w w w . a c e n . c o . u k cylchgrawn


Newyddion

Hydref 2001

Basil Davies


- Nos Fercher 16 Mai 2001 yng ngwesty Dewi Sant Bae Caerdydd roedd Coleg Digidol Cymru yn cynnal ei noson wobrwyo gyntaf. Yn y gynulleidfa (audience) roedd enw adnabyddus (well-known) ym myd dysgu Cymraeg yn ail-iaith. Roedd e yna i dderbyn gwobr arbennig am ei gyfraniad (contribution) mawr i'r Gymraeg fel tiwtor ac awdur llyfrau a chyrsiau; mae llawer hefyd yn ei nabod fel ffrind da.

Y person pwysig oedd Basil; does dim rhaid dweud "Davis" achos dim ond un Basil sy ym myd dysgu Cymraeg! Yn frodor (native) o Borth-y-rhyd, Sir Gaerfyrddin, daeth Basil i fyw ac i weithio yn y de-ddwyrain.

Ar y noson, cafodd y gynulleidfa gyfle i glywed am ei hanes a'i gyfraniad (contribution) gan un arall o drigolion y Barri, Euryn Ogwen Williams. Derbyniodd hefyd gopi o "Rhyfeddaf Fyth", cyfrol (volume) arbennig o waith yr emynydd (hymn writier) Ann Griffiths gan Wasg Gregynog (Gregynog Press).

Dydy iechyd (health) Basil ddim wedi bod yn rhy dda yn ddiweddar, ond roedd y wên fawr a'r llygaid disglair yn dweud bod yr ysbryd (spirit) yn dal yn gryf. Roedd e'n amlwg wedi mwynhau'r noson ac roedd pawb yno yn falch o'i weld yn edrych mor dda.
- Eich cyfle chi i ddweud eich dweud.

Your chance to have your say in Welsh.