd y diwrnod slawer dydd (long ago) pan oedd y Cymry yn dathlu (celebrate) eu sant lleol. Ar y diwrnod yna roedden nhw'n dathlu drwy fynd i'r eglwys ac yna'n cael llawer o hwyl yn chwarae gemau, dawnsio a chanu ac yfed. Roedd y diwrnod yn gyfle i gofio a mwynhau eu hunain; roedd eu crefydd (religion) yn llawn hwyl.

Ond yna, wrth i'r Cymry droi'n anghydffurfiol (nonconformist) daeth pethau fel chwaraeon, dawnsio ac yfed yn bethau tabw. Dros amser, aeth llawer o'r hen arferion (customs) ar goll wrth i grefydd y Cymry fynd yn fwy difrifol (serious) a sobor.

Heddiw, mae pawb yn cofio ac yn dathlu Mawrth y cyntaf fel diwrnod Dewi, nawddsant (patron saint) Cymru. Ond tybed faint sy'n cofio am seintiau cynnar eraill Cymru? Mae eu henwau i'w gweld ar eglwysi ac mewn enwau lleoedd ledled y wlad.

Edrychwch ar fap o Gymru. Sawl lle sy'n dechrau â'r gair "llan" - darn o dir gyda wal o'i gwmpas lle roedd yr eglwysi cynharaf (earliest). Mae llawer iawn ohonyn nhw ag enw sant Celtaidd fel Dewi, Teilo neu Padarn - saint o'r pumed a'r chwech ganrif (century) fel arfer. Mae eraill ag enw Mair (The Virgin Mary), Mihangel (the Archangel Michael) a Pedr - eglwysi sy'n perthyn i'r 12ed ganrif ymlaen.
-
- - -


rhai gwylíau mabsant

ionawr

15 Cyndeyrn
24 Cadog
25 Dwynwen
chwefror

1 Ffraid
3 Seiriol
9 Teilo
mawrth

1 Dewi
5 Non
29 Gwynllyw
ebrill

5 Derfel
6 Brychan
15 Padarn
20 Beuno
mai

5 Asaff
21 Collen
28 Melangell
mehefin

14 Dudoch
15 Trillo
29 Pedr
gorffennaf

1 Euddogwy
3 Peblig
29 Samson
awst

1 Cenydd
3 Garmon
23 Tudful
medi

8 Mair
11 Deiniol
27 Baruc
29 Mihangel
hydref

9 Cynog
tachwedd

1 Cadfan
3 Gwenfrewi
5 Cybi
6 Illtud
12 Tysilio
14 Dyfrig
rhagfyr

1 Tudwal
5 Stinian
30 Tathan

- Eich cyfle chi i ddweud eich dweud.

Your chance to have your say in Welsh.