w w w . a c e n . c o . u k cylchgrawn

Newyddion

DYSGWR Y FLWYDDYN 2003
English
Help

Eleni eto daeth pedwar drwodd i rownd olaf cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn. Cafodd y pedwar eu cyflwyno ym Mhabell y Dysgwyr yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Meifod. Yna, mewn noson wobrwyo, cafodd enw'r enillydd ei gyhoeddi. Roedd camerâu HTV yno i ddilyn y pedwar ar gyfer rhaglen Gymraeg ar S4C ac un Saesneg ar ITV1 Wales.

Y pedwar oedd Teresa Marie Cody o Aberystwyth, Glyn Davies o Aberriw, Mike Hughes o Garno ac Aran Jones o Gaernarfon. Roedd y safon yn uchel iawn a'r enillydd oedd Mike Hughes. Derbyniodd Mike £300 a thlws Dysgwr y Flwyddyn. Derbyniodd y tri arall £100 a thlysau. Llongyfarchiadau i'r pedwar

Teresa Marie Cody
Cafodd Teresa ei magu fel Gwyddeles yn Birmingham. Daeth hi i Aberystwyth yn 2001 i astudio Bioleg yn y Brifysgol ond newidiodd ei meddwl a gwneud Astudiaethau Celtaidd drwy gyfrwng y Saesneg. Dechreuodd ddysgu Cymraeg fel rhan o'r cwrs ac erbyn hyn mae hi'n gwneud y cwrs cyfan drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae Teresa'n hoff iawn o gymdeithasu a nawr mae'r rhan fwya o'i ffrindiau yn y Brifysgol yn siaradwyr Cymraeg, sydd yn help iddi hi wella'i Chymraeg. Mae hi hefyd yn gweithio dros CYD ac roedd yn aelod o gôr canu gwerin CYD yn yr Eisteddfod ym Meifod.

Glyn Davies
Ffermwr o Aberriw, Powys ydy Glyn Davies, ond ers 1999 mae e wedi bod yn Aelod Cynulliad. Ei ddidordebau ydy chwaraeon a garddio. Roedd ei deulu i gyd yn siarad Cymraeg, ond penderfynodd ei rieni siarad Saesneg gyda fe a'i chwaer. Ar ôl dod yn Aelod Cynulliad, penderfynodd Glyn fynd ati i ddysgu'r Gymraeg ac ers 2000 mae e wedi bod yn cael gwersi un-i-un gyda Siân Jones, Swyddog y Gymraeg gydag Acen. Erbyn hyn mae Glyn yn hapus i siarad Cymraeg gyda phawb, i siarad Cymraeg ar lawr y Cynulliad ac i wneud cyfweliadau Cymraeg. Mae dysgu'r iaith wedi agor llygaid Glyn i hanes yr iaith a'i diwylliant ac mae'n siwr yn ei feddwl mai Tori oedd Owain Glyndwr!

Mike Hughes
Cafodd Mike ei eni a'i fagu yn Surrey, ond mae ei dad yn Gymro di-Gymraeg o'r De. Dechreuodd Mike ddysgu Cymraeg drwy lyfr 8 mlynedd yn ôl. Erbyn hyn mae e wedi gwneud TGAU a Lefel A Cymraeg. Symudodd e i ardal Carno, Powys bedair blynedd yn ôl lle mae'n byw gyda'i ddyweddi Andrea, sy'n mynd i ddechrau dysgu Cymraeg. Gweithiwr Allanol Gweldig gyda phrosiect iechyd meddwl ydy Mike. Mae hefyd yn aelod o Gylch Llenyddol Maldwyn, yn ysgrifennu colofn y dysgwyr i bapur bro Seren Hafren ac yn diwtor Cymraeg i Oedolion. Ei hobi ydy garddio ac mae e'n gwneud gradd allanol. Dyn prysur iawn, mae'n amlwg!

Aran Jones
Mae Aran Jones yn byw ac yn gweithio yng Nghaernarfon. Yn ei amser hamdden mae e'n mwynhau chwarae'r gitâr a'r sacsoffon ac mae'n brysur gyda'r grwp Cymuned. Cymry Cymraeg oedd nain a taid Aran ond symudon nhw i Loegr pan oedd ei fam yn chwech oed. Ers Chwefror 2003 mae wedi bod yn swyddog gyda Chyngor Gwynedd; cyngor sy'n gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg. Aeth e ar gwrs Cymraeg Wlpan yn Awst 2000 ac eto yn Awst 2001. Ers hynny mae Aran wedi bod yn defnyddio'r iaith yn naturiol yn ei fywyd pob dydd ac yn teimlo bellach ei fod yn Gymro llawn.

HELP

> > Erthyglau - Articles < <

> > Ffeithlen - Fact File < <

> > Newyddion - News < <

>> Cyfweliadau - Interviews < <