w w w . a c e n . c o . u k cylchgrawn


Ffeithlen

Yn y sêr

cyfieithiad / translation

This factsheet discusses the Welsh names for the zodiac.

Dych chi'n darllen eich sêr yn y papur newydd neu mewn cylchgrawn? Dych chi'n credu beth maen nhw'n ddweud? Neu ydy e i gyd yn dipyn o hwyl?

Mae pobol wedi credu yn nylanwad y sêr ers miloedd o flynyddoedd. Seren arbennig wnaeth arwain y Tri Sêr-ddewin neu Astrolegydd at Iesu Grist.

Heddiw, mae nifer fawr o bobol yn dal i gredu fod arwyddion y Sidydd yn chwarae rhan bwysig yn eu bywydau. Mae 12 arwydd yn y Sidydd ac mae'r enwau yn dod o fyd y Rhufeiniaid a'r Groegiaid. Mae'r planedau a'r sêr yn symud i mewn ac allan o'r arwyddion.

Mawrth 21 - Ebrill 20 ARIES Yr Hwrdd
Ebrill 21 - Mai 20 TAURUS Y Tarw
Mai 21 - Mehefin 21 GEMINI Yr Efeilliaid
Mehefin 22 - Gorffennaf 23 CANCER Y Cranc
Gorffennaf 24 - Awst 23 LEO Y Llew
Awst 24 - Medi 23 VIRGO Y Forwyn
Medi 24 - Hydref 23 LIBRA Y Glorian
Hydref 24 - Tachwedd 22 SCORPIO Y Sgorpion
Tachwedd 23 - Rhagfyr 21 SAGITTARIUS Y Saethydd
Rhagfyr 22 - Ionawr 20 CAPRICORN Yr Afr
Ionawr 21 - Chwefror 19 AQUARIUS Y Cariwr Dwr
Chwefror 20 - Mawrth 20 PISCES Y Pysgod

Sut berson ydy Aquarius? Pa arwydd ydy'r person poblogaidd neu ddewr? Eisiau gwybod mwy? Cliciwch ar Arwyddion y Sidydd.

cyfieithiad / translation
Help

credu - to believe
astrolegydd - astrologer
dylanwad - influence
astroleg - astrology
diwylliant - culture
crefydd - religion
arwain - to lead
astrolegydd - astrologer
Sidydd - Zodiac
arwydd(ion) - sign(s)
dyddiad - date
poblogaidd - popular
dewr - brave

- Eich cyfle chi i ddweud eich dweud.

Your chance to have your say in Welsh.