Newyddion
Gwobrau BAFTA Cymru 2001
Nos Sadwrn 25 Mai 2002 yn yr Arena Ryngwladol, Caerdydd roedd hi'n noson cyflwyno gwobrau BAFTA Cymru ar gyfer 2001. Cyflwynydd y noson oedd Huw Edwards ac roedd llawer iawn o bobol byd y teledu a ffilm yno.
Roedd ein llygaid ni ar y wobr am y rhaglen addysgiadol orau, lle roedd tair rhaglen yn cystadlu am y BAFTA - Bitesize GCSE Cymraeg (BBC Cymru), Tales from Wales (Fflic ar gyfer C4) a Welsh in a Week (Fflic ar gyfer S4C).
Welsh in a Week enillodd ac roedd pawb o Fflic, Acen ac S4C yn falch iawn! Dyma'r ail wobr mae Welsh in a Week wedi'i hennill eleni; ddiwedd Mawrth, enillodd hi brif wobr yr Wyl Ffilm a Theledu Geltaidd yn Llydaw .
Mae Fflic ac Acen wedi gweithio gyda'i gilydd ar 3 cyfres arall i ddysgwyr ar gyfer S4C - Now You're Talking, Rap a Ding Dong. "Gwaith tîm" oedd hwn, meddai Gwenda Griffith - cynhyrchydd y 4 cyfres - yn falch iawn wrth iddi dderbyn y wobr. Roedd hon yn noson arbennig iawn iddi hi, achos enillodd ei mab, Dylan Griffith, BAFTA am y Promo Gorau.
Llongyfarchiadau i bawb!
BAFTA Cymru 2001 Awards
On Saturday 25 May 2002 the BAFTA Cymru 2001 awards ceremony was held at the Cardiff International Arena. Presenter for the evening was Huw Edwards and many people from the film and television industry in Wales were gathered there.
Our eyes were focussed on the the award for the best educational programme, where three programmes were nominated for a BAFTA - Bitesize GCSE Cymraeg (BBC Cymru), Tales from Wales (Fflic for C4) and Welsh in a Week (Fflic for S4C).
The winner was Welsh in a Week and everyone from Fflic, Acen and S4C was delighted with the announcement. This is the second award Welsh in a Week has won this year; at the end of March, it won the main award at the Celtic Film and Television Festival in Britanny .
Fflic and Acen have worked together on three other series for learners for S4C - Now You're Talking, Rap and Ding Dong. "This was down to team work," said a delighted Gwenda Griffith - producer of all 4 series - as she received the award. This was a very special evening for her, as her son, Dylan Griffith, won a BAFTA for the Best Promo.
Congratulations to all!