w w w . a c e n . c o . u k cylchgrawn

Ynys Môn

Dewiswch / Select

1. Map
2. Geirfa (Useful Words)
3. Oeddech chi'n gwybod? (Did you know?)
4. Ynys y Seintiau (The Isle of Saints)

Erthygl: Dewch am dro o gwmpas Ynys Môn
(Article: A journey around Angelesey)

1. Map



2. Geirfa

Wrth fynd o gwmpas Ynys Môn, edrychwch am y geiriau yma ar fap neu arwydd (sign):


caer - fort
capel - chapel
castell - castle
cromlech - burial chamber
cytiau'r gwyddelod
- hut settlements
eglwys - church
ffynnon - well
goleudy - lighthouse
llan - church
maen hir - standing stone
melin - mill
siambr gladdu - burial chamber



aber - estuary/mouth of river
afon - river
clogwyn(i) - cliff(s)
cors - marsh
cronfa ddwr - reservoir
cwningar - warren
gwarchodfa natur - nature reserve
llwybr - path
llyn - lake
mynydd - mountain
penrhyn - headland
porth - bay, harbour
traeth - beach
trwyn - point/headland
twyn(i) - dune(s)/hillock(s)




amgueddfa - museum
arddangosfa - exhibition
canolfan - centre
canolfan farchogaeth - riding centre
canolfan hamdden - leisure centre
canolfan dreftadaeth - heritage centre
canolfan ymwelwyr - visitor centre
neuadd - hall
oriel - gallery
porthladd - port
swyddfa - office



3. Oeddech chi'n gwybod?

Prif dref yr ynys ydy Llangefni - y dref ar lan Afon Cefni.
Tref fwya'r ynys ydy Caergybi (Holyhead) - mae'r fferi i Iwerddon (Ireland) yn gadael o'r porthladd yn y dref.
Mae ffordd newydd yn croesi'r ynys o Bont Britannia i Gaergybi - yr A55.
Amaethyddiaeth (agriculture) oedd y prif ddiwydiant (industry); mae'r arwyddair (motto) "Môn Mam Cymru" yn dod o'r amser pan oedd Môn yn cynhyrchu (produce) llawer o fwyd i Gymru.
Roedd llawer o felinau gwynt (windmills) ar yr ynys. Heddiw, dim ond un felin wynt sy'n gweithio - Melin Llynnon. Ond mae llawer o ffermydd gwynt ar yr ynys o gwmpas Llyn Alaw.
Heddiw, mae twristiaeth wedi dod yn bwysig iawn i economi'r ynys. Mae pobol yn dod yma i fwynhau'r traethau, y bywyd gwyllt a'r atyniadau (attractions).
Mae llawer o bobol ddi-Gymraeg wedi symud i fyw i'r ynys, i weithio ac i ymddeol (retire).
Yn ôl cyfrifiad (census) 2001 mae 70% o bobol yr ynys yn gallu siarad Cymraeg.



Ynys y Seintiau

HELP
English

Mae enwau seintiau Cristnogol i'w gweld ym mhob man ar yr ynys; seintiau fel Dwynwen (Llanddwyn), Cristiolus (Llangristiolus), Cadwaladr (Llangadwaladr) ac Edern (Bodedern). Dau o'r seintiau mwya enwog oedd Cybi a Seiriol. Roedden nhw'n byw yn y chweched ganrif.

Mab y Brenin Salom o Gernyw oedd Cybi; cafodd ei eni tua 483 O.C. Daeth yn offeiriad a gadael ei gartref. Yn gyntaf, aeth i Went ac yna i Iwerddon cyn dod yn ôl i benrhyn Llyn ac ymlaen i Fôn. Rhoddodd ei enw i Gaergybi ac i Ynys Gybi. Bu farw tua 555 O.C. a chafodd ei gladdu ar Ynys Enlli.

Cafodd Seiriol ei eni tua 490 O.C. Roedd yn fab i'r Brenin Owain Danwyn ac yn frawd i Frenin Cynlas o Rhos a Brenin Einion o Lyn. Daeth Seiriol i Fôn a chodi eglwys fach ym Mhenmon. Ond cododd ei ddau frawd briordy yno a Seiriol oedd abad cyntaf Penmon. Pan oedd yn hen, aeth i fyw ar yr ynys fach gerllaw - Ynys Seiriol.

Roedd Seiriol a Cybi yn ffrindiau a roedden nhw'n cyfarfod yn aml ger Ffynnon Clorach yn ymyl Llannerch-y-medd. Roedd wyneb Cybi bob amser at yr haul wrth fynd i Glorach ac wrth fynd yn ôl; felly roedd ei wyneb yn felyn. Ond roedd cefn Seiriol at yr haul wrth fynd a dod yn ôl; felly doedd e ddim yn cael lliw haul. A dyna, medden nhw, pan roedd ganddyn nhw'r enwau Cybi Felyn a Seiriol Wyn.

> > Erthyglau - Articles < <

> > Ffeithlen - Fact File < <

> > Newyddion - News < <

>> Cyfweliadau - Interviews < <